Mae’r system talu gwastraff gardd wedi ail-agor. Gallwch yn awr gofrestru ar-lein, dros y ffôn neu yn yr Hybiau Cymunedol.

Mae Sir Fynwy yn cynnig casgliadau gwastraff gardd bob pythefnos gan ddefnyddio biniau olwyn 240 litr.

Bydd pob bin yn cael ei gasglu unwaith bob pythefnos o’r 6ed Mawrth 2023 i’r 8fed Rhagfyr 2023.

Gydag un casgliad ychwanegol rhwng 8fed – 19eg Ionawr 2024 i helpu gyda’r casgliad o gwymp dail a choed Nadolig.

Y tâl fesul bin ar gyfer tymor 2023 yw £50.

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am y penderfyniad i gynyddu’r pris.

Mae’n rhaid i gwsmeriaid presennol ddefnyddio’u biniau o’r llynedd.

Bydd cwsmeriaid newydd neu’r rhai sydd yn archebu mwy o finiau na’r llynedd yn derbyn eu bin./iau erbyn 4 Mawrth os ydych wedi cofrestru erbyn y 26ain Chwefror. Wedi’r dyddiad hwn, bydd biniau newydd yn cael eu danfon atoch o fewn 14 diwrnod ar ôl i chi osod eich archeb.

Gallwch wirio eich diwrnod casglu yma – Casgliadau Sbwriel Cartref


Cofrestru ar gyfer y gwasanaeth gwastraff gardd 2023

Os cawsoch neges yn dweud “methu derbyn” yn ystod y broses dalu, gofynnir i chi beidio ceisio talu eto. Os bu eich taliad yn llwyddiannus byddwch yn derbyn neges e-bost yn cadarnhau eich cofrestru.

Bydd angen mewngofnodi i ‘Fy Sir Fynwy’ i dalu am y gwasanaeth gwastraff gardd. Os oeddech yn gwsmer gwastraff gardd llynedd bydd gyda chi gyfrif yn barod.

Os nad oes gennych gyfrif yn barod bydd angen cofrestru.

Nid yw’n gadael i mi gofrestru ar Fy Sir Fynwy gyda fy nghyfeiriad e-bost.

Os yw’r neges gwall yn dweud ‘Mae’r cyfeiriad e-bost hwn yn bodoli eisoes’, gallai hyn feddwl eich bod eisoes wedi cofrestru gyda ni, neu fod y timau gwasanaethau cwsmeriaid wedi eich cofrestru. I ailosod eich cyfrinair gyda’r cyfeiriad e-bost hwnnw, cliciwch ar y botwm ‘Wedi Anghofio’r Cyfrinair’ o dan y sgrin fewngofnodi.

Telerau ac Amodau


Cwestiynau cyffredin taliadau gwastraff gardd

Beth aeth o’i le gyda’r system? 
Bu gwall yn y system ond gobeithiwn y cafodd rhan fwyaf y problemau eu datrys. Rydym yn parhau i weithio gyda phob parti perthnasol i drin rhai o’r problemau ysbeidiol a gaiff rhai o’n cwsmeriaid.

Beth os yw fy nhaliad ar-lein wedi methu?
Gall taliad fethu am lawer o resymau:

Cynlluniwyd protocol 3D Secure i helpu gostwng twyll drwy alluogi banciau sy’n cyhoeddi cardiau i ddilysu eu deiliaid cardiau pan maent yn siopa ar-lein Mae’r rhan fwyaf o gynlluniau cerdyn yn cefnogi 3D Secure gyda’u protocol dilysu brand eu hunain – er enghraifft mae Visa yn defnyddio Verified by Visa, enw protocol MasterCard yw Identity Check, ac yn y blaen. 

