Skip to Main Content

Datganiad hygyrchedd ar gyfer Cyngor Sir Fynwy

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.monmouthshire.gov.uk/cy

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Gyngor Sir Fynwy. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl i allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau gwrthgyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo’r testun at hyd at 300% heb iddo fynd oddi ar ochrau’r sgrin
  • welywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • welywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar ran fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan hon ar gael yn llawn o ran hygyrchedd:

  • ni fydd y testun yn ail-lifo mewn un golofn pan fyddwch yn newid maint ffenestr y porwr
  • ni allwch addasu uchder llinell na bylchau testun
  • nid yw’r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
  • nid oes gan ffrydiau fideo byw gapsiynau
  • mae’n anodd llywio rhai o’n ffurflenni ar-lein gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • ni allwch neidio i’r prif gynnwys wrth ddefnyddio darllenydd sgrin
  • mae terfyn i ba raddau y gallwch chwyddo’r map ar ein tudalen ‘cysylltu â ni’

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:

  • e-bostiwch: communications@monmouthshire.gov.uk
  • ffoniwch: 01633 644644
  • Neuadd y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 30 diwrnod.

Adroddwch am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: [rhowch fanylion am sut i roi gwybod am y materion hyn i’ch sefydliad a manylion cyswllt yr uned neu’r person sy’n gyfrifol am ddelio â’r adroddiadau hyn].

Y weithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb.

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni eich hun

Rydym yn darparu gwasanaeth trosglwyddo testun ar gyfer pobl sy’n Fyddar/byddar, sydd â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd.

Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sefydlu sain, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain.

Cysylltwch â ni

Rhif Ffôn: 01633 644644

Cyfeiriad: Neuadd y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Ebost: contact@monmouthshire.gov.uk

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan ar gael, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, oherwydd cydymffurfiaeth PDF, mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn gweithio i’w gywiro erbyn mis Chwefror 2022.

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Nid oes gan rai delweddau ddewis testun amgen, felly ni all pobl sy’n defnyddio darllenydd sgrin gael gafael ar y wybodaeth. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.1.1 (pethau nad ydynt yn destun).

Baich anghymesur

Llywio a chael gafael ar wybodaeth

Nid oes unrhyw ffordd o hepgor y cynnwys mynych ym mhenawdau tudalen (er enghraifft, opsiwn ‘neidiwch i’r prif gynnwys’).

Nid yw bob amser yn bosibl newid cyfeiriadedd y ddyfais o lorweddol i fertigol heb ei gwneud yn anos gweld y cynnwys.

Nid yw’n bosibl i ddefnyddwyr newid maint testun heb i rywfaint o’r cynnwys orgyffwrdd.

Offer a thrafodion rhyngweithiol

Mae’n anodd llywio rhai o’n ffurflenni rhyngweithiol drwy ddefnyddio bysellfwrdd. Er enghraifft, oherwydd bod rhai rheolaethau ffurf heb y tag ‘label’.

Mae ein ffurflenni’n cael eu hadeiladu a’u cynnal drwy feddalwedd trydydd parti a’u ‘gorchuddio’ i edrych fel ein gwefan.

Rydym wedi asesu’r gost o ddatrys y problemau gyda llywio a chael gafael ar wybodaeth, a gydag offer a thrafodion rhyngweithiol. Credwn y byddai gwneud hynny’n awr yn faich anghymesur o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd. Byddwn yn gwneud asesiad arall pan fydd y contract cyflenwyr yn cael ei adnewyddu.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau PDF ac eraill

Mae rhai o’n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ddogfennau PDF gyda gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gael mynediad i’n gwasanaethau, a ffurflenni a gyhoeddir fel dogfennau Word. Erbyn mis Medi 2020, rydym yn bwriadu naill ai trwsio’r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn eu gwneud yn ofynnol i ni unioni dogfennau PDF neu eraill a gyhoeddwyd cyn

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.

Fideo byw

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi’i heithrio rhag

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 19/11/21. Fe’i hadolygwyd diwethaf ar 16/11/21.