Skip to Main Content
Bagiau ailgylchu Cyngor Sir Fynwy amldro

Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Fynwy yn casglu papur a cherdyn yn casglu papur a cherdyn mewn bagiau plastig coch untro a chaniau a phlastig mewn bagiau plastig untro o fwyafrif y cartrefi yn Sir Fynwy.

Cafodd bagiau amldro eu treialu gyda dros 4000 o aelwydydd yn Sir Fynwy ym mis Tachwedd 2019. Ar hyd y cyfnod treialu fe wnaethom gasglu llawer o ddata yn cynnwys adborth gan breswylwyr ar y system casglu newydd, amseriadau rowndiau casglu a phrofion marchnad.

Roedd canlyniadau’r arbawf yn llwyddiannus ac mae bagiau amldro eisoes wedi’u cyflwyno i ardaloedd bach eraill, gyda chyfanswm o dros 15,000 o aelwydydd bellach yn defnyddio bagiau amldro.

Cytunwyd y bydd bagiau ailddefnyddio yn cael eu cyflwyno yn lle bagiau plastig ar gyfer casgliadau ailgylchu.

Bwriadwn ymestyn bagiau ailddefnyddio ar draws Sir Fynwy i gyd yn 2024.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi datgan argyfwng hinsawdd a rydym yn ymroddedig i ddefnyddio plastig untro. Bydd y bagiau newydd yn gostwng faint o fagiau plastig untro a ddefnyddiwn, gan felly leihau ein heffaith ar yr amgylchedd.

Mae hefyd fanteision ariannol i ddefnyddio bagiau amldro ar gyfer casgliadau ailgylchu: 
Mae’n well gan y farchnad ailgylchu dderbyn deunydd yn rhydd, felly dylai tynnu’r bagiau plastig ostwng y gost prosesu ac mae’n ein galluogi i sicrhau gwell gwerth am arian.
Mae prynu bagiau plastig untro yn costio tua £180,000 y flwyddyn ar hyn o bryd. Bydd yn costio llai i’w cyflenwi lle bynnag y gellir defnyddio bagiau amldro lawer iawn o weithiau.

Byddwch yn derbyn taflen wybodaeth gyda’ch bagiau pan gânt eu dosbarthu. Caiff y bagiau eu dosbarthu mewn camau, felly efallai y byddwch yn gweld cartrefi yn eich ardal yn derbyn bagiau amldro cyn i chi gael eich rhai eich hun.


Beth sy’n digwydd nesaf?

Os ydych eisoes yn derbyn bagiau ailgylchu amldro, caiff y rhain yn awr eu defnyddio ar bob casgliad ailgychu ac ni fyddwn bellach yn casglu bagiau plastig untro o’ch cartref.

Os cawsoch lythyr yn esbonio y byddwch yn defnyddio bagiau amldro ar gyfer casgliadau ailgylchu ond os nad ydych eisoes wedi cael rhai, defnyddiwch y ffurflen islaw i wneud cais i’r bagiau gael eu dosbarthu.

Bydd ardaloedd eraill o Sir Fynwy yn newid i fagiau amldro yn 2023/24. Byddwch yn derbyn taflen gyda gwybodaeth bwysig ar yr un pryd ag y caiff y bagiau eu dosbarthu i chi. Bydd y bagiau’n cael eu dosbarthu dros gyfnod, ac felly mae’n bosibl y byddwch yn sylwai ar gartrefi yn eich ardal leol na sy’n defnyddio’r bagiau amldro yn ystod y cyfnod hwn.


Cais i ddanfon bagiau

Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais am fagiau y gellir eu hailddefnyddio i’w dosbarthu os yw’ch bagiau ar goll/wedi’u difrodi.

Yn lle hynny gallwch ffonio 01633 644644 neu ymweld â’ch Hyb Cymunedol leol i ofyn am i fagiau gael eu dosbarthu i chi.

