Skip to Main Content

Ardal didoli bagiau du – cwestiynau cyffredin

A allaf ddod â gwastraff bag du heb ei ddidoli i’r Ganolfan Ailgylchu?

Na. Ni chaniateir i chi fynd â gwastraff heb ei ddidoli i’r Ganolfan Ailgylchu. Gofynnir i breswylwyr sy’n dod â bagiau du agor a didoli unrhyw eitemau y gellid eu hailgylchu. Gellir ailgylchu dros 50% o eitemau mewn bagiau du. Mae mwy o wybodaeth yn ein cwestiynau cyffredin.

Mae Sir Fynwy wedi datgan argyfwng hinsawdd. Mae gwastraff yn cael effaith enfawr ar yr amgylchedd a drwy ailgylchu mwy a chael gwared â llai, gallwn i gyd ostwng ein heffaith. Caiff deunyddiau tebyg i fwyd, gwydr, caniau, papur, plastig eu cardfwrdd y gellid eu hailgylchu eu taflu pryd y gallent gael eu casglu a’u hailgylchu yn y casgliadau wrth ymyl y ffordd neu Ganolfannau Ailgylchu.

Beth yw’r Polisi?
Mae’r Polisi yn anelu i annog preswylwyr i ddidoli eu gwastraff, yn ddelfrydol gartref, i osgoi taflu gwastraff y gellid ei ailgylchu yn y Ganolfan Ailgylchu.

Pam y cafodd y Polisi ei gyflwyno?

  • I geisio annog mwy o bobl i ailgylchu mwy, naill ai gartref neu yn y Ganolfan Ailgylchu.
  • Mae’n rhaid i Gyngor Sir Fynwy gyrraedd targedau llym a osodwyd gan Lywodraeth Cymru:
  • Rhaid ailgylchu o leiaf 64% erbyn mis Ebrill 2020
  • Rhaid ailgylchu o leiaf 70% erbyn mis Ebrill 2025
  • Byddwn yn cael dirwy o tua £100,000 am bob 1% o’r targed a gollir.

Pryd mae’r polisi yn cychwyn?
Cychwynnodd y polisi ar 25 Hydref 2022.

Beth sy’n rhaid i mi wneud?

  • Didoli gwastraff y gellid ei ailgylchu o ddeunyddiau na fedrir eu hailgylchu gartref fel y gallwch roi’r ailgylchu yn y biniau cywir pan ymwelwch â’r Ganolfan Ailgylchu. Bydd hyn yn gwneud eich ymweliad yn gyflymach ac yn rhwyddach.
  • Agor bagiau yr ewch â nhw i’r Ganolfan Ailgylchu i ddangos i’n tîm nad yw’n cynnwys ailgylchu. Os ydynt, bydd angen i chi eu didoli ar y safle neu fynd gartref i wneud hyn.
  • Dim ond eitemau na ellir eu hailgylchu a ganiateir yn sgip weddilliol Gwastraff Cartrefi.

Oni fydd y Polisi hwn yn cynyddu tipio anghyfreithlon?
Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd. Caiff unrhyw unigolion nad ydynt yn trin eu gwastraff yn gyfrifol eu hymchwilio gan dîm gorfodaeth y Cyngor. Nid yw cynghorau eraill wedi cyflwyno Ardal Didoli Bagiau wedi gweld cynnydd mewn deunyddiau a gaiff eu tipio’n anghyfreithlon.

Beth os oes gennyf eitemau sensitif yn fy magiau?
Gofynnir i chi dynnu unrhyw eitemau y gellid eu hailgylchu o’r bagiau. Bydd ein tîm yn sensitif i’ch anghenion ond gellir gofyn i chi fynd â’r bag gartref i gael gwared ag ef drwy eich casgliad ymyl y ffordd.

A fydd staff y safle yn didoli fy magiau i fi?
Na. Eich gwastraff chi sydd yn y bagiau, a chi sy’n gyfrifoldeb am ei ddidoli. Gallwn roi menig i chi i’ch helpu.

Sut gallaf gael daliedyddion ailgylchu ychwanegol ar gyfer ailgylchu gartref?

