Skip to Main Content

Er mwyn cydymffurfio gyda safonau sicrwydd talu, fel o 15/02/2018 caiff rhai porwyr, os nad ydynt yn hollol gyfredol, eu hatal rhag cael mynediad i dudalen taliadau ar-lein Sir Fynwy. Os effeithir ar eich porwr cyflwynir sgrîn i chi sy’n cynnwys gwybodaeth ac arweiniad ar sut i ddiewddaru eich porwr rhyngrwyd. Os ydych yn dal i fethu gwneud taliad dull arall yw ffonio ein llinell talu Ffôn Awtomedig – 0800 023 7406

Rydym yn cynnig nifer o ffyrdd i dalu, gan ddibynnu ar sut ydych am dalu.

Debyd Uniongyrchol yw’r ffordd fwyaf hawdd a mwyaf diogel i dalu eich biliau yn gyson.  Mae manylion isod am yr hyn yr ydych yn medru talu amdano gan ddefnyddio Debyd Uniongyrchol. Mae taliadau fel arfer yn cael eu casglu yn fisol  ac mae modd dewis dyddiad penodol ar gyfer casglu arian ar gyfer talu am rai gwasanaethau. Cliciwch ar y gwasanaeth perthnasol am fanylion pellach:

Er mwyn trefnu talu anfonebau Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor gan ddefnyddio Debyd Uniongyrchol, cysylltwch gyda’n Tîm Incwm Gwasanaethau Cymdeithasol ar 01633 644772 er mwyn gwneud cais am ffurflen mandad neu er mwyn trefnu debyd uniongyrchol dros y ffôn.

Mae ein cyfleuster talu ar-lein yn eich galluogi i wneud taliadau’n uniongyrchol ac yn ddiogel i’r Cyngor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Gallwch wneud taliadau am y gwasanaethau canlynol drwy ddilyn y cyfarwyddiadau isod.

Pan fyddwch yn clicio ar y penawdau isod, byddant yn ehangu i ddangos cyfarwyddiadau, darllenwch y cyfarwyddiadau os gwelwch yn dda ar sut i wneud taliadau ac yna cliciwch ar ‘Parhau i’r dudalen talu’.

Talu Treth y Cyngor Ar-lein ▼

Dewiswch Treth y Cyngor fel eich math o daliad, yna nodwch y wybodaeth ar gyfer talu.

Talu Ardrethi Busnes Ar-lein

Dewiswch Ardrethi Busnes fel eich math o daliad, yna nodwch y wybodaeth ar gyfer talu.

Talu Gordaliadau Budd-dal Tai Ar-lein

Dewiswch Gordalu Budd-daliadau Tai fel eich math o daliad, yna nodwch y wybodaeth ar gyfer talu.

Talu Anfonebau’r Cyngor Cyf 7 Ar-lein

Dewiswch Anfonebau’r Cyngor Cyf 7 fel eich math o daliad, yna nodwch y wybodaeth ar gyfer talu

Talu Gwasanaethau Cymdeithasol  Cyf 6 Ar-lein

Dewiswch Cyfeirnod y Gwasanaethau Cymdeithasol 6 fel eich math o daliad, yna nodwch y wybodaeth ar gyfer talu.

Talu Gwasanaethau Ar-lein

Dewiswch Gwasanaethau fel eich math o daliad, dewiswch y Saeth i Lawr ▼ ar y ddewislen ar y brig, Dewiswch eich gwasanaeth gofynnol o’r ddewislen, yna nodwch y wybodaeth ar gyfer talu.

Rydym yn derbyn y cardiau debyd a chredyd canlynol: Visa a MasterCard.  Yn anffodus, nid ydym yn medru derbyn cardiau American Express.

Nodwch os gwelwch yn dda ein bod wedi ychwanegu nodwedd 3D er mwyn sicrhau bod taliadau ar-lein yn fwy diogel. Os ydy’ch taliad yn cael ei wrthod neu os ydych yn cael problemau, yna defnyddiwch ein Gwasanaeth Talu  Awtomatig neu mae modd i chi gysylltu gyda’n Swyddfa Incwm ar 01633 644355.

Mae ein cyfleuster talu  awtomatig dros y ffôn ar gael 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos. Y rhif yw 0800 0237406 (bydd rhaid talu cyfraddau lleol am ffonio).  Mae modd i chi wneud taliad am y gwasanaethau canlynol:

  • Y Dreth Gyngor
  • Cyfraddau Busnes
  • Gordaliadau Budd-daliadau Tai
  • Anfonebau’r Cyngor (cyfeirnod yn dechrau gyda 7)
  • Anfonebau Gwasanaethau Cymdeithasol (cyfeirnod yn dechrau gyda 6)

Sicrhewch os gwelwch yn dda bod manylion eich cyfeirnod a’ch cerdyn debyd neu gredyd yn barod.

Rydym yn derbyn y cardiau debyd a chredyd canlynol: Visa a MasterCard.  Yn anffodus, nid ydym yn medru derbyn cardiau American Express.