Skip to Main Content

Rydym yn gwneud rhai newidiadau dros dro i wneud Rhaglan yn ddiogel i’n cymunedau ddychwelyd a chefnogi ein siopau a’n busnesau lleol. Mae strategaeth farchnata wych eisoes wedi dechrau.

Ar hyn o bryd, dim ond mân waith sy’n cael ei gynnig, fel y cytunwyd gyda’r Cyngor Cymunedol. Bydd ardal balmant fwy o faint yn cael ei chreu er mwyn hwyluso ymbellhau cymdeithasol wrth y safle bws i gyfeiriad y dwyrain ar Heol Trefynwy.

Byddwn yn monitro meysydd cul eraill i’w hadolygu os bydd angen ehangu’r palmentydd yn y dyfodol ger Extons a’r Fferyllfa, ond ni chynigir unrhyw newidiadau yn y lleoliadau hyn ar hyn o bryd.

Mae parth 20mya yn cael ei gyflwyno sy’n cwmpasu pentref Rhaglan yn ei gyfanrwydd (ar wahân i’r A40 a ffordd osgoi Brynbuga) er mwyn creu amgylchedd mwy diogel ar gyfer cerddwyr a beicwyr.

Mae’r holl newidiadau yn rhan o gyfnod prawf. Byddwn yn gofyn am adborth byw a byddwn yn addasu, yn ychwanegu at, yn newid neu’n dileu mesurau fel y bo’n briodol. Byddwn yn dysgu’n gyflym ac yn addasu wrth i ni fynd i wella yn seiliedig ar adborth. Os bydd rhai o’r newidiadau yn llwyddiannus, byddwn yn ystyried eu gwneud yn barhaol, yn dilyn ymgynghoriad yn y dyfodol.

Cynlluns