Skip to Main Content

Mae gan bobl ifanc a phlant o dan 18 oed rôl o ran gofalu am aelod o’r teulu. Gallai hyn gynnwys nifer o bethau gan gynnwys:

• Tasgau cartref fel coginio, glanhau, golchi ac ati.

• Gofal personol megis helpu gyda golchi, gwisgo, rhoi meddyginiaeth ac ati.

• Gofal plant fel gofalu am frodyr a chwiorydd.

• Tasgau gweinyddol megis delio â biliau ac ati.

Gall fod yn anodd wrth i ofalwr ifanc ymgymryd â chyfrifoldebau mor aeddfed, ac efallai y bydd gofalwyr ifanc yn cael trafferth yn yr ysgol, yn teimlo’n ynysig ac yn colli allan ar gael hwyl. Mae’n bwysig bod gofalwyr ifanc yn gwybod bod cymorth ar gael.

Isod ceir nifer o fanylion cyswllt ar gyfer gwasanaethau sy’n cefnogi gofalwyr ifanc yn eu rôl gofalu.

• Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc – Ymddiriedolaeth Gofalwyr De-ddwyrain Cymru – Rhif Ffôn: 01495 366993

• Gwasanaethau Plant – Cyngor Sir Fynwy – Rhif Ffôn: 01291 636355

Yn ogystal, mae’r prosiect Gofalwyr Ifanc yn bodoli a all roi seibiant i bobl ifanc mewn rolau gofalu a chyfleoedd iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau y gallant golli allan arnynt fel arall.

Prosiect Gofalwyr Ifanc Ardal 3,

Fflat G, Ysbyty Sirol, Griffithstown,

Pont-y-pŵl, NP4 5YA

Rhif Ffôn/Ffacs: 01495 769996

E-bost: ycteam3@crossroads-se-wales.org.uk