Skip to Main Content

Rydych yn medru rheoli eich cyfrif Treth Gyngor neu  Ardrethi Busnes drwy ddefnyddio ein porth Hunan-wasanaethu. Cliciwch yma ar gyfer y Dreth Gyngor a chliciwch yma ar gyfer Ardrethi Busnes. Rydych yn medru edrych ar y wybodaeth ddiweddaraf ar eich cyfrif, gwirio eich balans, adolygu taliadau, diweddaru manylion cyswllt, newid i dderbyn biliau   di-bapur, gwneud cais am ostyngiadau/diystyriadau a threfnu debyd uniongyrchol. Sicrhewch bod copi diweddar gennych o’ch bil treth gyngor neu ardrethi busnes neu hysbysiad adennill cyn eich bod yn cofrestru


 

Mae’r dreth gyngor yn dreth a osodir gan awdurdodau lleol i fodloni eu gofynion cyllidebol.  

Mae’n broses gyfreithiol. Os oes angen i chi dalu’r Dreth Gyngor, ond nid ydych yn gwneud hynny, fe allech wynebu achos cyfreithiol. Dysgwch beth i’w wneud os ydych chi’n wynebu  Ôl-ddyledion y Dreth Gyngor

Mae’r swm y mae angen i chi ei dalu yn seiliedig ar fand prisio eich cartref ac mae’n cymryd yn ganiataol bod dau oedolyn yn byw yn yr eiddo. 

Os nad yw hyn yn wir, neu os ydych chi, neu rywun sydd yn byw gyda chi, yn anabl, mae’n bosib y gallech gael Gostyngiad yn y Dreth Gyngor.

Bob mis Mawrth byddwch yn cael bil Treth Gyngor blynyddol.  

Gallwch hefyd weld eich bil ar-lein, yn ogystal â thalu, gwneud cais am eithriadau neu ostyngiadau, a dewis biliau di-bapur drwy glicio yma

I drefnu cyfrif ar lein, gwnewch yn siŵr bod gennych rif cyfeirnod y cyfrif a chod y gallwch gael hyd iddo ar fil neu hysbysiad diweddar.

Os nad oes gennych fil diweddar, gallwch ofyn am gopi trwy gysylltu ar  counciltax@monmouthshire.gov.uk 

Angen help i dalu eich treth gyngor?  Cysylltwch ar counciltax@monmouthshire.gov.uk neu ffoniwch 01633 644630

Gallwch dalu’n llawn neu mewn rhandaliadau.

Debyd uniongyrchol: Gallwch gofrestru i dalu trwy ddebyd uniongyrchol

Ar-lein: Trwy ddefnyddio ein dolen talu ar-lein Taliadau ar-lein

Dros y ffôn: Ffoniwch ein llinell daliadau awtomataidd: 0800 023 7406 

Ôl-ddyledion y Dreth Gyngor

Mae’r dreth gyngor yn broses gyfreithiol. Os yw’n ofynnol i chi dalu’r Dreth Gyngor ond nid ydych yn gwneud hynny – neu os ydych yn syrthio ar ei hôl hi gyda thaliadau, fe allech wynebu camau cyfreithiol. 

Os ydych chi’n cael trafferth talu, cysylltwch â’n tîm cyn gynted ag y bo modd ar counciltax@monmouthshire.gov.uk neu ffoniwch 01633 644630. Cael gwybod pa gymorth sydd ar gael

Os ydych chi’n derbyn neges atgoffa, rhaid i chi dalu’r swm sy’n ddyledus, neu fod yn atebol i dalu’r swm sy’n weddill yn llawn.  

Hysbysiad terfynol

Os ydych wedi derbyn hysbysiad terfynol, mae’n golygu:  

  • eich bod heb dalu eich treth gyngor mewn rhandaliadau, fel y nodwyd ar eich bil
  • ni allwch dalu mewn rhandaliadau mwyach, ac mae’r swm llawn bellach yn ddyledus
  • rhaid talu’r swm dyledus sy’n ymddangos ar eich hysbysiad yn llawn, a hynny o fewn 14 diwrnod gwaith o ddyddiad y llythyr hwn. 

Os na chaiff y swm sy’n weddill ei dalu’n llawn, anfonir gwŷs llys atoch. Bydd hyn yn arwain at gostau pellach a fydd yn cael eu hychwanegu at y swm y bydd yn rhaid i chi ei dalu eisoes. 

