Skip to Main Content

Yr hyn y gall pob Canolfan Ailgylchu ei dderbyn

Math o wastraffLlan-ffwystLlanfihangel TroddiFive LanesNodiadau
Asbestos yxyGellir mynd ac ychydig o asbestos domestig i Llan-ffwyst neu Five Lanes. Siaradwch gyda staff y  safle yn gyntaf os gwelwch yn dda. Mae mwy o gyngor ar Asbestos ar gael islaw. 
Bagiau duyyyNi chaniateir i chi fynd â gwastraff heb ei ddidoli i’r Ganolfan Ailgylchu. Gofynnir i breswylwyr sy’n dod â bagiau du i agor a didoli unrhyw eitemau y gellid eu hailgylchu.
Batris (cartrefi)yyy 
Batris (ceir)yyy 
Camerâu a chamerâu fideo yyy 
Canfodydd mwg yyy 
Caniau a thuniauyyy 
Cardfwrddyyy 
CDs a DVDs yyy 
Cemegau (Cartref))yyyHolwch staff y safle am gymorth
Chwaraewyr CD ac offer hi-fi arallyyy 
Chwaraewyr DVD a fideoyyy 
Cyfrifiaduron, argraffwyr ac offer TG arallyyy 
Cypyrddau dillad a chabinetauyyy 
Drysau (mewnol, allanol a garej)yyyGweler polisi gwastraff DIY islaw
Erosolau (gwag yn unig)yyy 
Ffoil alwminiwmyyy 
Ffonau symudol yyy 
Ffyrnauyxy 
Ffyrnau microdon yyy 
Goleuadau fflwrolau/bylbiau ynni iselyyy 
Gwastraff gardd yyy 
Gwelyauyyy 
Llyfrauyyy 
Llyfrau ffôn a chatalogauyyy 
Matresiyyy 
Metel sgrap yyy 
Oel injan yyyDim mwy na 7 litr ym mhob ymweliad oherwydd lle i gadw.
Oergelloeddyyy 
Offer trydanol bach (arall)yyy 
Offer trydanol mawr (arall)yxy 
Olew (coginio)yyy 
Paenau gwydryyyGweler polisi gwastraff DIY islaw
Paent (tu mewn a tu allan), farnais, gwirod gwyn yxyGweler polisi gwastraff DIY islaw
Papur, cylchgronau a phost sbwriel yyy 
Peiriannau golchi llestri yxy 
Pren (yn cynnwys sglodfwrdd)yyy 
Poteli a jariau gwydryyy 
Rhewgelloeddyyy 
Silindrau heliwm (gwag yn unig)yyyDylid rhoi silindrau heliwm gwag yn y sgil metel sgrap
Silindrau nwy (gwag yn unig)yxyHolwch staff y safle am gymorth
Sychwyr gwallt, cyrlwyr, sythwyr (etc)yyy 
Tegellauyyy 
Twls trydan (driliau etc) yyy 
Peiriannau golchiyxy 
PlastrfwrddyyyGweler polisi gwastraff DIY islaw
Poteli a phecynnau plastig      yyy 
Rwbel (yn cynnwys briciau a serameg)yyyGweler polisi gwastraff DIY islaw
Siediau (gardd yn unig)yyyGweler polisi gwastraff DIY islaw
Soffasyyy 
Setiau teleduyyy 
Sychwyr taflu      yxy 
Tecstil iau (dillad, esgidiau)yyy 
Teiarsxxx 
Tostwyryyy 

Bagiau du

Ni chaniateir i chi fynd â gwastraff heb ei ddidoli i’r Ganolfan Ailgylchu. Gofynnir i breswylwyr sy’n dod â bagiau du i agor a didoli unrhyw eitemau y gellid eu hailgylchu.

Polisi gwastraff DIY

Cyfyngwyd gwastraff DIY i bum bag neu lond cist car bach ym  mhob ymweliad gyda dim mwy na dau ymweliad y mis.

Mae gwastraff DIY yn cyfeirio’n unig at ddeunyddiau’n deillio o waith graddfa fach yn eiddo’r deiliad tai ei hun. Ar gyfer gwaith graddfa fawr, disgwylir i ddeiiaid tai ddefnyddio contractwr gwastraff preifat a llogi sgip.

Derbynnir gwastraff DIY yng Nghanolfannau Ailgylchu Llan-ffwyst a Five Lanes.

Mae Llanfihangel Troddi yn safle llai a dim ond meintiau bach iawn o wastraff DIY y gall ei dderbyn.

Mae’n rhaid i chi gysylltu gyda staff y safle pan gyrhaeddwch y safle.

Polisi Asbestos

Mae asbestos yn wastraff peryglus a byddem yn argymell eich bod yn cysylltu â chontractwr arbenigol i ddelio’n ddiogel gydag unrhyw wastraff asbestos.

Byddir yn derbyn meintiau bach o asbestos gan ddeiliaid tai yng Nghanolfannau Five Lanes neu Llan-ffwyst. Mae’n rhaid dwbl-lapio llenni cyfan mewn polythen trwm a’i selio gyda thâp trwm. Ni fyddwn yn derbyn mwy na 4 llen maint safonol y flwyddyn, heb fod yn fwy na 120cm wrth 60m. Disgwylir i ddeiliad tŷ logi contractwr arbenigol os ydynt yn dymuno cael gwared â mwy na hyn.

Dylai deiliaid tai wybod na chaniateir i staff Canolfannau Ailgylchu i drin asbestos felly mae’n rhaid iddynt fedru ei roi yn y cynhwysydd  ar y safle heb gael cymorth. Gofynnir i chi siarad gydag aelod o staff ar y safle a byddant yn dweud wrthych ble i roi y gwastraff.

Arall

Nid yw rhannau ceir na cherbydau’n cael eu derbyn yn y ganolfan ailgylchu. Nid yw hyn yn cael ei ystyried yn wastraff cartref a dylid ei gymryd i dorrwr cerbydau. Dim ond batris ceir sy’n cael eu derbyn.

Ni ellir mynd â’r eitemau dilynol i ganolfan ailgylchu Llanfihangel Troddi: Asbestos, cyfarpar cartref mawr (ffyrnau, peiriannau golchi llestri, peiriannau sychu taflu neu beiriannau golchi) a silindrau nwy. Gellir derbyn yr eitemau hyn yng nghanolfannau ailgylchu Five Lanes neu Llan-ffwyst.

DIM gwastraff busnes

Mae gan fusnesau ddyletswydd statudol i wneud trefniadau ar gyfer gwaredu â’u gwastraff eu hunain. Ni chaniateir iddynt ddefnyddio’r Ganolfan Ailgylchu. Gellir gwaredu â gwastraff busnes/masnach yn safleoedd Llan-ffwyst a Five Lanes dros y bont bwyso ar brisiau masnachol cystadleuol (manylion ar y safle). I sicrhau cydymffurfiaeth gyda thrwyddedau’r safle, dylid dangos “Trwydded Cludwr Gwastraff” ddilys cyn defnyddio’r safleoedd. Bydd staff safleoedd yn hapus i helpu busnesau i gael y drwydded hon.

Gallwch gysylltu â’r safle ynghyclh gwastraff busnes: Five Lanes – 01633 400394 neu Llan-ffwyst 01873 736261.