
Mae’r Siop Ailddefnyddio ar gau ar yr adeg hon oherwydd cyfyngiadau lefel 4 Covid-19.
Mae’r siop yn gwerthu eitemau cartref diogel ac ymarferol a gafodd eu rhoi neu eu hachub o sgipiau. Mae eitemau’n cynnwys celfi pren, potiau ac addurniadau gardd, bric a brac, eitemau a achubwyd, beiciau, chwaraeon ac offer cerddorol.
Mae Sir Fynwy wedi datgan Argyfwng Hinsawdd ac felly i helpu atal effeithiau newid ansawdd, defnyddir elw o’r siop i blannu coed mewn trefi a phentrefi ym mhob rhan o’r Sir.
Bwriadwn agor ail siop ailddefnyddio yn ein Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi yn Five Lanes yn ddiweddarach eleni.
Gweler ein cwestiynau cyffredin isod i gael rhagor o wybodaeth:
- Ble mae’r siop?
Mae ein siop newydd yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref yn Llan-ffwyst, ger y Fenni. NP7 9AQ. - Beth yw’r amseroedd agor?
10am – 3pm ar ddydd Mercher. - Pam nad yw’n agored yn amlach?
Mae’n debygol y bydd y siop yn ymestyn ei horiau agor yn y dyfodol. - Pa fath o eitemau sydd ar werth yn y siop?
Dodrefn pren, addurniadau gardd, bric-a-brac, pethau a achubwyd, beiciau, offerynnau cerdd ac offer chwaraeon. - Pa fath o brisiau sydd ar bethau?
Ni ddylai’r rhan fwyaf o eitemau ar werth gostio mwy nag ychydig o bunnoedd. - Pwy sy’n gyfrifol am y siop?
Cyngor Sir Fynwy - Ydych chi’n chwilio am wirfoddolwyr?
Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda ‘Volunteering for Wellbeing’ i ddatblygu ein sylfaen gwirfoddolwyr. Edrychwch ar eu tudalen Facebook ar gyfer cyfleoedd gwirfoddoli yn y dyfodol. - I ble mae’r arian yn mynd?
Mae Sir Fynwy wedi datgan Argyfwng yn yr Hinsawdd – bydd elw o’r siop yn mynd tuag at blannu coed yn ein trefi a’n pentrefi er mwyn helpu i gynyddu gorchudd y canopi coed trefol a lliniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar lefel leol. - Alla i ollwng pethau’n uniongyrchol i’r siop?
Na, dylai’r holl eitemau gael eu hadneuo yn y ganolfan ailgylchu gwastraff cartref. Siaradwch ag aelod o’r staff os oes gennych eitem sy’n rhy dda i’w gwaredu. - Alla’i ddewis rhywbeth allan o’r sgip a thalu yn y siop?
Na, ni chaniateir hyn am resymau iechyd a diogelwch. - A allaf archebu rhywbeth rhag ofn iddo ddod i mewn?
Allwn ni ddim cymryd archebion am eitemau ond bydd staff y siop yn ceisio helpu. - A allaf ddychwelyd eitem?
Gallwch. Mae’r holl nwyddau yn ail law ac wedi cael eu defnyddio o’r blaen. Cynghorwn ni chi i archwilio eitemau’n drylwyr cyn eu prynu. Bydd eitemau yn cael derbynneb gwerthiant a fydd yn cynnwys disgrifiad llawn gan gynnwys traul, rhwyg ac unrhyw ddifrod. - A allaf gerdded i’r siop?
Na, nid yw’r ffordd ddynesu gul yn ddiogel ar gyfer mynediad i gerddwyr. Felly, am y nawr, mae mynediad i’r siop a’r ganolfan ailgylchu drwy ddefnyddio cerbyd yn unig. - A allaf i gymryd deunydd clirio tŷ neu eitemau cist car i’r siop?
Na, yn anffodus, prin yw’r lle yn y siop – felly dim ond eitemau dethol sydd wedi dod o’r ganolfan ailgylchu gwastraff cartref y gallwn eu cymryd. - A yw’r siop dim ond ar agor i drigolion Sir Fynwy?
Mae ein siop ailddefnyddio ar agor i bawb. - All busnesau neu fasnachwyr brynu eitemau o’r siop?
Gallant, mae’r siop ar agor i bawb. - A ganiateir plant yn y siop?
Mae croeso i blant ond diogelwch yw ein blaenoriaeth felly mae’n rhaid eu goruchwylio bob amser. - A oes mynediad i’r siop ar gyfer pobl anabl?
Oes, mae mynediad a pharcio i bobl anabl. - A oes toiledau cyhoeddus yn y siop?
Nid oes toiledau cyhoeddus ar y safle er bod toiledau gerllaw. - A fydd gan ganolfannau ailgylchu eraill yn Sir Fynwy siop ailddefnyddio hefyd?
Os yw’r siop yn profi’n llwyddiannus, gobeithiwn agor ail un yn ein Canolfan Ailgylchu Five Lanes ger Caerwent.