Skip to Main Content

Caiff hen degan prin Mickey Mouse ei ddangos yn falch ar ôl cael ei achub o’r domen sbwriel diolch i lygaid craff gweithwyr Suez, contractwyr gwastraff ac ailgylchu Cyngor Sir Fynwy.

Darganfyddwyd y tegan meddal rhyfeddol, y credir iddo fod yn dyddio o’r 1930au, mewn cynhwysydd oedd ar ei ffordd i’r domen. Ar ôl darganfod yr hen degan, cysylltodd staff gyda thîm Amgueddfa MonLife amdano.

Canfu ymchwil helaeth i’r tegan Mickey Mouse gael ei wneud yn wreiddiol yn un o gynhyrchwyr teganau meddal hynaf Prydain, ffatri deganau Deans ym Mhont-y-pŵl. Y busnes, sy’n dyddio’n ôl mor bell â’r 1700au, oedd y cwmni cyntaf i wneud y cymeriad Disney ym Mhrydain yn y 1930au ond ysywaeth aeth y cwmni i ddwylo’r gweinyddwyr yn 2005. Mae enghraifft bron yn union yr un fath o’r tegan – y fersiwn gynharaf o Mickey, fel yr ymddangosai yn ei ffilm gyntaf yn 1928 ‘Steamboat Willie – yng nghasgliadau Amgueddfa’r V&A yn Llundain.

Ar ôl darganfod pwysigrwydd hanesyddol y tegan awgrymodd Rachael Rogers, curadur Amgueddfa y Fenni, efallai mai Amgueddfa Pont-y-pŵl fyddai’r cartref gorau i Mickey, gan ei fod lai na milltir o hen ffatri Deans lle cafodd ei wneud yr holl flynyddoedd hynny yn ôl.

Wrth siarad am y canfyddiad hynod dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth:

“Rwy’n meddwl ei bod yn wych y cafodd Mickey ei arbed o’r sbwriel ar ôl ei oes faith iawn! Rwyf mor falch ei fod yn cael ei roi i amgueddfa Pont-y-pŵl yn  agos at ble cafodd ei wneud yn Deans Rag Book Company. Gobeithiaf y bydd y cyhoeddusrwydd a gaiff yn annog pobl i feddwl yn ofalus cyn taflu pethau. Rwyf wrth fy modd y bydd cenedlaethau i ddod yn ei weld yn ei gartref newydd.”

Ychwanegodd y Cyng Pratt:

“Mae ein siopau Ailddefnyddio yn Llan-ffwyst a Five Lanes wedi mynd o nerth i nerth, gyda chefnogaeth wych gan y staff yn y canolfannau ailgylchu yma, yn ogystal â’r tîm ymroddedig o wirfoddolwyr brwdfrydig, sy’n sylwi ar bethau hyfryd. Nid ydych yn canfod rhywbeth mor arbennig â Mickey bob dydd, ond byddech yn synnu y pethau gwych sy’n cael eu harbed a fyddai fel arall wedi eu taflu.”

Pan gawsant y rhodd dywedodd Caitlin Gingell, Curadur Amgueddfa Pont-y-pŵl:

“Mae staff yr amgueddfa yn falch iawn i groesawu Mickey i’r casgliadau yn Amgueddfa Torfaen. Bu ffatri deganau Deans, lle cafodd Mickey ei wneud, yn rhan bwysig o hanes Pont-y-pŵl ac mae’n hyfryd ei fod yn mynd yn ôl i’w dref enedigol. Gobeithiwn y gall Mickey fynd at gadwriaethwr proffesiynol yn y dyfodol agos i gael ei lanhau a chael cymorth strwythurol cyn cael ei ddangos fel rhan o arddangosfa fach am y cynhyrchydd teganau.”

Gall pobl sy’n chwilio am fargen a rhai sy’n hoff o hen bethau fynd i siopau ail-ddefnyddio Cyngor Sir Fynwy yn Llan-ffwyst a Five Lanes o ganol mis Mawrth. Mae prynu eitemau ail-law yn ffordd wych o helpu’r amgylchedd a gostwng gwastraff. Aiff yr holl elw o’r safleoedd ailddefnyddio i blannu coed yn Sir Fynwy i helpu yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Gall pobl ymweld â’r safleoedd adfywio yn y lleoliadau dilynol:

  • Siop Ailddefnyddio Llan-ffwyst – Llan-ffwyst, NP7 9AQ sy’n ailagor bob dydd Mawrth 10am – 3pm o 15 Mawrth
  • Siop Ailddefnyddio Five Lanes, NP26 5PD sy’n ailagor bob dydd Mercher 10am – 3pm o 16 Mawrth.