
(Gwasanaeth Cyfeirio Disgyblion Sir Fynwy)
Mae’r Gwasanaeth Cyfeirio Disgyblion yn darparu addysg ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl, gan gynnwys y rhai sydd efallai, oherwydd salwch, gwaharddiad neu resymau eraill, ddim yn cael eu haddysg mewn ysgol brif ffrwd.
Mae’r Gwasanaeth Cyfeirio Disgyblion yn cynnig amrywiaeth o addysgu a dysgu o ansawdd uchel, a chefnogaeth holistaidd, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, i rymuso dysgwyr i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog; cyfranwyr mentrus, creadigol, unigolion iach a hyderus, a dinasyddion egwyddorol, gwybodus.
Mae elfen Uned Cyfeirio Disgyblion y gwasanaeth yn cynnig ymateb statudol, cyflym, yn aml ar fyr rybudd, i’r disgyblion hynny sydd wedi’u gwahardd yn barhaol o’u hysgol. Mae hefyd yn rhoi ymyrraeth a chefnogaeth i ddisgyblion sydd mewn perygl o gael eu gwahardd, trwy feithrin llesiant emosiynol a sgiliau cymdeithasol dysgwyr, a’u cryfhau.
Mae’r Uned Cyfeirio Disgyblion hefyd yn cynnig darpariaeth feddygol EOTAS i ddisgyblion sy’n rhy sâl i fynd i’r ysgol ar hyn o bryd.
Mae’r Uned Cyfeirio Disgyblion yn cynnig cwricwlwm difyr sy’n canolbwyntio ar ddatblygu dysgwyr fel cyfranwyr effeithiol at gymdeithas. Yn ogystal â phynciau craidd, mae dysgwyr hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn astudiaethau galwedigaethol, ac yn cael eu cefnogi i wella eu hanghenion cymdeithasol, emosiynol a llesiant.
Bwriedir yr Uned Cyfeirio Disgyblion fel darpariaeth fyr-dymor, ac mae’r ffocws ar gefnogi ailintegreiddio dysgwyr i’r ddarpariaeth brif ffrwd lle bo’n ddiogel ac yn briodol gwneud hynny. Mae’r Uned Cyfeirio Disgyblion wedi cael ei hadolygu, ac mae’r newidiadau diweddar yn adlewyrchu’r gwelliant parhaus i’r gwasanaeth ac yn cynnwys symud i ddau safle sydd newydd gael eu hadnewyddu yng Nghas-gwent a’r Fenni.
Dyddiadau Allweddol
1af a 2il Medi – Diwrnodau INSET 1 a 2
21ain Medi – Digwyddiad ymgysylltu Rhieni/Gofalwyr
2il Tachwedd – Arolygon Rhieni/Gofalwyr a dechrau arholiadau TGAU mis Tachwedd
2il Rhagfyr – Gwiriad Cynnydd yn cael ei anfon adref
11eg Ionawr – Arolygon Rhieni/Gofalwyr
15fed Chwefror – Diwrnod INSET 2
1af – 4ydd Mawrth – Ymgynghoriadau Rhieni/Gofalwyr
15fed Ebrill – Digwyddiad ymgysylltu Rhieni/Gofalwyr
3ydd Mai – Gŵyl y Banc
6ed – 18fed Mehefin – Arholiadau TGAU
25ain Mehefin – Diwrnod olaf Blwyddyn 11, digwyddiad ymadael ac Adroddiadau Llawn
5ed Gorffennaf – Arolygon Rhieni/Gofalwyr
19eg a 20fed Gorffennaf – Diwrnodau INSET wedi’u dadgyfuno (ysgol ar gau i bob disgybl)
Yn ystod y tymor ysgol: (2026/2027)
| Tymor | Dechrau | Hanner tymor yn dechrau | Hanner tymor yn gorffen | Tymor yn gorffen |
| Hydref | 01/09/2026 | 26/10/2026 | 30/10/2026 | 18/12/2026 |
| Gwanwyn | 04/01/2027 | 08/02/2027 | 12/02/2027 | 19/03/2027 |
| Haf | 05/04/2027 | 31/05/2027 | 04/06/2027 | 20/07/2027 |
School Day:
| Amser | Gweithgaredd |
| 9:00 am – 9:10 am | Cofrestru |
| 9:10 am – 10:10 am | Gwers 1 |
| 10:10 am – 10:15 am | Egwyl i Symud |
| 10:15 am – 11:15 am | Gwers 2 |
| 11:15 am – 11:30 am | Egwyl |
| 11:30 am – 12:30 pm | Gwers 3 |
| 12:30 pm – 1:00 pm | Cinio |
| 1:00 pm – 2:00 pm | Gwers 4 |
| 2:00 pm – 2:15 pm | Egwyl |
| 2:15 pm – 3:15 pm | Gwers 5 (disgyblion meddygol EOTAS yn unig) |
Cwricwlwm