Mae stoc o ddaliedyddion ar gael yn ein holl hybiau cymunedol. Yn lle hynny gallwch wneud cais am ddaliedyddion yma neu dros y ffôn (01633 644644) a byddwn yn eu dosbarthi i chi os na fedrwch ymweld â hyb cymunedol.

Cwestiynau Cyffredin ar Ganolfannau Ailgylchu

Pam nad yw’r safleoedd ar agor saith diwrnod yr wythnos?
Dim ond yn ystod yr amser yr ydych wedi ei archebu ymlaen llaw y gallwch ymweld. Mae Llanfihangel Troddi ar gau ar ddyddiau Llun a Mawrth. Mae Llan-ffwyst ar agor ar ddyddiau Mawrth a Mercher. Mae Five Lanes ar gau ar ddyddiau Mercher a Iau.

Mae angen i ni symud deunydd allan o’r safleoedd, felly mae’r dyddiau ar gau yn rhoi amser i ni wneud hyn heb gau yn ystod y dyddiau y maent ar agor.

Beth sydd angen i mi wneud cyn y gallaf ddod i’r ganolfan ailgylchu?

Mae’n rhaid i chi archebu amser ymlaen llaw cyn ymweld â’r Ganolfan Ailgylchu. Mae’n rhaid i chi gyrraedd o fewn eich slot 30 munud a dod â chadarnhad archeb (derbynneb e-bost – digidol neu wedi argraffu).

Os na fedrwch archebu ar-lein, gallwch ein ffonio ar 01633 644644, gwnewch nodyn o gyfeirnod yr archeb  a roddir i chi a dod ag ef i’r safle.

Pam eich bod chi’n cadw’r system archebu?

Cyflwynwyd y system archebu i ail-agor safleoedd yn unol â chanllawiau Covid Llywodraeth Cymru. Bu’r system yn llwyddiannus iawn wrth sicrhau pellter cymdeithasol a rheoli safleoedd ond hefyd wrth gynyddu ailgylchu, gostwng amseroedd aros, gwella ymddygiad ar safle a sicrhau model gwasanaeth mwy cynaliadwy. Felly penderfynodd y Cyngor fabwysiadu’r system archebu a’i gwneud yn barhaol y llynedd. Aeth yr adroddiad oedd yn argymell y newidiadau hyn drwy broses graffu drwyadl gyda phreswylwyr ac Aelodau. Sylweddolwn fod unrhyw newidiadau yn anodd i ddechrau, ond rydym yn hyderus mai dyma’r ffordd iawn ymlaen.

Rydym wedi cynyddu nifer y lleoedd sydd ar gael wrth i gyfyngiadau ddod i ben. Gellir hefyd archebu ar gyfer faniau a cheir/trelars ac os oes lleoedd ar gael, nid oes unrhyw derfyn ar nifer yr ymweliadau y mis er ein bod yn gostwng nifer yr ymweliadau didoli i sicrhau capasiti i bawb. Mae argaeledd digonol ar gyfer preswylwyr, a gallwch yn aml archebu slot ar gyfer y diwrnod neu ddau nesaf. Dylai preswylwyr ddefnyddio’r casgliadau och y stryd i reoli eu gwastraff domestig rheolaidd. Dylai ymweliadau i’r Ganolfan Ailgylchu fod yn anaml a chael eu cynllunio gan y bydd hyn yn gostwng teithiau car a chynyddu ailgylchu.

Sut mae canslo fy archeb?
Os na fedrwch fynychu eich archeb ac yr hoffech ganslo, gwnewch y dilynol os gwelwch yn dda: Mewngofnodi i gyfrif Fy Sir Fynwy a chlicio ar “apwyntiadau ac archebion”. Caiff eich Canolfan Ailgylchu ei rhestru dan “apwyntiadau”. I ganslo, cliciwch y groes a restrir dan “canslo”. Dewiswch eich rheswm am ganslo ac anfon. Caiff eich archeb ei chanslo.
Mae croeso i chi drefnu apwyntiad newydd os ydych angen.