Os nad ydych wedi derbyn llythyr am y bagiau amldro, byddwch yn derbyn gwybodaeth pryd y cânt eu hymestyn i’ch ardal a chaiff y bagiau eu dosbarthu i chi yn awtomatig.


Cwestiynau Cyffredin

Pam newid?
Cafodd bagiau amldro eu treialu’n llwyddiannus gyda dros 4000 aelwyd yn Sir Fynwy ers mis Tachwedd 2019.
Ym mis Mai fe wnaeth Cyngor Sir Fynwy ddatgan Argyfwng Hinsawdd, gyda chefnogaeth unfrydol gan gynghorwyr. Un o’r camau y cytunwyd arnynt yw gostwng ein defnydd o blastig untro a newid i ddefnyddio bagiau ailgylchu amldro er mwyn gostwng faint o fagiau plastig untro a ddefnyddiwn, gan fod o fudd i’r amgylchedd.
Mae’n well gan y farchnad ailgylchu dderbyn y deunydd yn rhydd felly dylai tynnu ein bagiau plastig ostwng costau prosesu. Gellir defnyddio bagiau amldro drosodd a throsodd ac felly byddant yn costio llai i’w cyflenwi na’r bagiau plastig untro a ddefnyddiwn ar hyn o bryd.

Beth oedd canlyniad  y cynllun treialu ac arolwg cyhoeddus ar ailgylchu?

Mae’r ffordd newydd o gasglu ailgylchu wedi gweithio’n dda i’n criwiau casglu ac mae wedi gostwng ein defnydd o blastig untro.

Cysylltwyd â phreswylwyr a gymerodd ran yn y cynllun treialu ym mis Mai 2020 gydag arolwg i gasglu adborth cyhoeddus. Cawsom 800 ymateb o blith 2000 cartref – diolch yn fawr iawn i chi am eich ymatebion.

Roedd 68% o’r preswylwyr hynny yn hapus i barhau i ddefnyddio bagiau amldro yn y dyfodol.

Cytunodd cynghorwyr i newid yn barhaol i bagiau amldro ar gyfer casgliadau ailgylchu yn Sir Fynwy. Anelwn i bob cartref yn Sir Fynwy fod yn defnyddio bagiau ailgylchu amldro erbyn diwedd 2021. Gwneir hyn mewn camau felly efallai y byddwch yn gweld nad yw cartrefi yn eich ardal leol yn defnyddio bagiau amldro yn ystod y cyfnod hwn.

A yw’r bagiau amldro yn dod yn lle bagiau plastig untro?
Ydynt, bydd bagiau ailgylchu amldro yn dod yn lle bagiau plastig untro presennol ar gyfer eich casgliadau ailgylchu wythnosol. Unwaith y byddwch wedi derbyn eich bagiau amldro, ni fyddwn wedyn yn casglu ailgylchu yn yr hen fagiau plastig untro.

Pwy sy’n defnyddio’r bagiau amldro?
Yn dilyn treial llwyddiannus mewn rhannau o Drefynwy a Chaerwent ar ein cerbydau casglu mawr, rydym hefyd wedi cyflwyno bagiau amldro i rai ardaloedd gwledig sy’n cael eu casglu ar ein cerbydau maint canolig. Mae hyn yn golygu efallai y byddwch yn gweld cartrefi yn eich ardal heb eu cynnwys ar hyn o bryd a byddant yn dal i ddefnyddio’r bagiau plastig untro.

Bydd ardaloedd eraill o Sir Fynwy yn newid i fagiau amldro yn 2023/24. Byddwch yn derbyn taflen gyda gwybodaeth bwysig ar yr un pryd ag y caiff y bagiau eu dosbarthu i chi. Bydd y bagiau’n cael eu dosbarthu dros gyfnod, ac felly mae’n bosibl y byddwch yn sylwai ar gartrefi yn eich ardal leol na sy’n defnyddio’r bagiau amldro yn ystod y cyfnod hwn.