Rhesymau posibl dros i daliad fethu:

  • Os nad yw’r darparydd cerdyn wedi actifeiddio eu dilysiadau 3D Secure
  • Os nad yw deiliad cerdyn wedi cofrestru ar gyfer 3D Secure gyda’u darparydd cerdyn.
  • Os na chafodd y manylion eu dilysu yn gywir.
  • Gwall system.
  • Gwall dynol

Ydych chi wedi defnyddio’r un cerdyn ar gyfer prynu pethau ar-lein o’r blaen? Oes gennych chi gerdyn arall y gallech ei ddefnyddio?

Os yw hyn yn methu, gallwch dalu dros y ffôn ar 01633 644644 (pwyso opsiwn 2 ar gyfer Cymraeg) yna dewis Opsiwn 3 ar gyfer ailgylchu a gwastraff) neu ymweld ag un o’r Hybiau yn y Fenni, Tre-fynwy, Cas-gwent, Cil-y-coed neu Brynbuga.

Cefais broblem yn ystod y broblem talu. Beth ddylwn i wneud?
Gallech fod wedi cael tudalen yn ymddangos yn dweud “nid yw’r system ar gael” neu mae wedi cymryd amser hir wrth ddilysu’r taliad.

Gwyddom fod y cysylltiad rhwng y tudalennau yn rhedeg ychydig yn arafach nag arfer. Byddwch yn amyneddgar os gwelwch yn dda, os na chewch eich dargyfeirio yn 2 munud, gofynnir i chi gau’r porwr gwe, gwirio eich e-byst am e-bost cadarnhau, os cewch gadarnhad mae eich taliad wedi ei dderbyn.

Os na chewch neges e-bost i gadarnhau, gallwch nail ai:
1) Rhoi cynnig arall ar wneud y taliad ar-lein.
2) Cysylltu â ni ar 01633 644644 i dderbyn eich taliad dros y ffôn.
3) Ymweld ag un o’n Hybiau Cymunedol yn y Fenni, Trefynwy, Cas-gwent, Ci-y-coed neu Frynbuga i wneud eich taliad.

A fydd y gwasanaeth yn dechrau fel y bwriadwyd ar 6 Mawrth? 
Bydd, bydd y gwasanaeth yn dechrau ar 6 Mawrth. Bydd biniau eisoes gan y rhan fwyaf o gwsmeriaid. Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i ddosbarthu biniau i gwsmeriaid newydd felly cofrestrwch cyn gynted ag sydd modd os gwelwch yn dda.

Cefais dderbynneb taliad wedi methu. Beth ddylwn i wneud?
Gwiriwch os ydych hefyd wedi cael hysbysiad cadarnhau taliad drwy e-bost. Os cawsoch gadarnhad, mae eich taliad wedi ei dderbyn.

Os na chewch neges e-bost i gadarnhau, gallwch nail ai:
1) Rhoi cynnig arall ar wneud y taliad ar-lein.
2) Cysylltu â ni ar 01633 644644 i dderbyn eich taliad dros y ffôn.
3) Ymweld ag un o’n Hybiau Cymunedol yn y Fenni, Trefynwy, Cas-gwent, Ci-y-coed neu Frynbuga i wneud eich taliad.

Rwyf wedi talu ddwywaith – sut y gallaf gael fy arian yn ôl?
Peidiwch â phoeni, casglwch eich holl wybodaeth e.e. rhifau cais gwasanaeth, derbynebau, dyddiadau ac amserau, 4 digid olaf eich rhif cerdyn a’n ffonio ar 01633 644644 neu anfon e-bost at contact@monmouthshire.gov.uk  a byddwn yn gwirio’r system a chael eich arian yn ôl i chi cyn gynted ag sydd modd.

Nid wyf wedi medru talu ar-lein ac yn methu mynd i un o’r hybiau, sut allaf i dalu?
Dim problem, mae gennym nifer o swyddogion a all dderbyn taliad dros y ffôn. Ffoniwch ni ar 01633 644644 a gallwn fynd drwy hyn gyda chi.
Byddai’n syniad da cael rhywbeth i ysgrifennu  gan y bydd angen i chi ysgrifennu rhif pin pan fyddwn yn eich trosglwyddo i’r llinell ddiogel i roi manylion eich cerdyn.


