Skip to Main Content

Mae’r Arweinydd Ysgolion Sy’n Ffocysu ar Gymunedau yn gweithio’n agos gydag ysgolion a chymunedau yn Nhrefynwy a Chas-gwent er mwyn helpu creu cyfleoedd i blant a phobl ifanc i chwarae rhan weithgar yn eu cymunedau lleol a bod y cymunedau yma yn cyfrannu at ddysgu a lles pobl ifanc lleol.

Mae ysgolion sy’n Ffocysu ar Gymunedau yn datblygu partneriaethau ag ystod o fudiadau a’n gwneud gwasanaethau yn fwy hygyrch yn lleol i deuluoedd  a’r gymuned ehangach. Maent yn defnyddio eu cyfleusterau a’u hadnoddau i elwa’r cymunedau y maent yn gwasanaethu, gwella bywydau plant, atgyfnerthu teuluoedd ac adeiladu cymunedau cryfach. Mae hyn yn medru cynnwys agor adeiladau ysgol fel bod clybiau a chymdeithasau lleol yn medru eu defnyddio, agor safleoedd ysgolion fel bod cymunedau ehangach yn medru eu defnyddio ar y penwythnos neu yn ystod gwyliau’r ysgol, neu’n gwahodd y gymuned leol i mewn i’r ysgol er mwyn rhannu sgiliau a hyd yn oed bwyd gyda phlant.   

Os hoffech ddysgu mwy ein gwaith ysgol sy’n ffocysu ar gymunedau, neu’n teimlo eich bod yn medru cyfrannu mewn rhyw ffordd, yna cysylltwch gyda   lisagrant@monmouthshire.gov.uk