Skip to Main Content

Mae Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf Llywodraeth Cymru bellach wedi dod i ben.

Bydd y dudalen hon yn rhoi gwybodaeth i chi ar yr hyn yr oedd y cynllun yn ei gynnig.

Taliad untro o £200 i aelwydydd cymwys i helpu gyda chostau tanwydd. Mae hyn ar ben ad-daliad Biliau Ynni Llywodraeth y DU a Thaliad Tanwydd y Gaeaf sy’n cael ei dalu fel arfer i bensiynwyr.

Rydym yn gweithio i gael gwybodaeth am aelwydydd cymwys a byddwn yn ysgrifennu at y rheiny yn ydym wedi eu hadnabod. Serch hynny, os nad ydych chi’n derbyn llythyr, ond rydych yn credu eich bod yn gymwys, gallwch wneud cais o hyd. Os ydych chi’n credu eich bod yn gymwys i dderbyn y taliad, gallwch wneud cais o ddydd Llun, 26 Medi tan 5pm ddydd Mawrth 28 Chwefror 2023.

Bydd y taliad ar gael i bob cwsmer ynni cymwys (un taliad i bob cartref) ni waeth a oes gennych fesurydd rhagdalu, yn talu trwy ddebyd uniongyrchol neu’n derbyn biliau chwarterol. Gallwch hawlio’r taliad os ydych yn defnyddio tanwydd ar y grid neu i ffwrdd o’r grid.

Ein bwriad yn gwneud pob taliad o fewn 30 diwrnod o dderbyn cais dilys.

Ynglŷn â’r Cynllun

Mae Cynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru yn rhan o becyn cymorth tanwydd gwerth £90miliwn i fynd i’r afael â phwysau uniongyrchol ar gostau byw. Mae’r cynllun hwn yn targedu aelwydydd ag incwm isel yn ogystal ag aelwydydd sy’n derbyn budd-daliadau cymwys a’i fwriad yw lleihau effaith costau cynyddol tanwydd a’r argyfwng costau byw.

Ydw i’n Gymwys?

Mae’r rheolau cymhwyster wedi eu gosod gan Lywodraeth Cymru ac ni allwn wneud taliad y tu allan i’r rheolau yma. Gall taliad gael ei wneud i chi os ydych chi’n bodloni’r holl amodau amlinellir isod:

  • Amod 1 – Amod Hawl Trwy Fudd-dal

Bydd y cynllun yn agored i aelwydydd lle rydych chi neu’ch partner yn cael un o’r budd-daliadau cymwys ar unrhyw adeg rhwng 1 Medi 2022 a 31 Ionawr 2023:

  • Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (CGDG)
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Credyd Cynhwysol
  • Credydau Treth Plant
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Gofalwyr (Ni fyddwch yn gymwys ar gyfer y taliad os oes gennych hawl sylfaenol i Lwfans Gofalwyr, ond nad ydych yn derbyn taliad oherwydd eich bod yn derbyn budd-dal arall ar yr un gyfradd neu gyfradd uwch neu eich bod dim ond yn derbyn premiwm gofalwyr gofalwr o fewn budd-dal ar sail modd, oni bai bod y budd-dal ar sail modd yn un o’r budd-daliadau cymwys.)
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Credydau Treth Gwaith
  • Credyd Pensiwn
  • Lwfans Byw i Bobl Anabl (DLA)
  • Lwfans Ceisio Gwaith ar Sail Cyfraniadau/Dull Newydd
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar Sail Cyfraniadau/Dull Newydd
  • Lwfans Gweini Cyson

Efallai byddwch yn gymwys o hyd ar gyfer taliad os nad ydych yn derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau cymwys uchod, ond bod gennych ‘berson cymwys’ yn byw gyda chi. Person cymwys yw rhywun sy’n byw yn eich cartref fel eu prif gartref; ac maen nhw’n blentyn neu oedolyn arall dibynnol sy’n byw gyda chi (neu eich partner); ac yn derbyn un o’r budd-daliadau canlynol rhwng 1 Medi 2022 a 31 Ionawr 2023:

  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • Taliad Annibyniaeth Personol
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Lwfans Gweini Cyson
  • Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfe

Os byddwch yn gymwys, caiff y taliad ei wneud i berchennog y cartref sy’n gyfrifol am dreth y cyngor neu’r costau tanwydd – nid y person cymwys.

  • Amod 2 – Amodau Cyfrifoldeb am Danwydd

I fodloni’r amod yma, mae’n rhaid i chi (neu’ch partner) fod yn gyfrifol am Dreth y Cyngor oherwydd fe dybir wedyn mai chi yw’r sawl sy’n talu’r biliau tanwydd er gyfer eich cartref. Os nad ydych chi’n gyfrifol am dalu Treth y Cyngor, gallwch fodloni’r amod yma o hyd trwy ddangos mai chi sy’n gyfrifol am talu’r costau tanwydd ar gyfer y cartref. Mae mathau derbyniol o dystiolaeth i’w gweld yma (dolen at dabl o dystiolaeth dderbyniol)*. Mae hyn yn berthnasol ni waeth a yw taliad am danwydd trwy fesurydd rhagdalu, trwy ddebyd uniongyrchol neu fil chwarterol ac a yw tanwydd yn cael ei dderbyn trwy’r grid neu oddi ar y grid.

Gallwch hawlio am gostau tanwydd dim ond ar gyfer eiddo yng Nghymru a ble mai eich prif gartref yw’r eiddo.