Os na fedrwch chi dalu, cysylltwch â ni, ac efallai y gallwn helpu. Os oes modd diweddaru’r cyfrif, efallai y byddwn yn gallu ail-ddechrau eich taliadau misol.  

Sut i dalu

Gwŷs Llys

Os ydych wedi derbyn gwŷs llys, mae’n golygu ein bod wedi gwneud cais i’r llys ynadon am y pŵer cyfreithiol i gymryd camau pellach yn eich erbyn i adennill y dreth gyngor sydd heb ei thalu ,a bydd costau llys yn cael eu hychwanegu at eich cyfrif.  

Er mwyn osgoi hyn, mae angen i chi dalu’r swm yn llawn ynghyd ag unrhyw gostau llys. Bydd hyn yn atal unrhyw gamau adfer pellach.  

Os na allwch dalu’r swm llawn gallwch gyflwyno cynnig cytundeb gwŷs yn gofyn a oes modd talu mewn rhandaliadau, a hynny drwy e-bostio  counciltax@monmouthshire.gov.uk

Mae hyn yn golygu bod llys wedi rhoi’r pŵer i ni adennill ôl-ddyledion treth gyngor. Gellir gwneud hyn trwy eu hawlio o’ch cyflog neu fudd-daliadau, cyfarwyddo asiantau gorfodi, cyflwyno gorchymyn arwystlo neu orchymyn methdaliad.  

Os ydych wedi derbyn gorchymyn atebolrwydd, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl. 

Mae’r dreth gyngor yn broses gyfreithiol a gallech wynebu camau cyfreithiol os nad ydych chi’n talu. Dysgwch fwy am Ôl-ddyledion y Dreth Gyngor uchod

Os ydych chi’n cael trafferth talu eich Treth Gyngor, cysylltwch â’n tîm cyn gynted â phosibl ar counciltax@monmouthshire.gov.uk neu ffoniwch 01633 644630.

Gallant eich helpu i sicrhau bod y taliadau yn haws i’w rheoli. 

Gall y tîm hefyd helpu os ydych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, yn agored i niwed. 

Gall hyn gynnwys pobl sydd ag: 

  • Anawsterau corfforol, meddyliol neu anawsterau dysgu
  • Cyflyrau iechyd hirdymor neu ddiagnosis o afiechydon terfynol
  • Pobl y mae eu hamgylchiadau wedi newid yn sylweddol, fel ysgariad neu brofedigaeth
  • Anawsterau ariannol difrifol

Er nad yw bod yn agored i niwed yn dileu eich rhwymedigaeth gyfreithiol i dalu, gallwn gymryd camau penodol dros dro i leddfu eich amgylchiadau ar y pryd. Gall y rhain fod yn eu lle tan i chi gael ateb mwy hirdymor i’r broblem.

Byddwn ni’n:

  • Rhoi nodyn ar eich cyfrif i ddangos y gallech fod yn fregus ac yn methu â rheoli eich materion ariannol
  • Adolygu eich amgylchiadau personol cyn cymryd unrhyw gamau pellach i adennill dyledion, a dal yn ôl ar unrhyw gamau gweithredu lle bo hynny’n briodol 
  • Atal ein hasiantau gorfodi (beilïod) rhag cymryd unrhyw gamau 
  • Ystyried cyfanswm eich dyled i ni wrth i ni ystyried y trefniadau ad-dalu
  • Ceisio tynnu’r arian yn uniongyrchol o fudd-dal os yw hynny’n bosibl
  • Eich helpu i hawlio cymorth treth gyngor ac unrhyw eithriadau a gostyngiadau perthnasol
  • Eich cyfeirio at ffynonellau eraill o gyngor ar ddyledion, fel Cyngor ar Bopeth, gwasanaethau cwnsela ar ddyledion 
  • Gweithio gydag asiantaethau sy’n cynghori, i gytuno ar amserlenni ad-dalu sy’n fforddiadwy ac yn cydnabod eich dyledion sydd o flaenoriaeth

Edrychwn ar bob achos yn ôl ei rinweddau ei hun. 

Efallai y byddwn yn gofyn i chi am lythyr meddyg, datganiad ariannol neu wybodaeth arall fel y gallwn weld natur / maint eich bregusrwydd.