Skip to Main Content

Mae’r Gwasanaeth Cyfeirio Disgyblion yn darparu addysg ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl, gan gynnwys y rhai sydd efallai, oherwydd salwch, gwaharddiad neu resymau eraill, ddim yn cael eu haddysg mewn ysgol brif ffrwd.

Mae’r Gwasanaeth Cyfeirio Disgyblion yn cynnig amrywiaeth o addysgu a dysgu o ansawdd uchel, a chefnogaeth holistaidd, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, i rymuso dysgwyr i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog; cyfranwyr mentrus, creadigol, unigolion iach a hyderus, a dinasyddion egwyddorol, gwybodus.

Mae elfen Uned Cyfeirio Disgyblion y gwasanaeth yn cynnig ymateb statudol, cyflym, yn aml ar fyr rybudd, i’r disgyblion hynny sydd wedi’u gwahardd yn barhaol o’u hysgol.  Mae hefyd yn rhoi ymyrraeth a chefnogaeth i ddisgyblion sydd mewn perygl o gael eu gwahardd, trwy feithrin llesiant emosiynol a sgiliau cymdeithasol dysgwyr, a’u cryfhau.

Mae’r Uned Cyfeirio Disgyblion hefyd yn cynnig darpariaeth feddygol EOTAS i ddisgyblion sy’n rhy sâl i fynd i’r ysgol ar hyn o bryd.

Mae’r Uned Cyfeirio Disgyblion yn cynnig cwricwlwm difyr sy’n canolbwyntio ar ddatblygu dysgwyr fel cyfranwyr effeithiol at gymdeithas. Yn ogystal â phynciau craidd, mae dysgwyr hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn astudiaethau galwedigaethol, ac yn cael eu cefnogi i wella eu hanghenion cymdeithasol, emosiynol a llesiant.

Bwriedir yr Uned Cyfeirio Disgyblion fel darpariaeth fyr-dymor, ac mae’r ffocws ar gefnogi ailintegreiddio dysgwyr i’r ddarpariaeth brif ffrwd lle bo’n ddiogel ac yn briodol gwneud hynny.  Mae’r Uned Cyfeirio Disgyblion wedi cael ei hadolygu, ac mae’r newidiadau diweddar yn adlewyrchu’r gwelliant parhaus i’r gwasanaeth ac yn cynnwys symud i ddau safle sydd newydd gael eu hadnewyddu yng Nghas-gwent a’r Fenni.

Dyddiadau Allweddol

Dyddiadau AllweddolGwybodaeth
1 a 2 Medi 2025HMS Diwrnodau 1 a 2
3 Medi 2025Diwrnod cyntaf gwersi 2025-26
22 Medi 2025Arolygon rhieni/gofalwyr ar agor
7 Hydref 2025Prynhawn Agored gyda The a Chacen i godi arian i Macmillan – Canolfan Cas-gwent
9 Hydref 2025Prynhawn Agored gyda The a Chacen i godi arian i Macmillan – Canolfan y Fenni / Gilwern
16 Hydref 2025Disgwyliadau Blwyddyn 11 4pm – 5pm (EOTAS Medical)
20 Tachwedd 20255 Rhagfyr 2025 – Dechrau Prosiectau Ymchwil Unigol Saesneg Iaith (Blwyddyn 11)
21 Tachwedd 2025Cyhoeddi’r Gwiriad Cynnydd
5 Ionawr 2026HMS Diwrnod 3
12 Ionawr 2026Arolygon Rhieni/Gofalwyr yn dechrau
23 Chwefror – 6 Mawrth 2026Trafodaethau Grŵp Saesneg Iaith (Blwyddyn 11) yn dechrau
2 Mawrth 2026HMS Diwrnod 4
w.y.d. 9 Mawrth 2026Ymgynghoriadau â Rhieni/Gofalwyr
22 Mai 2026Cyhoeddi Adroddiadau
1 Mehefin 2026Arolygon Rhieni/Gofalwyr
25 Mehefin 2026Dathliad yr Ymadawyr a diwrnod olaf Blwyddyn 11
26 Mehefin 2026HMS Diwrnod 5
17 Gorffennaf 2026Diwrnod Olaf y Tymor
20 Gorffennaf 2026HMS Diwrnod 6

Yn ystod y tymor ysgol:

TymorDechrauDechrau Hanner TymorDiwedd Hanner Tymor Diwedd Tymor
HydrefDydd Llun 1 Medi 2025Dydd Llun 27 Hydref 2025Dydd Gwener 31 Hydref 2025Dydd Gwener 19 Rhagfyr 2025
GwanwynDydd Llun 5 Ionawr 2026Dydd Llun 16 Chwefror 2026Dydd Gwener 20 Chwefror 2026Dydd Gwener 27 Mawrth 2026
HafDydd Llun 13 Ebrill 2026Dydd Llun 25 Mai 2026Dydd Gwener 29 Mai 2026Dydd Llun 20 Gorffennaf 2026

School Day:

AmserGweithgaredd
9:00 am – 9:10 amCofrestru
9:10 am – 10:10 amGwers 1
10:10 am – 10:15 amEgwyl i Symud
10:15 am – 11:15 amGwers 2
11:15 am – 11:30 amEgwyl
11:30 am – 12:30 pmGwers 3
12:30 pm – 1:00 pmCinio
1:00 pm – 2:00 pmGwers 4
2:00 pm – 2:15 pmEgwyl
2:15 pm – 3:15 pmGwers 5 (disgyblion meddygol EOTAS yn unig)

