
Beth gall Dechrau’n Deg ddarparu i mi a’m plentyn ifanc?
Mae byw mewn ardal Dechrau’n Deg yn rhoi mynediad atoch i ystod eang o wasanaethau gyda’r nod o roi dechrau da mewn bywyd i’ch plentyn gan gynnwys:
- Cymorth gwell gan Ymwelwyr Iechyd Dechrau’n Deg
- Cymorth i rieni yn eu cartrefi o’r cyfnod cynenedigol hyd at 3 blwydd oed a allai gynnwys trefniadau cysgu, diogelwch yn y cartref, mynd i’r toiled, bwydo ar y fron a maethiad/diddyfnu, datblygiad plant a dysgu cynnar. Mae Dechrau’n Deg hefyd yn cynnig ystod o Flynyddoedd Rhyfeddol
- Cymorth iaith gynnar gan gynnwys ‘Chatty Chimps’ a ‘Talking Tots’
- Gofal plant rhan-amser o ansawdd uchel i blant rhwng 2 a 3 oed mewn cylchoedd chwarae Dechrau’n Deg. Mae’r ddarpariaeth hon yn costio £2,340 am 12.5 awr bob wythnos am 39 wythnos ond fe’i hariennir ar eich rhan gan Lywodraeth Cymru pan gaiff ei derbyn fel rhan o gynnig llawn Dechrau’n Deg
Pa mor hen mae’n rhaid i fy mhlentyn fod i gael mynediad at Ddechrau’n Deg?
Mae cymorth Dechrau’n Deg yn dechrau yn ystod beichiogrwydd a bydd yn parhau nes pen-blwydd eich plentyn yn 4 oed
Ble mae Dechrau’n Deg yn gweithredu?
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer gwasanaethau Dechrau’n Deg, rhaid i chi allu darparu tystiolaeth eich bod yn byw yn un o’r codau post canlynol:
Y Fenni:
NP7 6DE, NP7 6DF, NP7 6DG, NP7 6DH, NP7 6DN, NP7 6DP, NP7 6DR, NP7 6DT, NP7 6DU, NP7 6DW
NP7 6EH, NP7 7DD, NP7 7RS, NP7 6AP, NP7 6AS, NP7 6AT
NP7 6AU, NP7 6AX, NP7 6AY, NP7 6BA, NP7 6BB, NP7 6BD, NP7 6BE, NP7 6EU, NP7 6EY, NP7 6HA
NP7 6HB, NP7 6HD, NP7 6HE, NP7 6HF, NP7 6HG, NP7 6HL, NP7 6HN, NP7 6HP, NP7 6HS, NP7 6HW
NP7 6PH, NP7 6PL, NP7 6PN, NP7 6PP, NP7 6AJ, NP7 6AQ
Trefynwy – Overmonnow:
NP25 5BQ, NP25 5EA, NP25 5EF, NP25 5EG, NP25 5EH, NP25 5EZ, NP25 5TQ, NP25 5TS, NP25 5UH
NP25 5EY, NP25 5TN, NP25 5TR, NP25 5UA, NP25 5UB, NP25 5UD, NP25 5UE, NP25 5UF, NP25 5UG
NP25 5UJ, NP25 5AN, NP25 5AW, NP25 5AX, NP25 5AY, NP25 5BD, NP25 5EW, NP25 5EX, NP25 5BG
NP25 5BN, NP25 5AJ, NP25 5AQ, NP25 5AG, NP25 5AL, NP25 5NN
Trefynwy – Wyesham:
NP25 3JY, NP25 3JZ, NP25 3LA, NP25 3LL, NP25 3LB, NP25 3LE, NP25 3LF, NP25 3LG, NP25 3JN,
NP25 3LD, NP25 3JW, NP25 3NE, NP25 3NF, NP25 3JR, NP25 3JQ, NP25 3TF
Cas-gwent:
NP16 5AR, NP16 5AS, NP16 5QF, NP16 5RU, NP16 5RW, NP16 5TR, NP16 5TS, NP16 5TT, NP16 5TU
NP16 5SW, NP16 5SY, NP16 5NS, NP16 5NT, NP16 5NX, NP16 5NY, NP16 5QL, NP16 5QP, NP16 5QR
NP16 5QS, NP16 5TP, NP16 5AA
Cil-y-coed:
NP26 4DZ, NP26 4EA, NP26 4EB, NP26 4ED, NP6 4DZ, NP6 4EA, NP6 4ED, NP26 4AE, NP26 4GU
NP26 4JN, NP26 4JU, NP26 4JW, NP26 4JY, NP26 4LG, NP26 4LB, NP26 5GA, NP26 5GB, NP26 5LS
NP26 5LT
Sut a phryd y gallaf gofrestru ar gyfer Dechrau’n Deg?
Bydd eich Ymwelydd Iechyd yn ymweld â chi pan fydd eich baban newydd yn cyrraedd a bydd yn cwblhau ffurflen gofrestru gyda chi. Os ydych yn symud i ardal Dechrau’n Deg gyda’ch plentyn, bydd eich meddyg teulu yn eich neilltuo ymwelydd iechyd Dechrau’n Deg os ydych yn gymwys a fydd yn eich cofrestru i’r rhaglen. Os ydych yn ansicr os ydych yn gymwys neu os nad ydych wedi cael eich neilltuo i ymwelydd iechyd Dechrau’n Deg eto, cysylltwch â ni.
Bydd eich ymwelydd iechyd hefyd yn cofrestru eich plentyn ar gyfer gofal plant Dechrau’n Deg pan fyddant yn ymweld â chi. Bydd gofyn i chi gwblhau a llofnodi ffurflen gofrestru gofal plant cyn i’ch plentyn droi’n ddwy flwydd oed.
Ble gall fy mhlentyn fynd i’r cylch chwarae?
Darperir gofal plant yn:
Y Fenni – Cylch Chwarae Butterflies a Chylch Meithrin y Fenni.
Trefynwy – Cylch Chwarae Wiggles and Giggles, Cylch Chwarae Tŷ Gwyn, Meithrinfa Little Einsteins a Meithrinfa Ddydd Trefynwy
Cas-gwent – Cylch Chwarae Pont Hafren a Grŵp Chwarae’r Bluebells
Cil-y-coed – Cylch Chwarae Caldi-Tots
E-bost: flyingstart@monmouthshire.gov.uk