Skip to Main Content

Yn unol ag adrannau 12A a 12B Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 fel y’i diwygiwyd, penderfynodd y Cyngor yn ei gyfarfod ar 9 Mawrth 2023  ddefnyddio ei bwerau dewisol i gyflwyno premiwm treth gyngor.

O 1 Ebrill 2024 ymlaen, bydd Premiwm Treth Gyngor yn daladwy ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi yn y Sir – mae hyn yn swm ychwanegol o dreth gyngor i gael ei dalu ar ben y bil treth gyngor arferol.

Pam fod Sir Fynwy yn cyflwyno premiwm?

Bwriedir i’r hawl dewisol a roddir i Gynghorau godi premiwm fod yn ddull i helpu Cynghorau i:

  • ddod â chartrefi gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd i roi cartrefi saff, diogel a fforddiadwy
  • cefnogi’r Cynghorau i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol

Mae’r Sir yn cael problemau penodol yng nghyswllt prisiau tai, galw cynyddol am dai fforddiadwy a chynnydd yn y defnydd o lety dros dro. Gellid defnyddio unrhyw refeniw ychwanegol a geir o bremiwm treth gyngor i helpu trin rhai o’r materion hyn yn y dyfodol.

Eiddo Gwag Hirdymor

Caiff eiddo gwag hirdymor ei ddiffinio fel annedd sydd heb ei feddiannu a hefyd heb fawr iawn o ddodrefn am gyfnod parhaus o 1 flynedd o leiaf.

  • Lefel y Premiwm

Mae’r Cyngor wedi defnyddio ei bwerau dewisol i osod premiwm am eiddo gwag hirdymor ar raddfa lithro o 100% i 300%, yn weithredol o 1 Ebrill 2024. Mae hyn yn golygu y bydd premiwm o 100% ar eiddo sy’n wag am un flwyddyn, premiwm o 200% ar eiddo sy’n wag am ddwy flynedd a phremiwm 300% ar eiddo sy’n wag am dair blynedd neu fwy. Rhoddir enghraifft isod o sut y byddai hyn yn effeithio ar eiddo gwag:

Cyfnod Eiddo GwagTâl Band D cyfartalog yn seiliedig ar dâl 2023/2024% Premiwm a godirCyfanswm Taladwy
Gwag am 12 mis (1 flwyddyn)£1,959.94100%£3,919.88 (tâl £1,959.94 a phremiwm o £1,959.94))
Gwag am 24 mis (2 flynedd)£1,959.94200%£5,879.82 (tâl £1,959.94 a phremiwm o £3,919.88 )
Gwag am 36 mis (3 blynedd)£1,959.94300%£7,839.76 (tâl £1,959.94 a phremiwm o £5,879.82)

D.S. Ni fyddai rhoi celfi neu feddiannu’r eiddo am 1 neu fwy o gyfnodau o 6 wythnos neu lai yn ystod y flwyddyn yn effeithio ar statws eiddo fel annedd wag hirdymor. Mewn geiriau eraill, ni all person newid statws annedd fel annedd wag hirdymor drwy fyw yno neu osod celfi am gyfnod byr.

Ail Gartrefi

Caiff ail gartref ei ddiffinio fel eiddo wedi’i ddodrefnu lle nad oes neb yn byw, neu lle mae gan y perchennog brif gartref mewn man arall.

  • Lefel Premiwm

Bydd premiwm o 100% yn cael ei godi ar ail gartrefi o’r 1af Ebrill 2024. Rhoddir enghraifft o sut y byddai hyn yn effeithio ar ail gartref isod. Yn y cyfarfod ar 9fed Mawrth 2023, cytunodd y Cyngor i roi ystyriaeth bellach i’r effaith ar yr economi leol cyn cyflwyno premiwm ail gartrefi. Cafodd canlyniad yr adolygiad hwn ei ystyried gan y Cyngor ar y 18fed Ionawr 2024. Yn y cyfarfod hwn penderfynwyd bwrw ymlaen â’r penderfyniad i godi premiwm treth gyngor o 100% ar gyfer ail gartrefi o’r 1af Ebrill 2024. Penderfynodd y Cyngor hefyd ddefnyddio’i bwerau dewisol, o dan Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, i gyflwyno eithriad penodol i helpu i gefnogi busnesau sy’n symud o’r rhestr fasnachol (Cyfraddau Busnes) i’r rhestr ddomestig (Treth Cyngor). Bydd yr eithriad yn eithrio’r busnesau hyn rhag premiwm treth cyngor ail gartrefi am gyfnod o 12 mis. Yn ystod y cyfnod hwn bydd treth gyngor safonol o hyd yn daladwy.

Ail GartrefTâl Band D cyfartalog yn seiliedig ar dâl 2023/2024% Premiwm a godirCyfanswm Taladwy
Pob Ail Gartref o 01/04/2024 ymlaen£1,959.94100%£3,919.88 (tâl a £1,959.94 a phremiwm o £1,959.94)

Help ar gyfer perchnogion eiddo gwag hirdymor

Drwy Wasanaeth Gosod Sir Fynwy, gallwch chi fel perchennog eiddo gwag neu ail gartref, gael mynediad i ystod o gymorth i gynyddu potensial eich eiddo i’r eithaf. Cynigir cymorth ariannol drwy Grantiau Cartrefi Gwag a Benthyciadau Gwella Cartrefi, sydd ar gael i ddod ag eiddo yn ôl i fod yn gartref addas i fyw ynddo, saff a diogel. I gael mwy o wybodaeth anfonwch e-bost at: emptyhomes@monmouthshire.gov.uk

Mae’r Cyngor yn edrych am eiddo ychwanegol a all ddarparu cartrefi ansawdd uchel ar gyfer teuluoedd lleol. Mae ein Gwasanaeth Gosodiadau yn rhoi cyfle i lesu eich eiddo heb unrhyw ffioedd asiantaeth a swm rhent misol gwarantedig. I gael mwy o wybodaeth anfonwch e-bost at MLS@monmouthshire.gov.uk

Mae mwy o wybodaeth a chyngor ar gael yma:

A oes unrhyw amgylchiadau lle na fyddwn yn gorfod talu’r premiwm?

Os teimlwch na ddylai eich eiddo fod yn agored i bremiwm gan ei fod yn cael ei feddiannu fel unig neu brif breswylfa rhywun, mae angen i chi lenwi’r ffurflen ar-lein:

fel y gallwn ddiweddaru ein cofnodion. Bydd angen i chi roi enwau llawn pob oedolyn sy’n byw yno, y dyddiad y gwnaethant symud i mewn, yn ogystal â thystiolaeth o breswyliaeth (er enghraifft filiau cyfleustod, cytundeb tenantiaeth neu drwydded yrru).

Mae hefyd nifer o eithriadau i’r premiwm a chaiff y rhain eu hesbonio yn fanwl yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru sydd ar gael yma:  Treth Gyngor ar gartrefi gwag ac ail gartrefi | LLYW.CYMRU

I wneud cais am eithriad, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen ar-lein :

Gofynnir i chi sicrhau eich bod yn rhoi’r dystiolaeth a amlinellir uchod i gefnogi eich cais.