Sut fyddaf yn gwybod os dylwn dderbyn bagiau amldro?
Bydd ardaloedd eraill o Sir Fynwy yn newid i fagiau amldro yn 2023/24. Byddwch yn derbyn taflen gyda gwybodaeth bwysig ar yr un pryd ag y caiff y bagiau eu dosbarthu i chi.

Pam nad wyf wedi cael bag amldro?
Llenwch y ffurflen cais uchod am ddosbarthu bag amldro os cawsoch lythyr i ddweud y caiff eich bagiau eu dosbarthu a bod eich dyddiad dosbarthu wedi mynd heibio heb unrhyw fagiau yn cyrraedd.

Os na chawsoch unrhyw ohebiaeth eto am y bagiau ailgylchu amldro ac na chafodd y bagiau eu dosbarthu i chi, yna nid yw’r cynllun ymestyn wedi’ch cyrraedd hyd yma.

Sut mae defnyddio’r bagiau?

Gallwch ysgrifennu enw/rhif eich tŷ yn y blwch ar y bagiau fel eu bod yn rhwydd eu hadnabod.
Rhowch eich ailgylchu glân tu mewn i’r blwch cywir.
Defnyddiwch y sêl Velcro i gau’r bag, mae hyn yn golygu y bydd yr ailgylchu yn aros yn sych a’i gau’n ddiogel. Mae pwysau yn y bagiau fel nad ydynt yn chwythu.
Rhowch eich bagiau yn y lle arferol erbyn 7am ar fore’r casgliad.

Faint o fagiau fyddaf yn eu cael?
Dosberthir un bag coch ac un bag porffor i bob cartref. Bydd pob bag yn dal cymaint o ddeunydd ag ailgylchu â dau o’r bagiau plastig a gyflenwyd yn flaenorol. Gwyddom y bydd y capasiti hwn yn ddigon ar gyfer y rhan fwyaf o aelwydydd. Gellir gwneud darpariaeth ar gyfer aelwydydd sy’n cynhyrchu mwy o ailgylchu. Cysylltwch â ni os ydych yn cael unrhyw broblemau.

Sut fyddaf yn gwybod pa un yw fy mag i?
Mae blwch ar y bagiau lle gofyn i breswylwyr roi enw/rhif eu tŷ arno gyda phen marcio barhaol fel nad ydynt yn cymysgu.

Lle dylwn i gadw fy mag?
Dewch â’ch bagiau i mewn o ymyl y palmant ar ôl ei gasglu a’u cadw yn eich cartref.

Beth ddylwn i wneud gyda fy hen fagiau ailgylchu plastig?

Ni chaiff yr hen fagiau coch a phorffor untro eu defnyddio bellach ar gyfer casgliadau ailgylchu. Gallwch cadw’r bagiau ar gyfer eich defnydd personol neu gallwch eu dychwelyd i ni drwy ei rhoi yn ymyl eich bagiau ailgylchu untro (unwaith eu bod gennych) ar eich diwrnod casglu ailgylchu nesaf. Gallwch hefyd ddychwelyd y bagiau i’ch Hyb Cymunedol lleol.

A fydd fy nyddiau casglu yn newid?
Na, bydd eich diwrnodau casglu yn aros yr un fath. Rhowch eich gwastraff allan cyn 7am. Gall yr amser y bydd eich gwastraff yn cael ei gasglu amrywio o wythnos i wythnos. Bydd eich gwastraff bwyd yn cael ei gasglu ar wahân i’r ailgylchu, ac felly, efallai y byddwch yn sylwi ei fod yn cael ei gasglu ar adeg wahanol o’r dydd.

Beth ddylwn i ei roi yn y bagiau?
Yr un eitemau ag oedd yn eich hen fagiau coch a phorffor ddylai fynd i’r bag. Bag coch – papur a chardfwrdd. Bag porffor – tuniau a caniau, poteli plastig, tybiau plastig, hambyrddau a bocseidiau a chartonau. Glanhewch olion bwyd o’ch ailgylchu os gwelwch yn dda. Mae’n rhaid i’r eitemau fynd yn rhydd i fag amldro. Peidiwch rhoi’r hen fagiau ailgylchu tu mewn i’ch bag amldro. Dylai cartonau (e.e. tetra paks) yn awr fynd i’r bag ailgylchu porffor.

