Skip to Main Content

Ni yw Tîm Cymunedau a Chyfiawnder Cymdeithasol Cyngor  Sir Fynwy ac rydym  yn ffocysu ar bobl yn gwneud pethau gwych gyda’i gilydd.  

Mae pobl yn dod ynghyd ar draws Sir Fynwy er mwyn gweithredu dros yr hyn sydd yn bwysig iddynt. Rydym yn helpu pobl i rannu syniadau, talent, sgiliau ac angerdd er mwyn gwneud gwahaniaeth i ble maent yn byw.   

Os hoffech gysylltu yn fwy gyda’ch cymuned, neu os oes syniad gwych gennych ar  gyfer rhywbeth sydd yn medru dwyn pobl ynghyd, yna cysylltwch gyda ni. Rydym yn medru helpu gyda phethau fel:

  • Dod o hyd i gyllid
  • Darparu hyfforddiant a datblygiad am ddim
  • Adeiladu rhwydwaith  o gymorth
  • Annog pobl eraill i’ch helpu chi
  • Dod o hyd i leoliad
  • Hyrwyddo eich syniad
  • Help chi gydag unrhyw reoliadau neu fiwrocratiaeth 

Cymorth Costau Byw >