Skip to Main Content

Y Cyngor yn anelu i adlewyrchu blaenoriaethau wrth iddo osod ei gyllideb

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi gosod ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod yn yr amgylchiadau mwyaf heriol. Cafodd y pandemig effaith pellgyrhaeddol ar bob agwedd o gymdeithas, gyda chwyddiant yn rhedeg o flaen ei hun am y tro cyntaf mewn degawd, mae’r rhan fwyaf o bobl yn bryderus am bris bwyd a thanwydd, ac mae rhyfel yn Ewrop a rhannau eraill o’r byd. Mae’r bwlch rhwng y rhai sydd â mwy na maent ei angen a’r rhai heb ddigon i fyw bywyd da yn cynyddu. Er mai lle bach iawn yw Sir Fynwy pan y’i gwelir drwy’r llygaid cenedlaethol a rhyngwladol hyn, dyma’r lle yr ydym i gyd yn ei alw’n gartref ac mae’r gyllideb hon yn wirioneddol bwysig.

Dywedodd y Cyng Richard John, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Wrth osod y gyllideb hon ar gyfer 2022/23 rydym wedi dewis buddsoddi yn y pethau sydd bwysicaf i’r cyhoedd. Rydym eisiau’r gorau i’n plant, rydym eisiau’r gorau ar gyfer y rhai sy’n llesg ac yn fregus, rydym eisiau’r gorau ar gyfer y rhai nad oes ganddynt le i’w alw’n gartref ac mae’n rhaid i ni wneud mwy i fynd i’r afael â newid hinsawdd os ydym i gael planed o gwbl. Ni fu erioed ac ni fydd byth ddigon o arian i wneud popeth yr hoffem ei wneud felly’r cyfan y medrwn ei wneud yw gwneud ein gorau glas ar eich rhan.”

Mae’r gyllideb derfynol yn cynnwys ystod eang o fuddsoddiad gyda £1.6m yn fwy i’n hysgolion; £1.8m yn fwy i blant yn y system gofal; £2m i sicrhau nad yw’n rhaid i neb gysgu tu fas; £2.2m i ofal plant yn y system gofal; £2.2m i ofal aelodau hŷn ein cymuned; £0.8m i wneud yn siŵr fod y sir mor lân ag y gall fod a £1.8m i gynnal a chadw ffyrdd, palmentydd a seilwaith priffyrdd arall.

Mae cyllideb eleni yn cynnwys ysgol 3-19 newydd i’r Fenni a chynyddu darpariaeth Gymraeg ar gyfer plant cynradd ar draws Sir Fynwy. Bydd hefyd yn helpu’r sir i symud tuag at ailddefnyddio neu ailgylchu 70% o’r holl wastraff a gynhyrchir. Mae hefyd yn ymrwymo i sicrhau fod pawb y mae’r cyngor yn eu cyflogi yn parhau i dderbyn  leiaf y cyflog byw gwirioneddol a bydd yr ymrwymiad hwn yn ymestyn i bob lleoliad gofal cymdeithasol y mae’r cyngor yn comisiynu gwasanaethau ganddynt.

Ychwanegodd y Cyng. Phil Murphy, aelod cabinet Adnoddau: “Mae’r gyllideb hwn yn ymwreiddio ymrwymiad i ddefnyddio ein grym prynu mewn ffordd foesegol gyda nwyddau’n cael eu cyrchu o fewn Sir Fynwy neu mor agos i’r sir ag sydd modd. Bydd yn ein gweld yn parhau i gefnogi lleoliadau prentisiaid a darparu cyfleoedd yn y flwyddyn i ddod, ein gweld yn cryfhau ein timau diogelu’r cyhoedd fel y gallwn chwarae rôl amlycach mewn diogelu iechyd cyhoeddus a pharatoi’r ffordd ar gyfer cyflwyno prydau ysgol am ddim ar gyfer pob plentyn mewn ysgolion cynradd. Dyma ein penawdau ond mae mwy yn y manylion. Mae’r pethau hyn yn costio arian ac felly gofynnwn i breswylwyr dderbyn cynnydd o 2.95% yn y dreth gyngor. Hwn yw ein cynnydd isaf am naw mlynedd ac mae’n llawer is na chyfradd chwyddiant. Pe gallem fod wedi mynd yn is a bod yn gyfrifol, byddem wedi gwneud hynny ond ein barn yw y gallai effeithio ar lefel y gwasanaeth mae angen i ni ei ddarparu a rhoi her annheg i’r rhai sydd yn ein dilyn ar ôl etholiadau mis Mai.

“Rydym wedi paratoi cyllideb gytbwys bob blwyddyn dros y degawd diwethaf, rydym bob amser wedi cyflawni o’i mewn. Mae ein cynigion am eleni yn parhau â’r thema hon. Rydym yn gwneud buddsoddiadau pwysig i gadw eich cymuned yn gryf ar adeg o ansefydlogrwydd cenedlaethol a rhyngwladol,” meddai’r Cyng. Murphy.

Budget engagement banner

Uchod: Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy ar gyfer Adnoddau, Seilwaith a Gofal Cymdeithasol ac Arweinydd y Cyngor, Richard John, yn cynnig trosolwg o gynigion y gyllideb eleni. Uchod: Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy ar gyfer Adnoddau, Seilwaith a Gofal Cymdeithasol ac Arweinydd y Cyngor, Richard John, yn cynnig trosolwg o gynigion y gyllideb eleni. 