Mae fy mag yn dweud cartonau (e.e. tetra paks) i fynd yn y bag coch sy’n wahanol i’r daflen yma?

Mae geiriau ar y cyflenwad gwreiddiol o fagiau yn awgrymu y dylai cartonau fynd yn y bag coch. Adeg archebu’r bagiau ar gyfer y cynllun treialu yn 2019 byddai’r prosesyddion ailgylchu yn cymryd cartonau gyda’r papur a’r cardfwrdd.

Mae’r farchnad ailgylchu wedi newid ers hynny ac argymhellir yn awr fod cartonau’n mynd yn y bag porffor fel y gellir eu gwahanu’n rhwyddach o’r deunyddiau eraill ac felly caiff mwy ei ailgylchu.

Rhowch y cartonau yn y bag porffor.

Beth fedraf ei wneud gyda charpion papur?

Gellir ailgylchu carpion papur yn y bag coch ond gofynnir i chi ei roi mewn blwch cardfwrdd wedi ei selio (e.e. blwch grawnfwyd) neu mewn amlen bapur. Mae hyn yn atal y carpion rhag glynu yn y bag ac yn gostwng y siawns y bydd yn syrthio allan yn ystod y casgliad.

Rwyf yn ei chael yn anodd i gario’r bagiau, sut fedrwch chi helpu?
Os cewch anawsterau yn caro’r bagiau, cysylltwch â ni a gall ein swyddogion ailgylchu helpu.

Beth ddylwn i wneud os oes gennyf lawer o gardfwrdd?
Dylai unrhyw gardfwrdd gael ei agor mas a’i roi tu mewn i’ch bag ailgylchu coch os oes modd. Os na allwch roi’r cardfwrdd tu mewn i’ch bag, gallwch roi cardfwrdd wedi ei agor mas hyd at 1m2 i’w gasglu wrth ymyl eich bag ailgylchu.

Beth fydd yn digwydd os caiff fy ailgylchu ei halogi?
Os yw bag ailgylchu yn cynnwys eitemau anghywir rhoddir sticer arno i ddangos beth oedd yr eitemau anghywir ac ni chânt eu gwagio. Dylai preswylwyr dynnu’r halogiad a chaiff yr ailgylchu ei gasglu ar eich gasgliad nesaf. Bydd swyddog ailgylchu ar gael os ydych angen help gyda’ch ailgylchu.

Nadolig
Ar rai adegau o’r flwyddyn yn cynnwys y Nadolig sylweddolwn y bydd llawer o gartrefi yn cynhyrchu mwy o ailgylchu. Gellir rhoi mwy o ailgylchu mas un ai o fewn blwch cardfwrdd neu flwch plastig y bydd y criwiau yn ei wagu a’i ddychwelyd (cadwch ddeunydd coch a phorffor ar wahân os gwelwch yn dda). Gellir agor blychau cardfwrdd mas a’u rhoi yn ymyl eich bagiau. (Uchafswm maint 1m2).

Sut mae rhoi eich hysbysu am gasgliad a fethwyd?
Rhowch wybod am wastraff nas casglwyd ar ôl 4pm ar y diwrnod casglu yn unig. Sylwch y bydd eich gwastraff bwyd yn cael ei gasglu ar amser gwahanol o’r dydd i’ch gwastraff ailgylchu.

Gallwch adrodd casgliad a gollir ar ap Fy Sir Fynwy neu wefan, ffoniwch 01633 644644 neu ymweld â’ch Hyb Cymunedol lleol. Byddwch yn derbyn diweddariad ar eich adroddiad os ydych yn cofrestru ar system “Fy Sir Fynwy”.

Cysylltu â ni:
E-bost: contact@monmouthshire.gov.uk
Ffonio: 01633 644644
Ymweld: Eich Hyb Cymunedol lleol