Rydych yn medru rheoli eich cyfrif Treth Gyngor neu  Ardrethi Busnes drwy ddefnyddio ein porth Hunan-wasanaethu. Cliciwch yma ar gyfer y Dreth Gyngor a chliciwch yma ar gyfer Ardrethi Busnes. Rydych yn medru edrych ar y wybodaeth ddiweddaraf ar eich cyfrif, gwirio eich balans, adolygu taliadau, diweddaru manylion cyswllt, newid i dderbyn biliau   di-bapur, gwneud cais am ostyngiadau/diystyriadau a threfnu debyd uniongyrchol. Sicrhewch bod copi diweddar gennych o’ch bil treth gyngor neu ardrethi busnes neu hysbysiad adennill cyn eich bod yn cofrestru

Os ydych yn cael trafferth yn talu am eich treth gyngor, efallai eich bod yn gymwys i  dderbyn help gyda’r dreth gyngor. Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio lawlyfr defnyddiol er mwyn helpu trethdalwyr i gadarnhau a ydynt yn gymwys i dalu llai o dreth gyngor. Mae modd darllen y llawlyfr yma: taflen Llywodraeth Cymru

Gallwch hefyd ddarganfod a allwch fod yn gymwys i dalu llai o dreth gyngor drwy ddefnyddio Gwiriwr Cymhwysedd Llywodraeth Cymru.

Mae ein tudalennau ni – Mae arian yn bwysig – hefyd yn cynnig cyngor a chymorth i unrhyw un sydd ar ei hôl hi gyda thalu’r dreth gyngor.   

Bydd Cynllun yn Ôl Disgresiwn hefyd yn cael ei sefydlu er mwyn cefnogi aelwydydd eraill sydd yn cael trafferthion ond na sydd yn cwrdd â’r meini prawf uchod. 

Os ydych am gysylltu gyda’n Tîm Refeniw am wybodaeth neu am gymorth pellach, mae’r manylion cyswllt fel a ganlyn:

Cyfraddau’r Dreth Gyngor a Busnes:

E-bost: counciltax@monmouthshire.gov.uk 

Ffôn: 01633 644630

Er mwyn derbyn cymorth gyda phrofion modd ar gyfer y dreth gyngor
E-bost: benefits@monmouthshire.gov.uk     

Ffôn: 0800 0282569     

AR GYFER BUSNESAU:

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau  mai’r Lluosydd Ardrethu Annomestig ar gyfer 2023/24 yw 0.535

Gallwch reoli eich cyfrif Treth Business trwy fynd ar-lein

Bydd Cynllun Rhyddhad Ardrethi  Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch   yn weithredol eto yn 2023/24.  Fodd bynnag,  y lefel uchaf o ryddhad fydd ar gael yw  75%, neu £110,000 ar gyfer pob busnes yng Nghymru. NI fydd hyn yn cael ei roi yn awtomatig ar  filiau cyfraddau busnes 2023/24.  Bydd rhaid i fusnesau i wneud cais drwy gwblhau’r ffurflen gais ar-lein yma. Cais am Ardrethi Annomestig  ar gyfer Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru – 2023-24

Tan fod modd gwneud cais a derbyn unrhyw ryddhad, bydd rhaid gwneud taliadau yn unol gyda’r hysbysiad sydd wedi ei dderbyn. Y ffordd  hawsaf i wneud hyn yw drwy ddebyd uniongyrchol. Er mwyn lawrlwytho mandad ar gyfer debyd uniongyrchol neu er mwyn edrych ar yr opsiynau talu amgen, ewch i’n tudalen ar gyfer gwneud taliadau,  – gwneud taliadau.