Skip to Main Content

Yn Be Community, rydym yn cydnabod ac yn cofleidio’r ffyrdd amrywiol y mae unigolion yn canfod ac yn cymryd rhan mewn gwirfoddoli. Rydym yn anrhydeddu ac yn gwerthfawrogi’r cyfraniadau unigryw y mae pob gwirfoddolwr yn cynnig.

I gefnogi ysbryd hyfyw gwasanaeth cymunedol, mae Be Community wedi ymrwymo i rymuso gwirfoddolwyr yn Sir Fynwy gydag ystod gynhwysfawr o adnoddau a chyfleoedd hyfforddi. Mae’r hyn yr ydym yn cynnig yn amrywiol, wedi’i gynllunio i ddarparu ar gyfer anghenion a diddordebau amrywiol gwirfoddolwyr yn ogystal â darparu cyrsiau sy’n galluogi prosiectau cymunedol i ffynnu a thyfu. Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi sy’n ymdrin ag agweddau amrywiol ar wirfoddoli a rhedeg grwpiau cymunedol, gan sicrhau bod unigolion yn caffael y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i wneud gwahaniaeth ystyrlon.

Yn ogystal â hyfforddiant traddodiadol, rydym yn darparu:

  • Modiwlau dysgu ar-lein hygyrch, sy’n galluogi gwirfoddolwyr i ymgysylltu â chynnwys gwerthfawr ar eu cyflymder a’u hwylustod eu hunain. Mae’r adnoddau hyn wedi’u crefftio i wella eu dealltwriaeth o faterion cymunedol, meithrin empathi, a hyrwyddo dulliau datrys problemau effeithiol.
  • Pecynnau pwrpasol, rydym yn cydnabod bod sefydliadau cymunedol weithiau angen ymagwedd fwy pwrpasol i helpu i ddyrchafu’r prosiect i’r lefel nesaf neu oresgyn heriau. O dan yr amgylchiadau hyn gallwn ddarparu mentoriaeth gan sefydliadau trydydd sector profiadol sydd â phrofiad penodol yn eich maes.
  • Mae rhwydweithio yn elfen allweddol o’n system gymorth. Rydym yn hwyluso cysylltiadau rhwng gwirfoddolwyr, gan eu galluogi i gyfnewid syniadau, cydweithio ar brosiectau, a dysgu o brofiadau ei gilydd. Drwy ddigwyddiadau Rhwydweithio Gweithredu Cymunedol, gall gwirfoddolwyr ehangu eu cylchoedd cymdeithasol, ffurfio partneriaethau, a chael mewnwelediadau gwerthfawr sy’n cyfoethogi eu taith wirfoddoli

Yr hyn sy’n gosod BE ar wahân yw ein hymrwymiad diwyro i wneud yr adnoddau a’r cyfleoedd hyn yn hygyrch i bob gwirfoddolwr, heb osod unrhyw faich ariannol arnynt. Mae ein gwasanaethau’n cael eu cynnig yn rhad ac am ddim, gan sicrhau nad yw cyfyngiadau ariannol byth yn rhwystro gallu unrhyw un i gyfrannu’n gadarnhaol at eu cymuned. Credwn yn gryf y dylai pawb, waeth beth fo’u cefndir neu eu statws ariannol, gael y cyfle i gymryd rhan mewn gwirfoddoli a phrofi’r ymdeimlad dwys o foddhad a ddaw yn ei sgil.

Felly, p’un a ydych chi’n wirfoddolwr profiadol sydd am ehangu eich sgiliau, yn rhywun sy’n ystyried gwirfoddoli am y tro cyntaf neu’n brosiect cymunedol sydd am uwchsgilio’ch tîm, mae Be Community yn eich croesawu â breichiau agored. Ymunwch â ni ar y siwrnai foddhaus hon, lle gall eich angerdd a’ch ymroddiad wirioneddol gael effaith barhaol yn Sir Fynwy. Gyda’n gilydd, gadewch i ni adeiladu cymuned gryfach, fwy tosturiol i bawb.

