
Mae Rhwydweithiau Gweithredu Cymunedol yn gyfres o ddigwyddiadau a gweithdai sydd yn cael eu cynnal mewn partneriaeth gyda chymunedau.
Mae’r digwyddiadau yn ceisio creu cyfleoedd i aelodau o’r gymuned i ddod ynghyd a rhwydweithio gyda’i gilydd ar syniadau a phrosiectau sydd yn bwysig i chi a’ch cymuned.
Meddyliwch – “Petai tri pherson arall yn helpu, beth fyddech am wneud er mwyn gwneud eich cymuned yn lle gwell?”
Mae llawer o bartneriaid yn y sector gwasanaethau cyhoeddus a’r sector gwirfoddol yn ymuno yn y rhwydweithiau ac yn medru helpu eich prosiect neu’ch syniad drwy fenthyg staff ac arbenigedd neu’ch helpu i gael mynediad at arian.
Mae cymunedau, grwpiau a mudiadau yn medru gofyn am help er mwyn trefnu Rhwydweithiau Gweithredu Cymunedol yn eu hardal.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda
fredweston@monmouthshire.gov.uk 07890 559566