Fel rhan o’r broses o baratoi’r cynllun amnewid, roedd y Cyngor wedi gwahodd tirfeddianwyr, datblygwyr a’r cyhoedd i gyflwyno ‘safleoedd ymgeisiol’  ar gyfer eu hystyried ar gyfer datblygu, ail-ddatblygu neu’n cael eu diogelu yng Nghynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Fynwy am gyfnod o 16 wythnos o’r 30ain Gorffennaf 2018 tan 19eg Tachwedd 2018.

Roedd yr Ail Alwad am Safleoedd Ymgeisiol wedi digwydd ar y cyd gyda’r ymgynghoriad ar y  Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig rhwng 5ed Gorffennaf 2021 a’r 31ain Awst 2021. Pwrpas hyn yw rhoi’r cyfle i gyflwyno  safleoedd ymgeisiol newydd yn unol  gyda’r Strategaeth a Ffefrir, a chyflwyno unrhyw wybodaeth gefnogol ychwanegol  ar gyfer y safleoedd hynny a gyflwynwyd yn ystod yr Alwad Gychwynnol am Safleoedd sydd yn gyson gyda’r  Strategaeth a Ffefrir a’n bodloni’r asesiad lefel uchel.

Cofrestr y Safleoedd Ymgeisiol

Mae’r holl safleoedd sydd wedi eu cyflwyno yn ystod yr Ail Alwad am Safleoedd Ymgeisiol wedi eu cyhoeddi yng Nghofrestr y Safleoedd Ymgeisiol sydd yn diweddaru a’n disodli’r gofrestr a gyhoeddwyd yn dilyn yr Alwad Gychwynnol am Safleoedd Ymgeisiol. Nid yw’r safleoedd hynny nad oedd wedi eu hail-gyflwyno yn dilyn yr  Alwad Gychwynnol am Safleoedd Ymgeisiol  wedi eu cynnwys yn y Gofrestr sydd wedi’i diweddaru.

Mae’r Mapiau Trosfwaol wedi eu cyhoeddi er mwyn dangos yr ystod o safleoedd ar draws yr aneddiadau/ardaloedd.

Ymgynghoriad ar Gofrestr y Safleoedd Ymgeisiol

Fel rhan o’r ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir, roeddem wedi gwahodd sylwadau ar y safleoedd ymgeisiol a oedd ar y Gofrestr y Safleoedd Ymgeisiol  am gyfnod o wyth wythnos rhwng 5ed Rhagfyr 2022 a’r 30ain Ionawr 2023

Asesiad o’r Safleoedd Ymgeisiol

Yn unol gyda Methodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol (a ddiweddarwyd yn Awst 2022), mae’r safleoedd ymgeisiol sydd wedi eu rhestru uchod wedi bod yn rhan o asesiad lefel uchel sydd wedi nodi’r safleoedd hynny sydd yn mynd i symud i’r cam nesaf o’r broses o asesu safleoedd ymgeisiol a’r rhai hynny na sydd yn mynd i symud ymlaen. Dylid darllen y ddogfen ar y cyd gyda Gofrestr y Safleoedd Ymgeisiol. Mae’r safleoedd yma wedi eu tynnu allan o’r broses CDLlD wedi eu nodi yng Nghofrestr y Safleoedd Ymgeisiol.

Mae’n bwysig nodi na ddylid dehongli  cyflwyno safle ymgeisiol a’i gynnwys ar y Gofrestr fel ymrwymiad y bydd y fath safleoedd yn rhan o CDLlD Adneuo. Ni fydd angen yr holl Safleoedd Ymgeisiol a gyflwynwyd i’w datblygu ar gyfer twf y dyfodol.

Camau nesaf

Mae adroddiad o’r ymgynghoriad ar Gofrestr y Safleoedd Ymgeisiol yn cael ei baratoi ar gyfer Gwanwyn 2023.

Bydd y Safleodd Ymgeisiol na sydd wedi eu tynnu allan o’r Gofrestr yn symud ymlaen i’r camau nesaf  (3A/3B) o’r Asesiad o Safleoedd Ymgeisiol.

Wedi cwblhau’r  Asesiad o Safleoedd Ymgeisiol, bydd y Cyngor yn meddu ar restr o safleoedd hyfyw, cynaliadwy ac sy’n bosib eu cyflenwi fel bod modd ymgynghori arnynt yn CDLlD Adneuo sydd i’w ddisgwyl yng Ngwanwyn 2024.

 

Gwasanaeth Cyngor Safleoedd Ymgeisiol

Rydym yn cynnig Gwasanaeth Cyngor Ymgeiswyr ar gyfer safleoedd posib sydd yn medru cael eu cynnwys yn y CDLlD. Bydd y gwasanaeth dewisol yn ail-ddechrau ar ddydd Llun 5ed Rhagfyr  2022. Mae mwy o fanylion am y gwasanaeth ar gael yma.

Nodiadau canllaw ar gyfer Safleoedd Ymgeisiol

Roedd nodiadau canllaw wedi eu cyhoeddi er mwyn cefnogi gwaith paratoi o gyflwyno safleoedd ymgeisiol yn ystod yr Ail Alwad am Safleoedd Ymgeisiol.