Cwricwlwm

Mae ein cwricwlwm wedi’i gynllunio i gefnogi ein dysgwyr i oresgyn y rhwystrau hynny sy’n eu hatal rhag cael mynediad at ddarpariaeth brif ffrwd a chymryd rhan lawn yn eu haddysg.  Mae’n gwricwlwm sy’n canolbwyntio ar ddysgwyr ac mae ganddo ddisgwyliadau a dyheadau uchel ar gyfer pob disgybl. Mae’n seiliedig ar ein cred gadarn fod gan bawb y gallu i gyflawni eu potensial a chyflawni pethau gwych. Mae ei wreiddiau yn ein dealltwriaeth fod yr hyn rydyn ni’n datblygu i fod ac i’w gyflawni yn dod o addysgu difyr, cydnerthedd, gwaith caled a chefnogaeth wych.

Cliciwch yma i ddarllen rhagor am y cwricwlwm

Mae ein cwricwlwm yn canolbwyntio ar ddisgyblion.  Mae ein gwaith ar gynllunio, dylunio a gweithredu ein cwricwlwm yn canolbwyntio ar yr elfennau canlynol:

  • meithrin a chryfhau iechyd a llesiant pob dysgwr;
  • cydweithio systematig rhwng dysgwyr, rhieni/gofalwyr, ysgol brif ffrwd a dewis o ddarparwyr;
  • mynediad at gwricwlwm cynhwysol sy’n canolbwyntio ar anghenion unigol pob dysgwr;
  • cefnogi cyfnod ailintegreiddio neu bontio dysgwyr sy’n cael darpariaeth gennym i ddarpariaeth brif ffrwd neu arbenigol, a/neu eu galluogi i symud ymlaen i addysg bellach, hyfforddiant neu fyd gwaith.

Mae’r cwricwlwm yn cofleidio’r Cwricwlwm i Gymru ac wedi’i gynllunio’n benodol i ddiwallu anghenion cymuned ein Huned Cyfeirio Disgyblion. Mae’r cwricwlwm wedi’i gynllunio i gefnogi a diwallu anghenion llesiant meddyliol, emosiynol, corfforol a chymdeithasol dysgwyr. Fydd dysgwyr sydd ddim yn fodlon nac yn ddiogel ddim yn dysgu’n effeithiol: mae llesiant yn elfen hanfodol wrth alluogi disgyblion i ddysgu.

Mae’n hyrwyddo datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol ein dysgwyr ac yn caniatáu iddynt werthfawrogi creadigrwydd a chyflawniad dynol.

  • Mae ein cwricwlwm yn cynrychioli’r amrywiaeth a’r cynhwysiant cyfoethog yn ein cymunedau, yn eu dathlu ac yn eu gwerthfawrogi. Mae’n darparu’n llawn ar gyfer anghenion dysgwyr sydd ddim yn siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf ac ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Caiff sgiliau pwysig siarad, gwrando, llythrennedd a rhifedd a chymhwysedd digidol eu hyrwyddo trwy gydol y cwricwlwm, ar bob cam allweddol.

Polisïau

Gwella Ysgolion

Strategaeth Addysgu a Dysgu

Mae Uned Cyfeirio Disgyblion Sir Fynwy wedi datblygu cyfres o strategaethau addysgu a dysgu sy’n galluogi ein disgyblion i wneud cynnydd gwych.  Dyma ein strategaethau:

  • Cynllunio ‘Dechrau gyda’r Diwedd’
  • Cwestiynau ar gyfer Dysgu
  • Ymarfer Adalw
  • Cwestiynu Effeithiol
  • Sgaffaldio
  • Asesu ar gyfer Dysgu Yn y Wers
  • Dysgu ar Sail Ymholiadau
  • Addysgu mewn Camau Bach gydag Enghreifftiau wedi’u Modelu
  • Addysgu Cam Nesaf

Jake Parkinson

Pennaeth Gwasanaeth Cyfeirio Disgyblion Sir Fynwy

(Arweinydd Diogelu Dynodedig)

E-bost: jacobparkinson@monmouthshire.gov.uk

Ffôn: 07812477709

Dr Morwenna Wagstaff

Pennaeth Gwasanaeth: Cynhwysiant, Cyngor Sir Fynwy

E-bost: morwennawagstaff@monmouthshire.gov.uk 

Ffôn01633 644032

Gweinyddu’r Uned Cyfeirio Disgyblion

Cliciwch yma i gwrdd â rhagor o’r tîm

Becky Ayres

Dirprwy Bennaeth Gwasanaeth Cyfeirio Disgyblion Sir Fynwy – Arweinydd y Ganolfan Uned Cyfeirio Disgyblion – Gogledd (CADY)

Lisa Jones

Arweinydd Llesiant

E-bost: JonesL3370@Hwbcymru.net

Ffôn: 07866174789

Leila Phillips

C

Arweinydd y Ganolfan

E-bost: leilaphillips@monmoutshire.gov.uk

Ffôn: 07917650184

Jan Watkins

Arweinydd EOTAS

E-bost: watkinsj243@hwbcymru.net

Ffôn: 07827 230661