Cwestiynau cyffredin casgliadau gwastraff gardd

Pryd allaf gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gardd yn 2023?
Agorwyd cofrestru ar-lein i’r cyhoedd ar 26ain Ionawr 2023.
O’r 2il Chwefror 2023 byddwch hefyd yn gallu cofrestru drwy ffonio ein canolfan gyswllt neu gofrestru yn yr Hybiau Cymunedol.

Mae cyfnod y gwasanaeth casglu yn dechrau o’r 6ed Mawrth 2023. Rhaid i chi gofrestru erbyn 17eg Chwefror i fod yn barod am eich casgliad cyntaf.

Bydd y cyfnod cofrestru yn dod i ben ar 1af Medi 2023.

Pryd fydd fy min yn cael ei ddanfon?
Bydd disgwyl i gwsmeriaid presennol sy’n archebu’r un nifer o finiau â’r llynedd ddefnyddio’r biniau sydd ganddyn nhw’n barod.

Bydd cwsmeriaid newydd, neu’r rhai sy’n archebu mwy o finiau na’r llynedd, yn derbyn eu bin/biniau o fewn 14 diwrnod o archebu. Rhaid i chi gofrestru erbyn 17eg Chwefror i sicrhau eich bod yn derbyn eich bin cyn i’r casgliadau ddechrau.

Pam fod y pris yn cynyddu?
Mae’n ddrwg gennym eich hysbysu o’r cynnydd mewn prisiau, cytunwyd ar hyn drwy’r broses o benderfyniadau cynghorwyr ac ymgynghoriad cyhoeddus. Mae’r cynnydd yn angenrheidiol er mwyn talu am y gost lawn o ddarparu’r gwasanaeth.  Cliciwch yma i gael mwy o  wybodaeth.

Mae’r bin wedi torri ac mae angen ei amnewid.
Os ydych wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth gwastraff gardd 2023 ac mae eich bin wedi torri, cysylltwch â ni ac fe wnawn ni amnewid y bin. Cysylltwch â ni ar ebost: contact@monmouthshire.gov.uk neu ffoniwch 01633 644644.

Sut mae defnyddio’r bin olwyn?
Dylech gadw’ch bin gwastraff gardd ar eich eiddo.  Llenwch â gwastraff gardd, sicrhau bod y caead ynghau. Mae gan eich bin ddwy olwyn ar yr un ochr â’r handlen.  Gogwyddwch y bin fel ei fod ar y ddwy olwyn a byddwch yn gallu ei symud. Rhowch eich bin wrth ymyl y palmant cyn 7am ar eich diwrnod casgliadau. Ar ôl y casgliad, dychwelwch eich bin i’ch eiddo.

Beth yw dimensiynau’r bin olwyn?
Y dimensiynau yw: lled o 58.2cm (ar yr ymyl uchaf) x dyfnder o 72.4cm x uchder cyffredinol o 106.6cm (gyda’r caead ar gau).
Mae gan y biniau olwynion gapasiti o 240 litr.
Mae bin olwyn yn cyfateb i 3 o’r hen fagiau brown (80 litr yr un).

Pryd fydd fy ngwastraff gardd yn cael ei gasglu?
Bydd pob bin yn cael ei gasglu unwaith bob pythefnos o’r 6ed Mawrth 2023 i’r 8fed Rhagfyr 2023.

Gydag un casgliad ychwanegol rhwng 8fed – 19eg Ionawr 2024 i helpu gyda’r casgliad o gwymp dail a choed Nadolig.

