Skip to Main Content

Siopa Lleol

Mae naws yr ŵyl ar ymgyrch Siopa Lleol cyn Nadolig i2021, diolch i gyfraniad busnesau annibynnol,, ysgolion lleol a phreswylwyr Sir Fynwy. Bu rhai o ysgolion cynradd y sir yn gweithio ar bosteri Siopa Lleol fydd i’w gweld yn ein trefi cyn hir. Dewch yn ôl yma i weld diweddariad cyn hir!

Yn y cyfamser, dyma ychydig o hud y Nadolig gan ddisgyblion Ysgolion Cynradd Llandogo a Kymin View.

Rhai rhesymau i siopa lleol yn y Fenni adeg y Nadolig. Mae llawer mwy hefyd, felly ewch i ymweld a’u darganfod i gyd

Mae angen cymorth ar drefi a phentrefi Sir Fynwy yn fwy nag erioed yn dilyn effaith pandemig COVID-19. Rhan sylfaenol o’r cymorth hwn yw’r hyn y gallwn i gyd ei wneud i helpu busnesau lleol.  Mae hyn yn golygu siopa’n lleol lle bynnag y bo modd. 

Mae cymaint o fusnesau lleol – gan gynnwys siopau, caffis, tafarndai, canolfannau garddio, masnachwyr, campfeydd, salonau gwallt, ymhlith cynifer o rai eraill – yn cael eu rhedeg gan bobl leol.  Mae pob punt a wariwch yn mynd tuag at gefnogi’r teulu lleol y tu ôl i’r busnes hwnnw ac yn helpu i ddiogelu swyddi pobl leol.

Ar y tudalennau hyn, bydd gennym wybodaeth i ymwelwyr â threfi, i siopwyr ac i fusnesau.  Dan Newidiadau yn eich Tref gallwch gael gwybod beth sydd wedi’i wneud i wneud siopa’n fwy diogel, mesurau ymbellhau cymdeithasol, newidiadau parcio, parciau bach newydd (yr enw am estyniadau palmant sy’n darparu lle ar gyfer amwynderau ychwanegol, megis byrddau a chadeiriau), a llawer mwy. Cadwch at bellter cymdeithasol, gan ddiheintio eich dwylo a gwisgo mwgwd pan fyddwch mewn mannau cyhoeddus dan do. Chwiliwch am yr arwyddion Siopa Lleol ar eich stryd fawr, a chadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ar gyfer ein negeseuon a fydd yn tynnu sylw at rai o fusnesau a lleoedd anhygoel y sir i ymweld â nhw. Dewch o hyd i ni ar Twitter.

Dangoswch eich cefnogaeth i’r ymgyrch Siopa Lleol

Os hoffech ymuno â’r ymgyrch Siopa Lleol gallwch nawr lawrlwytho casgliad o bosteri, baneri ac asedau cyfryngau cymdeithasol (megis delweddau pen tudalen Facebook a Twitter), oll wedi’u brandio gyda dyluniad hafaidd Siopa Lleol.

Mae croeso i chi ddefnyddio’r rhain ar eich tudalennau cyfryngau cymdeithasol, ar ffenestri eich busnes… unrhyw le y gallwch, i ddangos eich cefnogaeth i’r neges Siopa Lleol, Siopa Sir Fynwy ac i helpu i annog pawb i gefnogi busnesau lleol.

Os oes gennych geisiadau penodol am waith dylunio byddwn yn gwneud ein gorau i helpu – e-bostiwch communications@monmouthshire.gov.uk gyda’r llinell pwnc yn nodi ‘Gwaith Dylunio Siopa Lleol’ ar gyfer unrhyw ymholiadau neu geisiadau.

logo