Mae Fy Sir Fynwy yn ffordd o gyfathrebu â’r Cyngor trwy ddarparu mynediad ar-lein ac app i alluogi mynediad hunan-wasanaeth 24/7.. Mae’r ap yn ffordd rwydd i gysylltu’n gyflym â’r cyngor ac mae’n galluogi pobl i roi adroddiad am ddigwyddiad yn defnyddio llun neu fideo o’u ffôn. Er enghraifft, gall preswylwyr hysbysu am dwll yn y ffordd, baw ci neu olau stryd sydd wedi torri drwy roi manylion a’u cyflwyno’n awtomatig. Mae ap Fy Sir Fynwy hefyd yn rhoi’r newyddion diweddaraf gan y cyngor ac mae’n cynnwys gwybodaeth ar wasanaethau lleol megis dyddiau casglu gwastraff, swyddi gwag, amserlenni bws neu ddata ysgolion.
Caiff pob preswylydd neu unrhyw un sy’n ymweld â Sir Fynwy eu hannog i lawrlwytho’r ap. I wneud hynny, ewch i’ch stôr apiau a lawrlwytho ap Fy Sir Fynwy.
I grynhoi dyma’r hyn y gallwch ei wneud:
• Ffordd gyflym i gael gwybodaeth e.e. amserlenni bws
• Ffordd rwydd i gyrraedd gwasanaethau ar-lein eraill e.e. Parent Pay, talu eich Treth Gyngor
• Rhoi sianel cyfathrebu ar-lein gyda Sir Fynwy gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf a chadw mewn cysylltiad
• Gweld eich cyfrif a pha gysylltiadau fu gennych gyda’r Cyngor
• Derbyn negeseuon e-bost ar yr hyn y mae gennych ddiddordeb ynddo e.e. digwyddiadau, newyddion y Cyngor
Beth sydd wedi digwydd yn ddiweddar?
Wyddech chi y gallwch fel cwsmeriaid cofrestredig ychwanegu nodiadau i gais am wasanaeth yr ydych wedi ei anfon atom. I ganfod sut i ychwanegu nodiadau dilynwch y ddolen yma.
Rydym wedi ychwanegu nifer o ffurflenni newydd:
- Mae gan y porth cwsmeriaid wedd newydd, rydym wedi gwella’r edrychiad a’r teimlad.
- Archebion Canolfannau Ailgylchu Cartrefi (Awgrymiadau) – yn dilyn adborth gan breswylwyr rydym wedi gwneud gwelliannau i’r ffurflen archebu ar-lein fel ei bod yn rhwyddach ei defnyddio.
- Mae’r ap ffôn symudol wedi’i uwchraddio, mae bellach yn gyflymach ac mae’r edrychiad a’r teimlad wedi’i wella.
- Hwb Cymunedol Cliciwch a Chasglu – oherwydd Covid-19 lansiwyd ffurflen archebu ar-lein i gadw slot yn un o’n hybiau cymunedol i gasglu llyfrau.
Caiff Fy Sir Fynwy ei ddefnyddio i gasglu gwybodaeth a chynorthwyo pobl ar draws Sir Fynwy y mae digwyddiadau llifogydd wedi effeithio arnynt.
Sut y gallwch helpu?
Rydym yn awyddus i glywed eich barn am app Sir Fynwy, os hoffech chi anfon eich adborth atom, gallwch ei wneud trwy glicio yma.
Os ydych chi am ddadgofrestru’ch manylion o Fy Sir Fynwy neu os ydych chi am weld ein polisi preifatrwydd, edrychwch yma