Skip to Main Content

Wyddech chi fod ailgylchu gweithle yn newid?

O 6 Ebrill 2024 bydd yn ofyniad cyfreithiol i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus ddidoli eu gwastraff ar gyfer ailgylchu.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r gyfraith hon i wella ansawdd a faint o wastraff a gasglwn a sut yr ydym yn ei ddidoli.

Bydd angen i weithleoedd wahanu’r deunyddiau a restrir isod ar gyfer eu hailgylchu. Bydd angen hefyd i weithleoedd drefnu i’r gwastraff gael ei gasglu ar wahân i wastraff arall.

  • papur a cherdyn
  • gwydr
  • metel, plastig, a chartonau a deunyddiau eraill tebyg (er enghraifft, cwpanau coffi)
  • bwyd – dim ond ar gyfer mannau sy’n creu mwy na 5kg yr wythnos o wastraff bwyd
  • cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff (sWEEE) bach heb eu gwerthu, a
  • tecstilau heb eu gwerthu

Ni chaniateir rhoi eich holl wastraff mewn un bin os bydd unrhyw rai o’r deunyddiau hyn ynddo.

Dilynwch y ddolen hon i gael mwy o wybodaeth Newidiadau i ailgylchu yn y gweithle: canllawiau ar gyfer gweithleoedd | LLYW.CYMRU


Casglu Ailgylchu Busnes

Mae gennym nifer o feintiau daliedyddion ar gael ar gyfer yr isafswm o wahanu sydd ei angen yn unol â rheoliadau ailgylchu gweithle. Gallwn gynnig gwasanaeth wythnosol a hefyd bob bythefnos ar draws pob ffrwd ailgylchu a gwastraff.

Y gwasanaethau casglu y mae Sir Fynwy yn eu cynnig yw:

  • Ailgylchu coch (papur a chardfwrdd)
  • Ailgylchu porffor (plastigau a metelau)
  • Gwydr
  • Bwyd
  • Gwastraff na ellir ei ailgylchu

Casgliad ar gael trwy Ailgylchu Cymunedol Homemakers ar gyfer Offer Trydanol ac Electronig Gwastraff Bach Heb eu Gwerthu a Thecstilau Heb eu Gwerthu. Ffoniwch 01873 857618 i archebu.

Mae rhagor o wybodaeth yma:

Dylid nodi y dylai unrhyw wastraff penodol, er enghraifft, olew, gwastraff clinigol neu rwbel adeiladu gael ei symud gan gontractwr arbenigol.

Dyletswydd gofal

Caiff y Nodyn Trosglwyddo Dyletswydd Gofal i gwsmeriaid am dâl blynyddol o £40. I gydymffurfio gyda’ch dyletswydd ddeddfwriaethol mae’n rhaid i chi fod â Nodyn Trosglwyddo Dyletswydd Gofal. Mae’r ddyletswydd gofal yn cynnwys ailgylchu busnes a chasgliadau gwastraff, mae hyn yn cynnwys y cyfnod Ebrill i Mawrth. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol a dylid cadw’r dogfennau am 2 flynedd.

Pan lofnodir contract bydd angen i chi dalu bond, a bydd swm hynny yn cyfeirio at nifer y biniau sydd gennych a faint o weithiau y caiff gwastraff ei godi.

Caiff y cwsmer ei filio dri mis ymlaen llaw, neu i ddechrau’r cyfnod bilio nesaf os ydych yn newydd i’r gwasanaeth.

I’ch atgoffa am eich goblygiadau cyfreithiol fel busnes, yng nghyswllt gwastraff:

Mae’n rhaid i unrhyw fusnes neu unigolyn sy’n cynhyrchu, mewnforio, cadw, storio, cludo, trin neu waredu â gwastraff gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y caiff y gwastraff ei reoli’n gywir. Caiff y gofyniad hwn ei nodi yn Neddf Asiantaethau Diogelu’r Amgylchedd 1990 a chaiff ei adnabod fel “dyletswydd gofal”. Mae hefyd yn weithredol i unrhyw un sy’n gweithredu fel brocer ac sydd yn rheoli gwastraff. Gallai torri’r ddyletswydd arwain at gosb o hyd at £5,000 os y ceir chi yn euog yn y Llys Ynadon neu ddirwy heb derfyn os y cewch chi’n euog yn Llys y Goron.

Chi sy’n gyfrifol am eich gwastraff a dim ond i berson gydag awdurdod y dylech ei drosglwyddo. Nid yw eich dyletswydd yn dod i ben pan fyddwch yn trosglwyddo’r gwastraff i’r deiliad nesaf. Mae’n ymestyn ar hyd holl gadwyn rheolaeth eich gwastraff. Mae’n rhaid i chi weithredu os credwch na chaiff eich gwastraff ei drin yn gywir.

Ffioedd ailgylchu a gwastraff busnes fesul casgliad 2024/2025

 Ailgylchu cochAilgylchu porfforAilgylchu gwydrAilgylchu bwydGwastraff na fedrir ei ailgylchu
Bin 1100l £16.11£29.23
Bin 660l £9.67£22.26
Bin 360l £4.83£4.83£18.53
Bin 240l £3.22£3.22£10.22£8.48£14.74
Bin 140l £5.30£6.32
Sach/Blwch ailddefnyddio£1.50£1.50£1.50£1.50
Bag defnydd sengl£3.24

Tâl busnes bach: 

1 x sach borffor ailddefnyddio, 1 x sach goch ailddefnyddio, 1 x blwch gwydr, 1 x cadi bwyd 23 litr yr wythnos.

2 x bag na fedrir ei ailgylchu bob bythefnos.

£375 y flwyddyn,  £93.75 y chwarter, yn cynnwys tâl WTN.

Darpariaeth cynhwysydd:

Rhaid i ailgylchu coch, ailgylchu porffor, ailgylchu gwydr gael ei gyflwyno yn rhydd o fewn y cynwysyddion a roddwyd.

Gellir cyflwyno gwasanaeth na fedrir ei ailgylchu yn rhydd neu mewn bagiau o fewn y cynwysyddion. Ar gyfer cwsmeriaid sy’n defnyddio’r bagiau heb fod yn ailgylchadwy defnydd sengl neu’r ‘gwasanaeth busnes bach’, caiff bagiau gwastraff busnes gwyrdd eu darparu ac mae’n RHAID i wastraff gael eu cyflwyno ynddynt. Mae pecyn busnes bach yn cynnwys 52 bag gwastraff busnes defnydd sengl am flwyddyn lawn.

Mae angen rhoi papur busnes wedi ei larpio mewn bag papur ac o fewn daliedydd ailgylchu coch.

Mae’n rhaid i wastraff bwyd fod mewn bag a dim yn ‘rhydd o fewn y daliedydd a ddarparwyd’. Gellir darparu bagiau pan lofnodir cytundeb.

Ffyrdd Arall o Waredu

Mae cyfleusterau ar gael yn Llan-ffwyst a Five Lanes ar gyfer gwaredu â gwastraff busnes. Codir tâl am y gwastraff hwn ac mae’n rhaid ei bwyso mewn dros y bont bwyso.

  • Five Lanes: 01633 400394
  • Llan-ffwyst: 01873 736261

Cysylltu â ni

Ar gyfer pob ymholiad am wastraff masnachol: