Tudalen lanio Materion Arian

Gall unrhyw un syrthio ar ei hôl hi gyda biliau a mynd i ddyled, ond NID YW BYTH yn rhy hwyr i ofyn am gymorth a chyngor. Darllenwch drwy’r wybodaeth yma i ddarganfod pa gymorth sydd ar gael i chi yn Sir Fynwy.

Os hoffech siarad â rhywun gallwch ffonio ein Canolfan Gyswllt ar 01633 644644 neu ymweld ag un o’n hybiau cymunedol, gallant gynghori pa gymorth a allai fod fwyaf perthnasol ar gyfer eich amgylchiadau.

Gallwch hefyd gysylltu â Chyngor ar Bopeth ar 0800 702 2020

Mae’r Coronafeirws wedi arwain at lawer o newidiadau ym mhob un o’n bywydau.  Efallai ei fod wedi bod yn gyfnod sy’n peri pryder arbennig i chi os oes gennych bryderon am eich incwm, neu os ydych yn ei chael yn anodd talu eich biliau neu eich rhent, ond mae cymorth a chyngor ar gael i’ch cynorthwyo. 

Mae hwn yn ganllaw byr i rai o’r mathau ariannol a mathau eraill o gymorth a allai fod ar gael i’ch helpu.   Mae’n cynnwys manylion sefydliadau cenedlaethol yn ogystal â chysylltiadau lleol yn Sir Fynwy.

Mae llawer o wybodaeth yma ac efallai y bydd yn cymryd ychydig o amser i edrych drwy’r cyfan; y newyddion da yw bod hyn oherwydd bod llawer o help ar gael.   Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau, gall sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth neu’ch landlord, os ydych yn denant tai cymdeithasol, eich helpu i ddod o hyd i’r holl gymorth a chefnogaeth sy’n iawn i chi.

Os ydych yn cael trafferth mae bob amser yn well ceisio help a chyngor cyn gynted â phosib yn hytrach nag yn hwyrach – ond nid yw byth yn rhy hwyr i ofyn am help, efallai y byddwch yn synnu faint y gellir ei wneud i’ch helpu sefyll ar eich traed unwaith eto!