Pam fod yr amserau agor wedi newid?
Cafodd amserau agor y safleoedd eu hadolygu a’u newid ym mis Hydref 2021 i wneud i’r safleoedd redeg yn fwy effeithiol. Mae’r safleoedd ar agor rhwng 8am a 4pm. Nid oedd llawer o alw am yr amserau ar ddiwedd y prynhawn, yn arbennig yn ystod y gaeaf.
Mae pob safle ar gau ddau ddiwrnod yr wythnos. Mae’r dyddiau yn dilyn ei gilydd ac yn ystod yr wythnos pan fo lleiaf o alw. Gyda’r system archebu yn ei lle, mae digon o alluedd i breswylwyr i gael mynediad i’r canolfannau ailgylchu. Mae o leiaf un safle ar agor bob dydd o’r wythnos gan roi gorchudd llawn ar draws y Sir.

Cytunodd Cynghorwyr ar y newidiadau hyn yn 2020 yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a phroses graffu gadarn gydag Aelodau a phreswylwyr.

A wyf angen trwydded preswylydd?
Nid yw’n rhaid i chi ddod â thrwydded preswylydd i ymweld â’r Ganolfan Ailgylchu erbyn hyn. Nid ydym yn adnewyddu trwyddedau preswylwyr. Dim ond i breswylwyr Sir Fynwy mae’r Canolfannau Ailgylchu ar agor ac mae angen i chi archebu amser ar-lein drwy system archebu Fy Sir Fynwy.

Pa mor hir fydd gennyf ar y safle i wagio fy nghar?
Mae’n rhaid i chi gytuno o fewn y slot 30 munud yr ydych wedi’i archebu. Gofynnir i chi gyfyngu eich amser ar y safle i 5 munud er mwyn cadw traffig yn llifo. Mae hyn er mwyn sicrhau y gall pob car sydd wedi archebu gael mynediad i’r safle yn y slotiau amser y maent a archebwyd ymlaen llaw. Gofynnir i chi ddidoli eich gwastraff cyn cyrraedd i gadw eich ymweliad yn fyr.

Sut mae ailgylchu eitemau gwastraff swmpus tebyg i gelfi a nwyddau gwyn?
Gellir casglu eitemau gwastraff swmpus o gartrefi, gellir casglu hyd at 3 eitem am £20. Mae mwy o fanylion ar ein tudalen casglu Gwastraff Swmpus.

Caiff eitemau gwastraff swmpus eu derbyn yn y Ganolfan Ailgylchu ond gyda’r canllawiau cadw pellter cymdeithasol, ni all staff gynorthwyo i ddadlwytho deunydd felly gofynnir i chi beidio dod ag eitemau swmpus na allwch eu trin ar eich pen eich hun.

Ni fedrwch ddod ag eitemau swmpus i’r ganolfan ailgylchu os na allwch eu cario eich hun.

A allaf ddod â gwastraff masnachol i’r Ganolfan Ailgylchu?
Mae gan fusnesau ddyletswydd statudol i wneud trefniadau ar gyfer cael gwared â’u gwastraff eu hunain. Ni chaniateir iddynt ddefnyddio’r Ganolfan Ailgylchu. Gellir cael gwared â gwastraff busnes/masnach yn safleoedd Llan-ffwyst a Five Lanes dros y bont bwysau ar brisiau masnachol cystadleuol (manylion yn y safle). I sicrhau cydymffurfiaeth gyda thrwydded y safle, dylid dangos “Trwydded Cludwr Gwastraff” cyn defnyddio’r safle. I sicrhau cydymffurfiaeth gyda thrwyddedau’r safle, dylid dangos “Trwydded Cludwr Gwastraff” dilys cyn defnyddio’r safleoedd. Bydd personél safle yn hapus i helpu busnesau i gael y drwydded hon.

Gallwch gysylltu â’r safle yn ymwneud â chael gwared â gwastraff busnes: Llan-ffwyst 01873 736261.

Beth os oes gennych eitem yng nghist y car sy’n rhy dda i fynd i’r domen?
Gellir rhoi eitemau mewn ansawdd da ac sy’n ddiogel ac y gall rhywun arall eu defnyddio tu allan i’r cynhwysydd ailddefnyddio ar safle – ond siaradwch gydag aelod o staff yn gyntaf os gwelwch yn dda. Mae’r eitemau hyn yn mynd i’n Siopau Ailddefnyddio y Llan-ffwyst a Five Lanes – Mwy o fanylion.