Skip to Main Content

Mae Gwasanaethau Plant a Datblygu Cymunedol Cyngor Sir Fynwy, mewn partneriaeth ag ysgolion cyfun lleol, Papyrus a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (CMGG), yn dod at ei gilydd i gynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu ledled Sir Fynwy, gan ganolbwyntio ar bobl ifanc a’u teuluoedd.

Digwyddiadau

Brenin Harri VIII

19eg Mehefin 9am – 4pm,

Croeso i rieni/gofalwyr ac aelodau’r gymuned ddod rhwng 3pm – 4pm. 

Bydd y digwyddiadau’n arddangos grwpiau cymunedol lleol ac yn darparu gwybodaeth am wasanaethau cymorth i blant, pobl ifanc a theuluoedd.  Byddant hefyd yn darparu fforwm ar gyfer sgyrsiau am yr hyn sy’n bwysig i blant, pobl ifanc a theuluoedd.  

Yn y digwyddiad, bydd sefydliadau ac asiantaethau yn darparu gwybodaeth gyffredinol ac arbenigol am gymorth ieuenctid, cymorth i deuluoedd, cyllid/pwysau costau byw, tai, bod yn ofalwr/gofalwr di-dâl, anableddau ac anghenion ychwanegol ac eiriolaeth, ymhlith llawer o bethau eraill!


Bydd pobl ifanc yn gallu mynychu’r digwyddiadau a gynhelir yn yr ysgolion yn ystod y diwrnod ysgol, ac ar agor i deuluoedd a’r gymuned ar ôl i’r diwrnod ysgol ddod i ben (3pm-4pm).

Standiau a Stondinau

Cysylltwch â ni!