Gall eich Diwrnod Casglu newid o beth oedd y llynedd. Gallwch wirio eich diwrnod casglu yma – Casgliadau Sbwriel Cartref

A fydda i’n cael trwydded gyda bin olwyn?
Ni fyddwch yn derbyn trwydded gorfforol.  Bydd cofnod o’ch tanysgrifiad i’r gwasanaeth gwastraff gardd yn cael ei storio’n electronig a bydd gan y criwiau casglu system sy’n dweud wrthynt ba eiddo sydd wedi talu am y gwasanaeth.

Beth os nad ydw i’n gallu storio bin?
Yn gyffredinol, nid yw bin olwyn yn cymryd mwy o le na’r bagiau.  Os na allwch storio bin olwyn oherwydd nad oes gennych le rhwng blaen yr eiddo a’r briffordd gyhoeddus, byddwn yn gweithio gyda’n trigolion i sicrhau bod y gwasanaeth ar gael iddynt o hyd.  Cysylltwch â’r cyngor drwy ffonio’r canlynol: 01633 644644.

Beth os nad ydw i’n gallu symud bin?
Mae’r biniau ar olwynion, fel eu bod yn hawdd i breswylwyr i’w symud ac nid oes rhaid eu cario na’u codi fel bag. Os nad oes aelod o’r aelwyd yn gorfforol yn gallu symud bin olwyn, byddwn yn gweithio gyda chi i sicrhau bod y gwasanaeth ar gael i chi o hyd. Cysylltwch â’r cyngor drwy ffonio’r canlynol:  01633 644644.

A fydd toriad arall yn y gwasanaeth gwastraff gardd?
Cafodd y gwasanaethau allweddol eu blaenoriaethu yn ystod cyfnodau clo Covid19 gyda’r pwysau a roddwyd ar lefelau staffio. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i gadw’r gwasanaeth gwastraff gardd yn rhedeg fel arfer ond ni ellir gwarantu hyn.

Sut y gallaf reoli fy ngwastraff gardd gartref?
Bydd codi’r uchder torri ar lafnau peiriannau torri gwair, a thorri gwair yn amlach heb gasglu’r toriadau gwair yn helpu i ffrwythloni’r ddaear a lleihau faint o wastraff y mae angen ei waredu.
Mae compostio gartref yn ddewis amgen hawdd ar gyfer ymdrin â thoriadau glaswellt, dail a thocion perthi.
Nid oes angen bin compost, i gyd sydd rhaid cael yw man bach wedi’i neilltuo ar gyfer tomen gompost syml. Os yw mewn man heulog, bydd toriadau’r borfa’n pydru’n gyflym, felly gall hyn fod yn ateb ymarferol tra bo casgliadau gardd wedi’u gohirio.
Gall tomen gompost gardd fod yn dda i bryfed a bywyd gwyllt ar adeg pan fo angen cartref ar natur hefyd. Mae porfa, gwrychoedd a chanopi coed gwyllt hefyd yn chwarae rhan enfawr yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

A allaf losgi fy ngwastraff gardd?
Peidiwch â llosgi gwastraff gardd nac unrhyw wastraff arall os gwelwch yn dda. Mae swyddogion iechyd yr amgylchedd yn gweld cynnydd mawr yn y nifer o gwynion am hyn ac maent wedi apelio at drigolion y sir i fod yn gymdogion da yn ystod y cyfnod anodd hwn.  Mae angen i bobl â phroblemau anadlu presennol a’r rhai sy’n gwella o Covid-19 gael eu diogelu rhag ansawdd aer gwael, gan gynnwys mwg o goelcerthi.


Rheolau Casgliadau

Gwasanaeth gwastraff gardd tymhorol:
Mae’r gwasanaeth gwastraff gardd yn gasgliad tymhorol a bydd yn weithredol o fis Mawrth tan ddiwedd mis Tachwedd.  Bydd 20 casgliad posibl yn ystod y tymor. Byddwn yn darparu 1 casgliad ychwanegol ym mis Ionawr i helpu gyda’r cwymp dail a choed Nadolig.

