Skip to Main Content

Beth yw ‘Ein Sir Fynwy’?

Fel rhan o fenter sy’n cael ei chynnal ar draws Gwent, mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent, sydd yn cynnwys y pum awdurdod lleol a chyrff cyhoeddus eraill, wedi cynnal asesiad o lesiant sydd yn cynnwys ystyried lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal a’r ardaloedd lleol o fewn hyn. Mae’n cynnwys dadansoddiad manwl o ddata, ystadegau, ymchwil a pholisi ac hefyd yn cynnwys barn y cymunedau.

Mae’r asesiad yn cynnwys rhannau gwahanol:

• Gwent fel ardal gyfan (ewch i www.gwentpsb.org/well-being-plan/well-being-assessment/ am fwy o fanylion am yr asesiad o lesiant Gwent)

• Sir Fynwy fel ardal gyfan

• 5 ardal leol o fewn Sir Fynwy sydd yn canoli ar Y Fenni, Trefynwy, Brynbuga, Cas-gwent a Chil-y-coed.

Mae’r asesiad o lesiant o Sir Fynwy a’r 5 ardal leol o fewn Sir Fynwy ar gael yma.

Pam ei fod yn bwysig?

Mae Ein Sir Fynwy yn ymwneud â phob un ohonom yn mynd i’r afael ag anghenion y dyfodol yn ogystal â’r cenedlaethau presennol.

Ym mis Ebrill 2016 cafodd darn newydd o ddeddfwriaeth, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ei lansio.  Mae hyn yn golygu bod angen i ni ddechrau cynllunio o leiaf ddeng mlynedd ac yn ddelfrydol hyd at 25 mlynedd i’r dyfodol.   Bydd gan y penderfyniadau a wnawn yn awr oblygiadau gwirioneddol i’n plant, ein hwyrion a’n hwyresau. Mae angen i ni weithio gyda’n gilydd er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn iawn.  Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i bob gwasanaeth cyhoeddus gynllunio ar gyfer y tymor hir a deall yn iawn beth mae llesiant yn ei olygu i’n sir a’r cymunedau ynddi.

O fis Awst i fis Rhagfyr 2016 buom yn siarad â phobl yn Sir Fynwy a gofynnwyd beth sy’n dda am eich cymuned a beth fyddai’n ei gwneud yn well, nawr ac yn y dyfodol.  Mae’r safbwyntiau hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau gwirioneddol fawr y mae Sir Fynwy yn eu hwynebu yn y blynyddoedd i ddod – a nawr mae angen i ni ddiweddaru hyn er mwyn sicrhau bod eich barn a’ch adborth yn gyfredol. Mae angen cwblhau’r Asesiad a Chynllun Llesiant bob pum mlynedd, felly rydym yn eu diweddaru nawr, wrth i ni symud o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Fynwy i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent.

Mae’r manylion islaw ar gyfer Asesiad Llesiant Gwent a gyhoeddwyd yn 2017 a’r Cynllun Llesiant a gyhoeddwyd yn 2018.

Y Cynllun Llesiant – beth ydyw?

Mae’r Cynllun Llesiant yn nodi yr hyn y bydd gwasanaethau cyhoeddus yn gweitho arnynt ar y cyd i fynd i’r afael â’r pethau sy’n bwysig i gymunedau lleol.   Yn aml, mae’r rhain yn heriau cymhleth sy’n rhy fawr i un sefydliad fynd i’r afael â hwy ar ei ben ei hun.  Mae’r Cynllun Llesiant wedi’i lywio gan ddata, ymchwil a’r hyn y mae pobl Sir Fynwy wedi’i ddweud wrthym fel rhan o’r Asesiad Llesiant.  Darllenwch y cynllun Llesiant isod i gael gwybod mwy.

Tyfodd y cynllun hwn allan o waith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Fynwy oedd yn cynnwys cyrff cyhoeddus fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Heddlu Gwent, Cyngor Sir Fynwy, a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Cafodd hyn ei ymestyn yn awr i ddod yn Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent gyfan.

Bu’n rhaid i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru gynhyrchu Cynllun Llesiant. Roedd y Cynllun Llesiant, a gwblhaodd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ym mis Ebrill 2018, yn edrych ar lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol i sir gyfan.

Cynllun Llesiant

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Fynwy yn cynnwys cyrff cyhoeddus megis Heddlu Gwent, Cyngor Sir Fynwy, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Mae mwy o wybodaeth am y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yma.

Bu’n rhaid i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru baratoi Cynllun Llesiant. Mae’r Cynllun Llesiant, a lofnodwyd gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ym mis Ebrill 2018 yn edrych ar lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y sir.

Mae’r Cynllun Llesiant yn nodi’r hyn y bydd gwasanaethau cyhoeddus yn cydweithio arno i fynd i’r afael â’r pethau sy’n bwysig i gymunedau lleol. Yn aml mae’r rhain yn heriau cymhleth sy’n rhy fawr i un sefydliad i’w trin ar ben ei hun. Cafodd y Cynllun Llesiant ei hysbysu gan data, ymchwil a’r hyn a ddywedodd pobl Sir Fynwy wrthym fel rhan o’r Asesiad llesiant.

Mae partneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn awr yn gweithio ar gynlluniau gweithredu manwl fydd yn odi sut y byddant yn cyflawni’r camau a nodir islaw:

Dogfennau Cynllun Llesiant

Adroddiad Blynyddol y Cynllun Llesiant

Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynhyrchu adroddiad blynyddol sy’n amlinellu’r cynnydd sydd wedi ei wneud yn erbyn yr amcanion sydd wedi eu gosod yn y Cynllun Llesiant:

Adroddiad Blynyddol y Cynllun Llesiant

Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynhyrchu adroddiad blynyddol sy’n amlinellu’r cynnydd sydd wedi ei wneud yn erbyn yr amcanion sydd wedi eu gosod yn y Cynllun Llesiant:

Cliciwch ar y llun uwchben am grynodeb o’r Adroddiad Blynyddol y Cynllun Llesiant BGC 2020

·        Adroddiad Blynyddol y Cynllun Llesiant 2020 

Yr Asesiad Llesiant

Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi mabwysiadu ei asesiad llesiant. Datblygwyd hyn drwy ymgysylltu helaeth â’r gymuned yn defnyddio proses Ein Sir Fynwy, ynghyd â dadansoddiad manwl o ddata, ystadegau, ymchwil a pholisi.  Mae’r drafft asesiad yn cynnwys gwahanol adrannau. Mae’n ystyried llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir Fynwy yn ei chyfanrwydd. Mae hefyd yn rhoi proffiliau ardaloedd mwy lleol wedi’u clystyru’n llac o amgylch ein pump anheddiad mwyaf: Y Fenni; Trefynwy; Brynbuga; Cas-gwent a Chil-y-coed. Mae adran ar Dueddiadau’r Dyfodol ac adran casgliadau sy’n nodi rhai o’r prif negeseuon y bydd angen i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus eu hystyried.Bu’r asesiad yn sail wrth ddatblygu’r Cynluln Llesiant ac amcanion.

Bydd yr asesiad llesiant hwn yn ddogfen gyfredol a deinamig. Bydd y datblygiad parhaus a diweddariad yr asesiad llesiant yn rhan sylweddol o adolygiadau’r dyfodol ac unrhyw ddiwygiadau o’r amcanion llesiant.

Asesiad Llesiant

Asesiad Llesiant

Asesiad llesiant: crynodeb

Asesiad o Anghenion y Boblogaeth