Skip to Main Content

Diweddarwyd yr erthygl ddiwethaf: 25ain Mawrth 2021

Rydym wedi adolygu trefniadau yng Ngilwern i sicrhau ei bod yn ddiogel i’n cymunedau ddychwelyd a chefnogi ein siopau a’n busnesau lleol. Mae strategaeth farchnata wych eisoes wedi dechrau.

Bydd mesurau i ganiatáu i archebion gael eu gollwng/casglu o’r tu allan i’r fferyllfa ac i gigyddion Bromfields yn cael eu monitro a’u gwella os oes angen. Bydd y mannau cyfyng ger y Village Fish Bar a Londis yn cael eu monitro ond ni chynigir newidiadau ar hyn o bryd: bydd llinellau melyn dwbl yn cael eu gorfodi.

Mae’r Cyngor wedi siarad â Costains a Llywodraeth Cymru i geisio cytundeb i ddefnyddio’r Navigation Inn dros dro er mwyn darparu lle i barcio i drigolion ac ymwelwyr ond yn anffodus ni ellir cytuno ar hyn.

Yn anffodus, oherwydd diffyg cyllid, mae’r parth 20mya arfaethedig ledled y pentref ar gyfer Gilwern wedi’i ohirio tan flwyddyn ariannol 2022/23.

Bydd pedwar Cylchyn Beic Theta yn cael eu gosod ger y toiledau pentref / canolfan gymunedol yn ystod yr wythnosau nesaf, gyda phwmp beic cyhoeddus ar Lwybr 46 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

Os oes gennych unrhyw adborth neu syniadau ar gyfer mesurau nad ydynt wedi’u hystyried uchod, cysylltwch â ni. Byddai pob newid yn rhan o dreial. Byddwn yn gofyn am adborth byw a byddwn yn addasu, yn ychwanegu at, yn newid neu’n dileu mesurau fel y bo’n briodol. Byddwn yn dysgu’n gyflym ac yn addasu wrth i ni fynd i wella yn seiliedig ar adborth. Os bydd rhai o’r newidiadau yn llwyddiannus, byddwn yn ystyried eu gwneud yn barhaol, yn dilyn ymgynghoriad yn y dyfodol.