Skip to Main Content

Mae Cronfa Gymunedol Viridor a Phrosiect Gwyrdd yn rhodd o £50,000 y flwyddyn y mae Viridor wedi ymrwymo i fod ar gael i fentrau cymunedol sy’n gweithredu yn rhanbarthau’r awdurdod lleol sy’n gwneud i fyny’r Prosiect Gwyrdd; Caerffili, Caerdydd, Sir Fynwy, Casnewydd a Bro Morgannwg.

Bydd y rhodd ar gael bob blwyddyn o fis Ebrill 2016 am 25 mlynedd. Mae hyn yn cynrychioli tymor contract Prosiect Gwyrdd i Viridor drin ei wastraff gweddilliol (na ellir ei ailgylchu) yng Nghyfleuster Adfer Ynni Parc Trident, Caerdydd.

Dyfernir cyllid prosiectau ar garfan o feini prawf yn seiliedig ar gynaliadwyedd, angen lleol, ymwneud â’r gymuned, gwerth am arian ac addysg. Yna bydd pob prosiect sy’n bodloni’r gofynion cais cychwynnol hyn yn cael eu sgorio ar y 10 ffactor a nodwyd isod.

Mae’n rhaid i geisiadau sgorio o leiaf 7 pwynt o’r 10 pwynt sydd ar gael isod i fod yn gymwys i gael eu hariannu – angen lleol; cyfranogiad cymunedol, partneriaeth a budd; cynaliadwyedd; budd amgylcheddol; addysg, dysgu gydol oes a sgiliau; gwerth am arian; cynhwysiant cymdeithasol ac ehangder yr ymgysylltu; ymgysylltu ag amrywiaeth o bwyntiau mynediad; bydd prosiectau sy’n cynnig budd cryf ym maes STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) yn cael pwynt ychwanegol; bydd prosiectau o fewn ffin awdurdod lleol Parc Trident ERF ( Y Gronfa Cadernid Economaidd) yn cael pwynt ychwanegol.

Pwy sy’n gymwys i wneud cais?

Gall unrhyw sefydliad neu grŵp, sydd wedi’i gyfansoddi’n briodol, nid-er-elw a heb ei reoli gan awdurdod lleol wneud cais am gyllid. Bydd nifer y ceisiadau y gall un prosiect eu gwneud dros gyfnod penodol yn cael ei gyfyngu i un prosiect fesul blwyddyn.

Sut i wneud cais?

Mae ffurflenni cais ar gael ar lein ar www.viridor.co.uk. Dylid dychwelyd ffurflenni wedi’u llenwi drwy e-bost i cardifferfcommunityfund@viridor.co.uk neu drwy’r post i’r cyfeiriad canlynol: Cronfa Gymunedol ERF Parc Trident Caerdydd, Rhodfa Glass, Caerdydd, CF24 5EN.

Beth yw lefel y grant sydd ar gael?

Bydd prosiectau’n cael cyllid hyd at £3000.

Pa mor aml mae ceisiadau grant yn cael eu hystyried?

Mae ceisiadau sy’n bodloni meini prawf y Gronfa’n cael eu hadolygu bob chwarter gan banel annibynnol, gan gynnwys cynrychiolydd Prosiect Gwyrdd, Viridor ac aelodau o’r gymuned leol.Cynhelir cyfarfodydd y panel bob chwarter tuag at wythnos gyntaf y mis ym mis Mawrth, Mehefin, Medi a Thachwedd. Bydd dyddiad cau ceisiadau fis cyn y cyfarfod panel.