  • Amod 3 – Amod Taliad

Dim ond un taliad mae gennych hawl iddo gan y cynllun yma a byddwch yn bodloni’r amod yma dim ond os nad ydych chi (neu eich partner) eisoes wedi derbyn taliad o dan Gynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru 2022/2023. Ni ddylech wneud cais am fwy nag un taliad o dan y cynllun yma gan y bydd ceisiadau pellach yn cael eu gwrthod heb unrhyw rybudd pellach.

Rwy’n credu fy mod yn gymwys – oes angen i fi wneud cais?

Os ydych chi’n credu eich bod yn gymwys a bu i chi dderbyn taliad Cymorth Costau Byw o £150 yn ddiweddar i mewn i’ch cyfrif banc, does dim rhaid i chi wneud unrhyw beth. Byddwn yn ceisio gwneud y taliad yn uniongyrchol i mewn i’ch cyfrif banc gan ddefnyddio’r manylion banc sydd gennym eisoes. Ein bwriad yw gwneud y taliadau yma erbyn 3ydd Hydref 2022 a byddwn yn cysylltu â chi trwy e-bost neu lythyr pan fydd eich taliad wedi cael ei brosesu. Bydd y taliad yn ymddangos ar eich cyfrif fel ‘MCCWinterFl’. Os nad ydych chi wedi derbyn naill ai eich taliad neu eich cadarnhad erbyn 3ydd Hydref 2022, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

Os wnaethoch chi ofyn i ni dalu eich taliad costau byw i mewn i gyfrif banc nad oedd yn eich enw, ni fyddwn yn gallu talu’r taliad Tanwydd y Gaeaf yn awtomatig. Bydd angen i chi gyflwyno cais ar-lein felly.

Ar gyfer aelwydydd eraill yr ydym wedi gallu eu hadnabod trwy ein cofnodion, byddwch yn ysgrifennu atoch chi cyn hir i’ch gwahodd chi i gyflwyno cais ar-lein trwy ein gwefan:Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf Llywodraeth Cymru

Os ydych chi’n teimlo eich bod yn gymwys ac nad ydych yn derbyn naill ai taliad uniongyrchol neu lythyr gennym yn eich gwahodd i wneud cais erbyn 7fed Hydref 2022, dylech gwblhau cais ar-lein. Mae hyn oherwydd bod yna rai aelwydydd na allwn ni gael gwybodaeth amdanyn nhw fel rhai cymwys – fel y rheiny sydd â pherson cymwys yn byw gyda chi.

Pa wybodaeth sydd angen arnaf i er mwyn gwneud cais?

Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, bydd angen i chi naill ai profi eich bod yn derbyn un o’r budd-daliadau cymwys uchod, neu brofi mai chi yw’r person sy’n gyfrifol am dalu’r biliau tanwydd ar gyfer eich cartref. Gall y dystiolaeth yma gael ei lanlwytho neu ei hatodi at eich cais ar-lein.

Faint o amser sydd gen i i wneud cais?

Bydd y cynllun ar agor i geisiadau ar-lein o 9:00am ddydd Llun 26ain Medi 2022 ac yn aros ar agor tan 5pm ddydd Mawrth 28ain Chwefror 2023. Os oes angen i chi wneud cais, mae’n rhaid ei wneud cyn y dyddiad cau oherwydd ni fydd ceisiadau a gaiff eu derbyn ar ôl y dyddiad yma’n cael eu hystyried.

Pryd gallaf i ddisgwyl taliad?

Nid yw taliadau o dan y Cynllun Cymorth Tanwydd yn daliad argyfwng nag yn daliad yn lle incwm. Oherwydd hyn, does dim amserlen benodol ar gyfer penderfynu ceisiadau. Serch hynny, byddwn yn ceisio gwneud taliad i chi o fewn 30 diwrnod ar ôl derbyn eich cais dilys cyhyd â’n bod ni’n derbyn yr holl dystiolaeth angenrheidiol.

A allaf i apelio os nad ydw i’n gymwys?

Does dim hawl i apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad i beidio â rhoi taliad. Os ydych yn aflwyddiannus, bydd hyn oherwydd nad ydych chi wedi bodloni’r meini prawf ac nad ydych chi’n gymwys felly. Os caiff eich cais ei wrthod, byddwch yn cael gwybod y rheswm dros wrthod ac yn cael cyfle i wneud cais o’r newydd os bydd eich amgylchiadau’n newid.

Mae manylion pellach am gymorth y gallech fod â hawl iddo ar ein gwefan yma: Materion Arian – Monmouthshire

* Gall yr Awdurdod benderfynu beth sy’n ddigonol mewn achosion fel hyn, serch hynny, ymhlith mathau digonol o dystiolaeth mae:

Cwsmer â Bil

Copi digidol o fil neu anfoneb ddiweddar ar gyfer tanwydd i ffwrdd o’r grid

Sgrinlun/ffotograff o fil diweddar

Sgrinlun o enw a chyfeiriad o ddangosfwrdd cyfrif ar-lein / ap

Copi papur o fil diweddar

Cwsmer Rhag-dalu

Cadarnhad trwy e-bost o ragdaliad diweddar

Sgrinlun o fesurydd safonol neu ddyfais mesurydd clyfar o’r cartref (dylai mesurydd

clyfar arddangos hanes o daliadau)

Sgrinlun o enw a chyfeiriad o ddangosfwrdd cyfrif ar-lein / ap (cwsmeriaid mesurydd

clyfar yn unig)

Derbynneb Paypoint neu debyg yn dangos taliad rhag-dalu diweddar

Cwsmer i Ffwrdd o’r Grid

Anfoneb ddiweddar am brynu tanwydd oddi ar y grid