Skip to Main Content

Fel rhan o’r Ail Alwad am Safleoedd Ymgeisiol i sicrhau y rhoddir tystiolaeth ddigonol ar ymarferoldeb a hyfywedd safle, bydd angen gwybodaeth fanwl ychwanegol i gyflwyno unrhyw geisiadau am Safleoedd Ymgeisiol. Rydym felly angen cyflwyno’r wybodaeth ecolegol llinell sylfaen.

Bydd y Fethodoleg Asesu Safle Ecolegol islaw yn eich cynorthwyo yn y broses hon, gan osod templedi y dylech eu dilyn a chanllawiau i’r wybodaeth sydd ei hangen i gynnal yr asesiadau angenrheidiol.

Asesiadau Safle Ecolegol o Safleoedd Ymgeisydd Crynodeb Gweithredol (Rhagfyr 2020)

Os oes gennych unrhyw ymholiadau penodol am Fethodoleg Asesu Safle Ecolegol, cysylltwch â’r Tîm Seilwaith Gwyrdd a Chefn Gwlad ar 01633 644850 neu drwy e-bost biodiversity@monmouthshire.gov.uk.

Yn ogystal â hyn, rhaid darparu data GIS (‘Geographical Information Systems’) ar ffurf ffeiliau siâp i roi gwybodaeth weledol am statws ecolegol pob safle. Bydd angen defnyddio’r canllawiau a’r ffeiliau siâp templed dilynol.

Haenau GIS

Gweler y ddolen islaw i restr Ymgynghorwyr Ecolegol Cyngor Sir Fynwy

dolen

Gall Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheoli Amgylcheddol hefyd fod yn ddefnyddiol i gael help wrth ganfod ymgynghorydd ecolegol.

https://cieem.net/i-need/finding-a-consultant/

Gwybodaeth gefnogi i lywio’r Asesiadau Safle Ecolegol a ddarparwyd o fewn y fethodoleg

Dolen i ganllawiau SINC

Caiff gwerthusiadau safle eu cyflwyno mewn adroddiad a dylent ddisgrifio gwerth ecolegol presennol safleoedd arfaethedig y Cynllun Datblygu Lleol, yn seiliedig yn bennaf ar arolwg botanegol i bennu math(au) cynefin a gwerth ond gan roi ystyriaeth i rywogaethau eraill y gellid eu gwarchod neu flaenoriaeth a all fod yn bresennol.

Os ydych wedi paratoi asesiad safle ecolegol a GIS cefnogol yn 2019 neu 2020 yn unol â’r fethodoleg hon, gellir ei ddefnyddio ar gyfer eich cyflwyniad yn 2021.