Skip to Main Content

Mae’r ymgyrch Siopa Lleol ddiweddaraf yn dathlu’r bobl y tu ôl i’r busnesau sy’n gwneud Sir Fynwy yn unigryw. Mae’r ymgyrch yn dechrau gyda ffocws ar Dyndyrn a’r cyffiniau, ond bydd hefyd yn arddangos yn ystod y misoedd nesaf, y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent, Magwyr, Trefynwy a Brynbuga, ymhlith lleoedd eraill.

Wrth wraidd yr ymgyrch hon mae’r neges bod y bunt a wariwch yn lleol yn gwneud gwahaniaeth. Mae’n cefnogi pobl leol a’u teuluoedd, swyddi lleol ac yn helpu i gadw ein strydoedd mawr yn fywiog ac yn fyw.

Clywch gan fusnesau’r sir

Yn y fideo isod, mae rhai o fusnes Tyndyrn a’r cyffiniau yn dweud yn huawdl pam mae angen pob un ohonom gofio’r neges Siopa Lleol. 

Cipluniau o fusnes Sir Fynwy

Rydym wedi cipio portreadau o’r perchnogion, eu teuluoedd, a’u gweithwyr, o rai o fusnesau annibynnol y sir. Gellir lawrlwytho’r posteri hyn – dangoswch eich cefnogaeth ac arddangoswch gopïau lle bynnag y gallwch.

Yn olaf, diolch yn fawr iawn i’r holl fusnesau sydd wedi cymryd rhan hyd yn hyn.  Ychwanegir at y casgliad isod, felly cofiwch ddod nôl ati’n rheolaidd!

Lawrlwythwch gopïau o’r posteri uchod ac mae croeso i chi eu harddangos i’n helpu i hyrwyddo Siopa Lleol.

Wynebau Cil-y-coed

Wynebau Y Fenni

Wynebau Brynbuga

Wynebau Trefynwy

Wynebau Tyndyrn

Wynebau Magwr

Wynebau Cas-Gwent