Skip to Main Content

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut y defnyddiwn yr wybodaeth a gasglwn amdanoch chi a’r gweithdrefnau sydd gennym ar waith i ddiogelu eich preifatrwydd.

Mae gennym ymrwymiad i sicrhau y caiff eich preifatrwydd ei ddiogelu. Dan Ddeddf Diogelu Data 1998 mae’n ddyletswydd gyfreithiol arnom i ddiogelu unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn gennych.

Yr wybodaeth bersonol a gasglwn a sut y’i defnyddiwn

Nid ydym yn casglu a chadw unrhyw wybodaeth bersonol am unrhyw un sy’n defnyddio’r wefan yma, heblaw lle dewiswch roi gwybodaeth bersonol i ni yn wirfoddol drwy’r cyfryngau cymdeithasol, e-bost neu drwy ddefnyddio ffurflen electronig ar y wefan, neu drwy holi am unrhyw un o’n gwasanaethau.

Yn yr amgylchiadau hyn dim ond i roi’r wybodaeth neu wasanaeth y gofynnwyd amdanynt y defnyddir yr wybodaeth bersonol a gyflenwyd os na nodir dibenion ehangach yn y ffurflen y cyflenwir yr wybodaeth neu adeg casglu ar y wefan – ac os felly gellir defnyddio’r wybodaeth ar gyfer unrhyw un o’r dibenion ehangach hyn.

Fy Sir Fynwy 

Bydd Cyngor Sir Fynwy’n cofnodi eich data os ydych wedi gwneud cais am wasanaeth neu wybodaeth gennym. Diben gwneud hyn fydd prosesu eich cais. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw yn ein system Fy Sir Fynwy.

Fel defnyddiwr, bydd Cyngor Sir Fynwy’n casglu eich data, er enghraifft e-bost a chyfeiriad cartref, os ydych yn dewis rhannu’r rhain gyda ni. Byddwn yn eu defnyddio i gysylltu â chi er mwyn eich diweddaru ar eich cais am wasanaeth ac i gysylltu â chi os oes angen.

Bydd eich data’n cael ei gadw’n ddiogel a bydd modd i staff, ein cyflenwyr a’n partneriaid, gan gynnwys cynghorau tref a chynghorau cymuned Sir Fynwy, neu ein contractwyr ei gweld a’i rhannu os yw hynny’n briodol. Mae hyn yn sicrhau y gellir cyfeirio eich pryderon i’r adran gywir o fewn y cyngor, neu i’r darparwr gwasanaeth perthnasol os yw’n bartner. Wrth gyflwyno eich data personol, rydych yn rhoi gwybod i ni eich bod yn cytuno gyda’r canlynol.

  • Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth gydag unrhyw sefydliad at ddibenion marchnata, ymchwil y farchnad na dibenion masnachol. Mae’n bosib y byddwn yn pasio eich gwybodaeth bersonol ymlaen os oes gennym rwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth gydag adrannau eraill o fewn Cyngor Sir Fynwy at ddibenion cyfreithiol eraill.
  • Os nad ydych yn cytuno â’r datganiad hwn, ac nac ydych eisiau defnyddio’r gwasanaeth hwn mwyach gallwch ddadgofrestru. Gallwch wneud hyn drwy fewngofnodi i’ch cyfrif >Fy Nghyfrif > Dadgofrestru fy nghyfrif neu drwy gysylltu â’n Canolfan Gyswllt. Gallwch barhau i gyflwyno adroddiadau yn ddi-enw; fodd bynnag, ni fydd modd i ni eich diweddaru ar gynnydd o ran eich cais.

Hysbysebu

Mae Rhwydwaith Hysbysebu’r Cyngor yn gyfrifol am gyflwyno hysbysebion ar wefan Cyngor Sir Fynwy. Gofynnir i chi neilltuo munud neu ddau i ddarllen eu polisi preifatrwydd sy’n cynnwys gwybodaeth ar gwcis a manylion sut i optio allan: http://www.counciladvertising.net/can-privacy-policy.html

Data ystadegol

Gallwn hefyd ddefnyddio gwybodaeth ac ystadegau cronnol ar gyfer monitro defnydd o’r wefan i’n helpu i ddatbygu’r wefan a’n gwasanaethau. Gallwn ddarparu gwybodaeth gronnol o’r fath i drydydd parti. Ni fydd yr ystadegau hyn yn cynnwys gwybodaeth y gellir eu defnyddio i wybod pwy ydych.

Datgeliad

Dim ond cyhyd ag sydd angen ar gyfer y diben y cafodd ei chasglu y byddwn yn cadw eich gwybodaeth.

