Skip to Main Content

Pan ddaw i wastraff ac ailgylchu, rydych angen gwasanaeth y gallwch ddibynnu arno a darparydd sy’n deall eich anghenion. Caiff ein gwasanaethau eu teilwra i’ch gofynion penodol, p’un ai ydych yn fawr neu’n fach, ar y stryd fawr neu stad ddiwydiannol, yn y dref neu yn y wlad. Gallwn eich sicrhau y caiff eich gwastraff ac ailgylchu eu trin yn effeithiol ac effeithlon ac o fewn y gyfraith.

Gan gyflenwi gwasanaeth ailgylchu syml, ynghyd â gwasanaeth ansawdd uchel ar gyfer gwastraff busnes, gallwn eich helpu i ostwng eich gwastraff, ailgylchu mwy a rhoi:-

    • GWERTH AM ARIAN
    • GWASANAETH DIBYNADWY LLEOL CYFLYM
    • HYBLYGRWYDD
    • SAFONAU UCHEL O WASANAETH CWSMERIAID
  • CYFLAWNI DYLETSWYDD GOFAL EICH BUSNES

I’ch atgoffa am eich cyfrifoldebau cyfreithiol fel busnes, yn ymwneud â gwastraff …

Mae’n rhaid i unrhyw fusnes neu unigolyn sy’n cynhyrchu, mewnforio, cadw, storio, cludo, trin neu waredu â gwastraff gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y caiff y gwastraff ei reoli’n iawn. Caiff y gofyniad hwn ei nodi yn Neddf Asiantaeth Diogelu’r Amgylchedd 1990 a chyfeirir ato fel “dyletswydd gofal”. Mae hefyd yn weithredol i unrhyw un sy’n gweithredu fel brocer ac sy’n rheoli gwastraff. Gallai torri dyletswydd gofal arwain at gosb o hyd at £5,000 os ceir yn euog mewn Llys Ynadon neu ddirwy heb uchafswm os ceir yn euog yn Llys y Goron.

Rydych yn gyfrifol am eich gwastraff a dim ond i berson gydag awdurdod y dylech ei drosglwyddo. Nid yw eich dyletswydd yn dod i ben pan fyddwch yn trosglwyddo’r gwastraff i’r deiliad nesaf. Mae’n ymestyn ar hyd holl gadwyn rheoli eich gwastraff. Mae’n rhaid i chi weithredu os credwch nad yw eich gwastraff yn cael ei reoli’n iawn.