Mae ein cwricwlwm wedi’i gynllunio i gefnogi ein dysgwyr i oresgyn y rhwystrau hynny sy’n eu hatal rhag cael mynediad at ddarpariaeth brif ffrwd a chymryd rhan lawn yn eu haddysg. Mae’n gwricwlwm sy’n canolbwyntio ar ddysgwyr ac mae ganddo ddisgwyliadau a dyheadau uchel ar gyfer pob disgybl. Mae’n seiliedig ar ein cred gadarn fod gan bawb y gallu i gyflawni eu potensial a chyflawni pethau gwych. Mae ei wreiddiau yn ein dealltwriaeth fod yr hyn rydyn ni’n datblygu i fod ac i’w gyflawni yn dod o addysgu difyr, cydnerthedd, gwaith caled a chefnogaeth wych.
Cliciwch yma i ddarllen rhagor am y cwricwlwm
Mae ein cwricwlwm yn canolbwyntio ar ddisgyblion. Mae ein gwaith ar gynllunio, dylunio a gweithredu ein cwricwlwm yn canolbwyntio ar yr elfennau canlynol:
- meithrin a chryfhau iechyd a llesiant pob dysgwr;
- cydweithio systematig rhwng dysgwyr, rhieni/gofalwyr, ysgol brif ffrwd a dewis o ddarparwyr;
- mynediad at gwricwlwm cynhwysol sy’n canolbwyntio ar anghenion unigol pob dysgwr;
- cefnogi cyfnod ailintegreiddio neu bontio dysgwyr sy’n cael darpariaeth gennym i ddarpariaeth brif ffrwd neu arbenigol, a/neu eu galluogi i symud ymlaen i addysg bellach, hyfforddiant neu fyd gwaith.
Mae’r cwricwlwm yn cofleidio’r Cwricwlwm i Gymru ac wedi’i gynllunio’n benodol i ddiwallu anghenion cymuned ein Huned Cyfeirio Disgyblion. Mae’r cwricwlwm wedi’i gynllunio i gefnogi a diwallu anghenion llesiant meddyliol, emosiynol, corfforol a chymdeithasol dysgwyr. Fydd dysgwyr sydd ddim yn fodlon nac yn ddiogel ddim yn dysgu’n effeithiol: mae llesiant yn elfen hanfodol wrth alluogi disgyblion i ddysgu.
Mae’n hyrwyddo datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol ein dysgwyr ac yn caniatáu iddynt werthfawrogi creadigrwydd a chyflawniad dynol.
- Mae ein cwricwlwm yn cynrychioli’r amrywiaeth a’r cynhwysiant cyfoethog yn ein cymunedau, yn eu dathlu ac yn eu gwerthfawrogi. Mae’n darparu’n llawn ar gyfer anghenion dysgwyr sydd ddim yn siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf ac ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Caiff sgiliau pwysig siarad, gwrando, llythrennedd a rhifedd a chymhwysedd digidol eu hyrwyddo trwy gydol y cwricwlwm, ar bob cam allweddol.
Polisïau
Gwella Ysgolion
Strategaeth Addysgu a Dysgu
Mae Uned Cyfeirio Disgyblion Sir Fynwy wedi datblygu cyfres o strategaethau addysgu a dysgu sy’n galluogi ein disgyblion i wneud cynnydd gwych. Dyma ein strategaethau:
- Cynllunio ‘Dechrau gyda’r Diwedd’
- Cwestiynau ar gyfer Dysgu
- Ymarfer Adalw
- Cwestiynu Effeithiol
- Sgaffaldio
- Asesu ar gyfer Dysgu Yn y Wers
- Dysgu ar Sail Ymholiadau
- Addysgu mewn Camau Bach gydag Enghreifftiau wedi’u Modelu
- Addysgu Cam Nesaf
Newyddion a Digwyddiadau
Bore Coffi Macmillan Uned Cyfeirio Disgyblion Gogledd
Diolch yn fawr iawn i’r holl ddisgyblion a staff a wnaeth Fore Coffi Macmillan PRU Gogledd yn gymaint o lwyddiant ddydd Iau diwethaf (25 Medi 2025). Cododd yr Uned £134.85. Cynhelir Bore Coffi Macmillan PRU De ddydd Mawrth 7 Hydref
Cysylltu â ni

Jake Parkinson
Pennaeth Gwasanaeth Cyfeirio Disgyblion Sir Fynwy

Dr Morwenna Wagstaff
Pennaeth Gwasanaeth: Cynhwysiant, Cyngor Sir Fynwy
E-bost: morwennawagstaff@monmouthshire.gov.uk
Ffôn: 01633 644032
Gweinyddu’r Uned Cyfeirio Disgyblion
Cliciwch yma i gwrdd â rhagor o’r tîm

Becky Ayres
Dirprwy Bennaeth Gwasanaeth Cyfeirio Disgyblion Sir Fynwy – Arweinydd y Ganolfan Uned Cyfeirio Disgyblion – Gogledd (CADY)