Ni chaiff gwybodaeth bersonol ei datgelu i drydydd parti os na nodir hynny ar dudalen y wefan a/neu ffurflen berthnasol adeg casglu’r wybodaeth neu fel sydd angen neu a ganiateir gan y gyfraith.

Defnyddio cwcis

Defnyddiwn gwcis ar y safle. Mae cwci yn ffeil testun sy’n dynodi eich cyfrifiadur i’n serfiwr. Nid yw cwcis ynddynt eu hunain yn dynodi’r defnyddiwr unigol, dim ond y cyfrifiadur a ddefnyddiwyd.

Ni ddefnyddir cwcis i gasglu unrhyw wybodaeth bersonol.

Cewch gyfle i osod eich cyfrifiadur i dderbyn pob cwci, i’ch hysbysu pan gyhoeddir cwci neu i beidio derbyn cwcis ar unrhyw amser. Mae’r ffordd y gwnewch hyn yn dibynnu ar ba borwr gwe a ddefnyddiwch. Dylech gyfeirio at swyddogaeth help eich porwr.

Os derbyniwch gwcis, gallant aros ar eich cyfrifiadur am flynyddoedd lawer, os nad ydych yn eu dileu. Dylid nodi y gall troi cwcis i ffwrdd gyfyngu eich defnydd o’n gwefan a gwasanaethau gwefan.

Sut y diogelwn eich gwybodaeth

Caiff yr holl wybodaeth bersonol a gesglir ar y wefan hon ei chofnodi mewn cronfa ddata ddiogel.

Mae’n ymrwymiad ar ein holl gyflogeion a phroseswyr data sydd â mynediad i neu sy’n gysylltiedig gyda phrosesu gwybodaeth bersonol i barchu cyfrinachedd yr wybodaeth honno.

Diogelwch E-bost

Dylid nodi, os nad ydynt wedi’u hamgryptio, efallai nad yw negeseuon e-bost a anfonir drwy’r rhyngrwyd yn ddiogel a gallai rhywun arall eu rhyng-gipio a’u darllen. Gofynnir i chi gadw hyn mewn cof wrth benderfynu p’un ai i gynnwys gwybodaeth bersonol neu sensitif yn unrhyw negeseuon e-bost y bwriadwch eu hanfon.

Eich cydsyniad

Drwy gyflwyno eich gwybodaeth rydych yn cydsynio i’r wybodaeth honno gael ei defnyddio fel y nodir yn y polisi yma. Os ydym yn newid y polisi preifatrwydd byddwn yn eich diweddaru am y newidiadau ar y dudalen yma. Bydd parhau i ddefnyddio’r gwasanaeth yn arwydd eich bod yn cytuno i unrhyw newidiadau o’r fath.

Defnyddwyr 16 oed a iau

Os ydych yn 16 oed neu iau, dylech gael caniatâd eich rhiant/gwarcheidwad cyn rhoi gwybodaeth bersonol ar ein gwefan. Ni chaniateir i ddefnyddwyr roi gwybodaeth bersonol i ni os na chawsant y caniatâd hwn.

Diogelu Data

Byddwn yn prosesu unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn yn unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol a Deddf Diogelu Data 2018. Os ydych yn dymuno cael mynediad at wybodaeth bersonol a gasglwyd oddi wrthych drwy’r wefan hon neu os oes gennych ymholiad neu bryder o ran prosesu data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data drwy ebostio dataprotection@monmouthshire.gov.uk.

Dan Ddeddf Diogelu Data 1998, gallwch ofyn am gopi o’ch gwybodaeth a byddwn yn rhoi copi darllenadwy o’r wybodaeth bersonol a ddaliwn ac y mae gennych hawl iddi.

Anfonir hyn atoch o fewn 40 diwrnod u’ch cais – er ein bod bron bob amser angen prawf o bwy ydych cyn cyflenwi’r wybodaeth (er mwyn lleihau’r risg o gyflenwi gwybodaeth i’r person anghywir) a gallwn ofyn i chi am fwy o wybodaeth i’n helpu i ganfod eich gwybodaeth bersonol. Gall fod yn rhaid i chi dalu ffi fechan cyn y caiff yr wybodaeth ei chyflenwi.

Os ydych yn parhau’n anfodlon ar ôl codi mater am y polisi yma a/neu gais i gael mynediad i wybodaeth bersonol a gasglwyd gennych drwy’r safle, gallwch hefyd gysylltu â:

Y Comisiynydd Gwybodaeth/The Information Commissioner

2nd Floor

Churchill House

Churchill Way

Cardiff

CF10 2HH

Ffôn: 0330 414 6421

Gwefan: ico.org.uk

Ebost: wales@ico.org.uk