Skip to Main Content

Am fanylion y cynllun cliciwch yma

Taliad costau cymorth byw – nawr ar gau

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y caiff taliad £150 costau byw ei wneud i bob aelwyd sy’n byw mewn eiddo ym mandiau A, B, C a D ynghyd â’r rhai sy’n derbyn gostyngiad treth gyngor (yr arferid ei alw yn fudd-dal treth gyngor), ym mha bynnag fand mae eu heiddo (A i I).

Mae’r taliad o £150 ar gyfer helpu gyda chost gynyddol yr holl filiau cyfleustod.

Bydd pob aelwyd sy’n gymwys yn derbyn taliad, hyd yn oed os nad ydych yn talu’r dreth gyngor oherwydd eich bod yn derbyn gostyngiad treth gyngor.

Bydd UN taliad fesul aelwyd gymwys.

NID yw eiddo gwag ac ail gartrefi yn gymwys am daliad, dim ond eiddo yr oedd rhywun yn byw ynddynt ar 15 Chwefror 2022.

Sut y byddaf yn cael fy nhaliad?

Cam cyntaf taliadau – nawr ar gau

Byddwch eisoes wedi derbyn taliad yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc os oeddech yn talu eich treth gyngor drwy ddebyd uniongyrchol ar 15 Chwefror 2022.

Ail gam taliadau – nawr ar gau

Os nad oeddech yn talu eich treth gyngor drwy ddebyd uniongyrchol ar 15 Chwefror 2022, cawsoch eich gwahodd i lenwi ffurflen gofrestru ar-lein i dderbyn y taliad costau byw. Cafodd yr holl daliadau hyn eu gwneud erbyn hyn.

Trydydd gam taliadau – nawr ar gau

Rhoddwyd Taleb Swyddfa’r Post i aelwydydd cymwys nad oedd wedi derbyn taliad ar naill ai gam un neu dau. Daeth y rhain i ben ar 30 Medi 2022 pan ddaeth y cynllun i ben.

Talebau Swyddfa’r Post na chafodd eu defnyddio – nawr ar gau

Os gwnaethoch dderbyn Taleb Swyddfa’r Post ac nad oeddech wedi ei gyflwyno yn gyfnewid am arian erbyn 30 Medi 2022, caiff y £150 ei dalu i’ch cyfrif treth gyngor, lle bydd yn gwrthbwyso unrhyw falans sydd ar ôl. Fodd bynnag byddwn yn ysgrifennu at bawb y mae hyn yn weithredol iddynt, gan roi un cyfle olaf i chi dderbyn hyn fel taliad banc. I wneud hyn, bydd angen i chi gwblhau ffurflen ar-lein Cynllun Cymorth Costau Byw 2022 erbyn 7 Rhagfyr 2022. (Gofynnir i chi nodi y byddwch angen eich rhif treth gyngor a’ch manylion banc i lenwi hyn).

Taliad Costau Byw – Cynllun Dewisol

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol i bob awdurdod lleol i’w galluogi i roi cymorth dan gynllun dewisol, i helpu aelwydydd yr ystyrir eu bod angen cymorth gyda’u costau byw.

Cytunodd Cyngor Sir Fynwy ar 29 Mehefin 2022 y defnyddir y cynllun dewisol i gefnogi aelwydydd sy’n diwallu’r meini prawf yn un o’r categorïau isod.

Gwneir taliad £150 i aelwyd lle:

  • Mae’r person sy’n gyfrifol am y dreth gyngor yn byw yn yr eiddo fel eu prif breswylfa neu breswylfa sylfaenol ar 15 Chwefror 2022 neu symud i dderbyn gofal neu ddarparu gofal a
  • Dim yn gymwys am daliad o’r prif gynllun Costau Byw fel y manylir uchod ac
  • Yn derbyn eithriad o 100% ar y Dreth Gyngor am un o’r rhesymau dilynol:

Eithriad Dosbarth U – Amhariad meddwl difrifol ar yr holl breswylwyr

Eithriad Dosbarth W – Anecsau a ddefnyddir (a geir yn aml eu galw yn ‘fflatiau mam-gu)

Eithriad Dosbarth X – Ymadawyr gofal sy’n 18 oed neu drosodd ond heb gyrraedd 25 oed hyd yma

Eithriad Dosbarth I – Nid oes neb yn byw yn yr eiddo gan fod y person cyfrifol yn absennol o’r eiddo gan eu bod yn derbyn gofal mewn man arall, ond nid mewn cartref gofal.

Eithriad Dosbarth J – Nid oes neb yn byw yn yr eiddo gan fod y person cyfrifol yn absennol o’r eiddo gan eu bod yn darparu gofal personol i unigolyn arall mewn man arall.

Eithriad Dosbarth N – Myfyrwyr sy’n byw yn yr eiddo.

Eithriad Dosbarth S – Dim ond pobl dan 18 oed sy’n byw’n annibynnol sy’n byw yn yr eiddo ac felly, os byddent dros 18 oed byddent yn gyfrifol am y Dreth Gyngor ac yn gyfrifol am y biliau cyfleustod a biliau aelwyd arall.

Fel gyda’r prif gynllun, gallwn dalu’n awtomatig i rai pobl, gan fod eu manylion banc gennym eisoes, bydd angen i bawb arall wneud cais. Caiff taliadau am gyfrifon y mae gennym fanylion debyd uniongyrchol amdanynt eu gwneud ar 2 Medi 2022. Bydd y sawl sy’n derbyn yn cael llythyr yn cadarnhau pryd y gwnaed y taliad..

Lle nad oes gennym fanylion debyd uniongyrchol cyfredol, anfonir llythyr gwahodd a dylent gael eu derbyn erbyn 9 Medi 2022. Unwaith y byddwch wedi eu derbyn, bydd angen i chi ddefnyddio eich cod mynediad unigryw ar eich llythyr i lenwi ffurflen gais ar-lein fer yma: Ffurflen gofrestru Cynllun Dewisol 

Gwneir taliad o £150 hefyd i aelwydydd:

  • Sy’n derbyn gostyngiad band anabledd ym mandiau treth gyngor F i I ac felly heb fod yn derbyn taliad o’r prif gynllun. Anfonir llythyr gwahoddiad i chi hefyd erbyn 9 Medi 2022 fydd yn rhoi cod mynediad unigryw i chi lenwi eich cais am y ffurflen gofrestru Cynllun Dewisol
  • a gafodd eu rhoi mewn llety dros dro yn Sir Fynwy gan Gyngor Sir Fynwy. Bydd Cyngor Sir Fynwy yn cysylltu’n uniongyrchol gyda’r rhai sy’n gymwys.
  • gyda phlentyn yn derbyn taliad Prydau Ysgol am Ddim ym mis Chwefror 2022 y mae eu hunig neu brif breswylfa yn Sir Fynwy. Gwnaed taliadau yn uniongyrchol i gyfrifon banc derbynwyr ar 13 Gorffennaf 2022