Cyrsiau a Gweithdai Diweddaraf


Cwrs Rheoli Ymddygiad Ymosod a Diogelwch Personol

Bydd y cwrs hwn yn eich ymrymuso fel gwirfoddolwr i adnabod, tawelu a dad-ddwysáu sefyllfaoedd o wrthdaro a chynnal eich diogelwch personol (yn unol â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 ac yn cydymffurfio’n llawn â Pasbort Hyfforddi a Chynllun Gwybodaeth Cymru Gyfan ar Drais ac Ymddygiad Ymosodol, Modiwlau A a B.

Bydd y cwrs hwn yn galluogi timau gwirfoddol i adnabod agweddau gwahanol ar wrthdaro y gallent ddod ar eu traws.

• Deall a bod yn ymwybodol o’r gwahanol ddulliau o ddatrys gwrthdaro o’r fath.

• Eich helpu i weithio tuag at leihau effeithiau ymddygiad treisgar ac ymosodol.

• Darparu ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth y Llywodraeth a gofynion cyfreithiol Iechyd a Diogelwch o ran trais ac ymddygiad ymosodol o fewn yr amgylchedd gwaith.

• Cynyddu ymwybyddiaeth o faterion diogelwch personol megis amgylchedd gweithio diogel, gweithio ar eich pen eich hun.

Dyddiad: Dydd Mawrth 30ain Ebrill 2024

Amser: 9:30 i 12:30

Lleoliad: Neuadd Bentref Little Mill, Brynbuga Er mwyn sicrhau eich lle ar gyfer y cwrs addysgiadol hwn, cofrestrwch gan ddefnyddio’r ddolen ganlynol os gwelwch yn dda: https://forms.office.com/e/neSQD3dBcS


Hyfforddiant Iechyd yr Amgylchedd

Yn Adeiladu Prosiectau Bwyd Cymunedol Diogel a Llwyddiannus gyda
Chynllun Hyfforddi Be Community

Mae ‘Foodie Foundations’ yn gynllun hyfforddi a gynigir mewn partneriaeth ag
Iechyd yr Amgylchedd a Be Community.

Mae’n darparu cefnogaeth bersonol a hyfforddiant ardystiedig ar gyfer
prosiectau cymunedol sy’n ymwneud â pharatoi neu drin bwyd.

Nod y cynllun yw sicrhau llwyddiant a diogelwch drwy deilwra cyngor i
anghenion unigryw pob prosiect. Darperir cymorth ar ôl yr ymweliad hefyd. Fodd
bynnag, nid yw’n disodli arolygiadau arferol. I gael rhagor o wybodaeth,
e-bostiwch  BECommunity@monmouthsire.gov.uk 
neu i wneud cais am hyfforddiant, llenwch ein ffurflen gofrestru https://bit.ly/3T36gYw



Cyrsiau yn y gorffennol

Mae’r rhain yn gyrsiau blaenorol, fodd bynnag, os oes gennych ddiddordeb yn y rhain cysylltwch â ni!

  • Dyfarniad Highfield Lefel 2 mewn Ymwybyddiaeth a Rheoli Alergenau Bwyd mewn Arlwyo (RQF)
  • Chat GPT (Ap AI Deallusrwydd Artiffisial)
  • Hylendid Bwyd Lefel 2 (ar-lein)
  • Brandio a Stori Brand
  • Asesiad risg
  • Lechyd a Diogelwch yn y Gwaith
  • Deall Ymyriadau Hunanladdiad
  • Cymorth Cyntaf
  • Cyrsiau a Gweithdai Diweddaraf
  • Cwrs Ymwybyddiaeth y Menopos (ar-lein)
  • Cwrs Ymwybyddiaeth Straen


Cyswllt:

vickylloyd@monmouthshire.gov.uk

Ffurflen Gofrestru Be Community (cliciwch i edrych ar y ffurflen)

Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu’n llwyr gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.