Skip to Main Content

Rydym yn gwneud rhai newidiadau dros dro i rai o drefi ac aneddiadau llai Sir Fynwy. Mae hyn er mwyn ei gwneud yn ddiogel i bawb ddychwelyd a chefnogi’r siopau a busnesau lleol. Gall hyn gynnwys rhai o’r dilynol – cau ffyrdd, gostwng terfyn cyflymder, arwyddion palmant ar gyfer ymbellhau cymdeithasol, rhai rhwystrau.

Bydd cyfnod treialu ar y newidiadau hyn. Byddwn yn gofyn am adborth byw a byddwn yn addasu, ychwanegu, newid neu ddileu mesurau fel sy’n briodol. Byddwn yn dysgu’n gyflym ac addasu wrth i ni fynd ati i wella yn seiliedig ar adborth.

Os yw rhai o’r newidiadau yn llwyddiannus, byddwn yn ystyried eu gwneud yn barhaol, yn dilyn ymgynghoriad yn y dyfodol. Caiff y rhai nad ydynt yn llwyddiannus eu diwygio a’u newid.

Os oes unrhyw gwestiynau, cysylltwych a ni dwy’r ffurflen isod.

Islaw mae dolenni i’r wybodaeth am drefi ac aneddiadau penodol. Ychwanegir at/diwygir y rhai fel sydd angen.

Cliciwch isod i gael gwybodaeth am eich tref

Dogfennau