Rhowch eich biniau allan i’w casglu cyn 7am ar eich diwrnod casgliad.

Rhaid i bob gwastraff gardd fod y tu mewn i’r bin (nid yn gorlifo).

Ni ddylai’r bin gwastraff gardd fod yn rhy drwm.  Bydd yn rhaid i’r cwmni fynd â’r bin i’r cerbyd casglu.  Nid oes terfyn pwysau penodol.  Os na all y cwmni symud y bin ar ei olwynion yn ddiogel, mae’r cyngor yn cadw’r hawl i beidio â gwagio’r bin.

Os yw’r bin wedi’i lygru gyda’r math anghywir o wastraff (e.e. gwastraff bwyd), mae’r cyngor yn cadw’r hawl i beidio â gwagio’r bin.

Mae’r eitemau canlynol yn cael eu derbyn yn y bin gwastraff gardd:

Ie, os gwelwch yn dda.Na, dim diolch.
Toriadau gwairPridd, cerrig, graean a rwbel
Dail a rhisglCanghennau mawr neu foncyffion dros 2″ mewn diamedr
Toriadau planhigion a blodauLlysiau’r Dial a Llysiau’r Gingroen
Brigau a changhennau bach hyd at 2″ mewn diamedrGwastraff bwyd
Dillad gwely anifeiliaid llysieuolgwastraff/gwasarn cath, ci neu adar

Sut i ddechrau Compostio

Ddim yn siŵr beth i’w wneud â’ch gwastraff gardd?

  1. Dechreuwch ei gompostio, nid yw’n cymryd llawer o le, mae’n hawdd ei wneud, a bydd yn rhoi compost i chi daenu ar eich blodau a’ch llysiau, gweler y fideo isod
  2. Storiwch y gwastraff nes bod casgliadau gwastraff gwyrdd yn ail-ddechrau
  3. Codwch uchder eich torrwr gwair a thaenwch y toriadau yn ôl i’r ddaear yn hytrach na’u casglu
  4. Torri rhan lai o’ch lawnt os gallwch, a gadewch iddo dyfu Cychwyn
  5. Eich Compostio.

Sut i gompostio gwastraff gardd:

  • crëwch bentwr bach o laswellt, dail a thoriadau gwrych
  • Yn ddelfrydol mewn llecyn heulog (felly mae’n pydru’n gyflymach) ac ar bridd
  • trowch bob hyn a hyn gyda fforc gardd
  • peidiwch â chynnwys gwastraff bwyd
  • Gadewch i’r pryfed wneud y gweddill
  • Dylai’r compost fod yn barod ymhen 12 mis

Ac i helpu natur yn ystod yr argyfwng hinsawdd hwn

  • Gadewch ychydig o ddarnau gwyllt yn eich gardd
  • Peidiwch â phrynu chwynladdwyr a phlaladdwyr
  • Caiff pryfed peillio eu denu i’ch gardd
  • Bydd adar yn dilyn wrth chwilio am bryfed blasus
  • Mae gwrychoedd, llwyni a choed yn darparu bwyd a chysgod i anifeiliaid gwyllt
  • Bydd gorchudd canopi coed yn helpu i leihau llygredd aer ac effeithiau newid yn yr hinsawdd

Cofiwch nad yw natur yn daclus … ac mae angen natur arnom nawr gymaint ag y mae natur ein hangen ni!

Cyngor yr RHS ar wneud compost: https://www.rhs.org.uk/advice/profile?pid=444

Cyngor compostio Henry Doubleday Garden Organic: https://www.gardenorganic.org.uk/compost

Mae gan Henry Doubleday Garden Organic set o daflenni adnoddau gyda gwybodaeth ar gyfer dewis y dull compostio cywir ar gyfer eich sefyllfa: https://www.gardenorganic.org.uk/sustainable-communities-resources