Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cymeradwyo’r Gyllideb ar gyfer 2024-25 mewn cyfarfod llawn o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 29ain Chwefror.

Byddwn nawr yn gweithio i barhau i ddarparu gwasanaethau cyson  i bobl Sir Fynwy.

Mae’r cynlluniau terfynol yn cynnwys nifer o newidiadau i’r drafft cychwynnol. Mae hyn yn ystyried adborth y cyhoedd a rhanddeiliaid a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori helaeth ym mis Ionawr a mis Chwefror.

Mae rhai o’r newidiadau yn cynnwys:
– Arian ychwanegol i ysgolion.
– Dileu’r cynnig i godi tâl am fagiau gwastraff bwyd.
– Cynyddu’r Gyllideb ar gyfer buddsoddi mewn priffyrdd.

Yn sgil y newidiadau, bydd y dreth gyngor yn cynyddu 7.8%. Bydd cymorth yn dal i fod ar gael i drigolion cymwys tuag at eu bil treth gyngor – https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/4093-2/treth-y-cyngor-trethi-busnes-a-budd-daliadau/

Fel Cyngor, rydym yn ymrwymo’n llwyr i ymgynghori a gwrando er mwyn asesu’r hyn sydd bwysicaf i drigolion a rhanddeiliaid. Diolchwn unwaith eto i bawb a roddodd o’u hamser i ymgysylltu â ni drwy fel rhanddeiliaid, sesiynau digidol a thrwy gwblhau’r arolwg ymgynghori. Gwelodd arolwg eleni gynnydd mewn sylwadau o gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol, a oedd yn caniatáu i ni sicrhau bod y gwasanaethau sydd bwysicaf i chi yn cael eu hariannu.

Bydd yr ychydig flynyddoedd nesaf yn fwy heriol nag erioed i sicrhau cyllideb gytbwys, ond rydym wedi ymrwymo i weithio gyda thrigolion a rhanddeiliaid i ddod o hyd i’r ffyrdd gorau o barhau i osod cyllideb sy’n cyflawni ar gyfer ein trigolion – gan weithio gyda’n gilydd ar gyfer ein dyfodol. Mae’n rhaid i ni ddod o hyd i gydbwysedd rhwng uchelgais a bod yn realistig tra’n cydnabod mai un chwaraewr yn unig ydym yn nyfodol Sir Fynwy.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby: “Drwy osod y Gyllideb, rydym wedi bod yn ymgysylltu â thrigolion a rhanddeiliaid i sicrhau bod gennym gyllideb sy’n cyflawni’r hyn sydd bwysicaf iddynt. Rwyf am ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan.

“Mae’r misoedd a’r blynyddoedd nesaf yn argoeli i fod yn heriol, ond byddwn yn dod o hyd i’r ffordd orau o barhau i gyflawni a darparu ar gyfer ein trigolion. Rydym wedi ceisio taro cydbwysedd rhwng bod yn uchelgeisiol ac yn realistig.

“Rwy’n falch o waith y Cabinet a swyddogion. Rwy’n gwybod y gallwn gyflawni er gwaethaf yr heriau sydd o’n blaenau.”

Ychwanegodd Aelod Cabinet Adnoddau Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Ben Callard: “Er gwaethaf y cyfnod anodd hwn, rwy’n falch ein bod wedi gallu darparu cyllideb deg sy’n cadw’r Cyngor ar sylfaen ariannol sefydlog ar gyfer y dyfodol.”

Mae rhagor o wybodaeth am gyllideb 2024/25 ar gael yma – https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/cy/cyllideb-2024-2025/

Tags: , ,