Skip to Main Content

Rydym yn gwneud rhai newidiadau dros dro i wneud Y Fenni’n ddiogel i’n cymunedau ddychwelyd a chefnogi ein siopau a’n busnesau lleol. Mae strategaeth farchnata wych eisoes wedi dechrau.

Bydd ardaloedd ehangach i gerddwyr yn cael eu darparu yn yr orsaf fysiau.

Bydd Stryd y Groes ar gau rhwng 10am a 4pm o Westy’r Angel ac yn ymestyn i Stryd y Farchnad, y tu cefn i neuadd y dref. Ni fydd pymtheg o fannau parcio ar y stryd ar gael, a bydd wyth lle parcio ar y stryd ychwanegol ar hyd Stryd Frogmore yn cael eu tynnu. Rydym yn ceisio ail-ddarparu’r mannau hynny mewn mannau eraill os oes modd. Bydd mannau parcio ar y stryd ar Stryd y Llew, rhwng Stryd y Farchnad a’r A40, yn cael eu gwthio ymhellach allan i’r lôn gerbydau. Bydd y mesurau hyn yn rhoi mwy o le i gerddwyr a beicwyr sy’n ymbellhau’n gymdeithasol.

Bydd marciau ymbellhau cymdeithasol yn cael eu darparu ar groesfannau cerddwyr allweddol ar draws yr A40.

Mae Cam 2 yn cynnwys parth 20mya gyda mesurau lleihau cyflymder wrth fynedfeydd ar gyfer holl ardal Y Fenni a Llan-ffwyst. Bydd manylion yn cael eu nodi yma pan fyddant wedi’u cwblhau. Mae’r Cyngor yn cysylltu ag Asiantaeth Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru i geisio cytundeb i gynnwys y rhan hynny o’r A40, sy’n mynd drwy ganol y dref, o fewn y parth 20mya.

Mae’r holl newidiadau yn rhan o gyfnod prawf. Byddwn yn gofyn am adborth byw a byddwn yn addasu, yn ychwanegu at, yn newid neu’n dileu mesurau fel y bo’n briodol. Byddwn yn dysgu’n gyflym ac yn addasu wrth i ni fynd i wella yn seiliedig ar adborth. Os bydd rhai o’r newidiadau yn llwyddiannus, byddwn yn ystyried eu gwneud yn barhaol, yn dilyn ymgynghoriad yn y dyfodol.

Cynlluns