Diweddariad 07/07/2026
Oherwydd y tywydd poeth ar hyn o bryd, bydd ein criwiau casglu gwastraff yn dechrau eu rowndiau yn gynt nag arfer.
Bydd y newid hwn yn helpu i ddiogelu iechyd a diogelwch ein staff, sy’n gweithio mewn amodau corfforol heriol ac sy’n wynebu fwy o berygl pan fydd y tymheredd yn uchel.
Beth mae hyn yn ei olygu i chi:
Gwnewch yn siŵr bod eich biniau yn cael eu rhoi allan i’w casglu’r noson cyn y diwrnod casglu, neu heb fod yn hwyrach na 6:00am.
Bagiau ailgylchu amldro coch a phorffor
Mae gwaith lledaenu ein bagiau ailgylchu amldro yn awr wedi ei orffen! Mae pob aelwyd ar draws y Sir yn awr yn defnyddio’r gwasanaeth newydd ac ni fedrwn bellach gasglu unrhyw ailgylchu mewn bagiau plastig untro.
Mae’n wirioneddol bwysig mai dim ond eitemau y gallwn ei ailgylchu y mae preswylwyr yn ei roi yn y bagiau … sylweddolwn y gall plastigau, er enghraifft, fod yn ddryslyd! Mae gwybodaeth ar yr hyn y gellir ac na ellir ei gynnwys ar gael yma.
Calendr casglu sbwriel bob bythefnos 2026
Rhowch eich gwastraff ac ailgylchu cyn 7am.
Gellir casglu bagiau ailgylchu o’n Hybiau Cymunedol, mae’r amserau agor ar gael yma.
Rhestr o’r holl Safleoedd Bagiau Ailgylchu
Casgliadau Ailgylchu a Gwastraff
Pryd yw fy niwrnod casglu?
Canolfannau Ailgylchu
Cwestiynau Cyffredin
