Skip to Main Content

Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ar 6 Ebrill 2016. 

Mae’r Ddeddf yn newid y ffordd yr eir ati i asesu anghenion pobl a’r ffordd yr eir ati i ddarparu gwasanaethau- bydd gan y bobl mwy o lais yn y gofal a’r cymorth y maen nhw’n ei dderbyn.

Y mae hefyd yn hyrwyddo’r amrywiaeth o gymorth sydd ar gael yn y gymuned i leihau’r angen am gymorth ffurfiol, wedi’i gynllunio.

Bydd gwasanaethau ar gael i ddarparu’r cymorth cywir ar yr adeg gywir

Bydd mwy o wybodaeth a chyngor ar gael

Bydd asesiadau yn symlach a chymesur

Bydd gan ofalwyr hawl cyfartal i dderbyn asesiad i gael cymorth

Bydd pwerau cryfach i gadw pobl yn fwy diogel rhag cael eu cam-drin a’u hesgeuluso.

Asesiad o Anghenion y Boblogaeth

Mae Rhan Dau, adran 14 y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn datgan bod rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol gynnal asesiad ar y cyd i ganfod anghenion gofal a chymorth, a’r cymorth sydd ei angen ar ofalwyr yn ardaloedd yr awdurdodau lleol.

Mae’r gofal a chymorth yn ymwneud â phobl y gwyddys y gwasanaethau cymdeithasol amdanynt a’r rheini sy’n derbyn cymorth drwy wasanaethau ataliol.

Bydd yr asesiad o anghenion y boblogaeth yn cynnwys dwy ran:

Asesu faint o bobl neu ofalwyr sydd angen gofal a chymorth ac i ba raddau y mae angen y fath gymorth.

Asesu ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen ar gyfer anghenion gofal a chymorth y boblogaeth, eu gofalwyr, i atal anghenion penodol rhag codi a dwysau, a’r camau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.

 

Rhaid cyhoeddi asesiad cyntaf o anghenion y boblogaeth erbyn Ebrill 2017.  Mae disgwyl hefyd  i ni gyhoeddi cynllun gweithredu rhanbarthol ar y cyd erbyn Ebrill 2018. Y manteision a ddisgwylir yw mwy o gyfleoedd i weithio’n rhanbarthol, cydgomisiynu a defnyddio adnoddau i’r eithaf.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â phil.diamond@torfaen.gov.uk

 

13396 Population Needs Assesment Report WELSH 24.7

13625 Public Summary WELSH 18 July