Cyngor Sir Fynwy yn lansio cynigion y gyllideb ar gyfer  2022/23

Roedd Cyngor Sir Fynwy wedi lansio cynigion y gyllideb ddrafft  ar gyfer  2022-2023 ar ddydd Mercher 19eg Ionawr. Mae’r cyngor yn wynebu £10.41m o bwysau ar wasanaethau nad oes modd ei osgoi a  £4.96m o bwysau ar gyflogau sydd yn mynd i bwyso’n drwm ar gyllid y cyngor.   

Dywedodd y Cynghorydd Richard John, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Yn y gyllideb hon, rydym yn benderfynol ein bod yn gwneud pob dim posib er mwyn cefnogi ein cymunedau i wella o’r pandemig ac amddiffyn ac ategu at y gwasanaethau yr ydym yn gwybod y mae ein trigolion yn dibynnu arnynt.   

“Er gwaethaf effaith a chanlyniadau’r pandemig, mae’r gyllideb arfaethedig hon yn barhad o’n parodrwydd i amddiffyn ac ategu at y gwasanaethau yr ydym yn gwybod y mae ein trigolion yn dibynnu arnynt.  Mae hon yn gyllideb sydd yn gweithredu ar ein blaenoriaethau craidd. Yn cynnig y cyfle gorau posib i blant mewn bywyd gyda mwy o arian i ysgolion. Yn helpu’n trigolion hŷn i adfer eu hannibyniaeth, gyda chyflog gwell i weithwyr gofal. Yn amddiffyn ein canolfannau hamdden, gan gydnabod eu rôl bwysig o ran lles meddwl a chorfforol pobl.  Yn gweithio tuag at Sir Fynwy carbon isel a gyda mwy o fuddsoddiad mewn heolydd, llwybrau seiclo a llwybrau cerdded a band eang gwell, rydym am sicrhau sir sydd wedi ei chysylltu’n well. Drwy amddiffyn llwybrau bysiau a pharhau i gyflwyno parthau 20mya yn ein trefi a phentrefi. Mae hefyd yn gyllideb sydd yn edrych i’r dyfodol ac yn sicrhau bod y cyngor yn barod i fynd i’r afael gyda rhai o’r heriau mwyaf sydd yn wynebu ein sir a chymdeithas yn fwy cyffredinol.”

•        Byddwn yn parhau i fod ar flaen y gad wrth symud i garbon sero net ond mae angen i ni fuddsoddi, yn union fel sydd angen o ran ein hymrwymiad i roi diwedd ar ddigartrefedd yn ein sir.   

•        Byddwn yn ffocysu ar leihau’r anghydraddoldebau  iechyd sydd wedi dod yn fwyfwy amlwg yn ystod y pandemig.

•        Rydym wedi ymrwymo i ddiwygio gofal cymdeithasol. Mae darpariaeth ar draws Cymru a’r DU wedi ei hollti. Nid yw gofal yn derbyn y parch proffesiynol y mae’n haeddu ac mae angen rhoi tipyn mwy o werth ar faes gofal fel gyrfa. 

•        Byddwn yn sicrhau bod ysgolion yn derbyn yr adnoddau sydd angen arnynt er mwyn helpu disgyblion sydd â’u haddysg wedi ei aflonyddu yn  sgil y pandemig, a hynny fel eu bod yn medru  dal fyny ar ôl colli gymaint o amser, gyda mwy o fuddsoddiad mewn cymorth iechyd meddwl a lles a byddwn yn parhau gyda’n rhaglen fuddsoddi  sydd werth miliynau o bunnoedd 

•        Byddwn yn cynyddu ffocws ein gwaith er mwyn helpu pobl i amddiffyn a rheoli eu hiechyd meddwl a’u llesiant.   

Dywedodd y Cynghorydd Phil Murphy, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau: “Rydym yn bles fod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr heriau a wynebir gan awdurdodau lleol yng Nghymru am yr ail flwyddyn yn olynol. Fodd bynnag,  er bod y cyngor wedi derbyn setliad refeniw a oedd yn uwch na’r cyfartaledd – 11.2%, yn erbyn cynnydd ar gyfartaledd o 9.4% ar draws Cymru, mae Sir Fynwy dal yn derbyn y cyllid isaf y pen   (£1,176), £435 y pen yn is na’r cyfartaledd ar draws Cymru, sydd yn golygu bod Sir Fynwy yn parhau i fod yn fwy dibynnol ar incwm y dreth gyngor er mwyn diwallu anghenion ein cymunedau. Mae’n destun dristwch ein bod yn gorfod ystyried, fel rhan o’r cynigion drafft yma, y cynnig i gynyddu’r dreth gyngor o  3.95%. Mae’r cynllun  lleihau’r dreth gyngor, sydd yn cynnig help i’r sawl ar incwm isel a’r rhai sydd yn derbyn budd-daliadau, dal ar gael. Mae aelwydydd un person hefyd yn gymwys i dderbyn gostyngiad o 25% oddi ar y dreth gyngor. Rydym wedi cyfyngu unrhyw gynnydd i ffioedd a phrisiau lle bo’n bosib ond mae’r cynnydd mewn chwyddiant ar gyfer gwasanaethau cartref a phreswyl hefyd yn amodol ar  brawf modd ac mae yna uchafswm hefyd er mwyn lliniaru’r effaith ar y sawl sydd ar yr incwm isaf.   

“Mae’r cyngor yn parhau i arwain drwy esiampl drwy ymrwymo i dalu’r staff sydd ar y cyflogau isel yn unol gyda’r Cyflog  Byw Gwirioneddol sydd wedi ei osod gan y  ‘Living Wage Foundation’ ac mae’n ymestyn hyn yn 2022/23 i’n holl leoliadau lle y mae’r gofal wedi ei gomisiynu a’r hawl sydd gan weithwyr gofal i dderbyn cyflog cydradd,” dywedodd y Cynghorydd Murphy. 

Mae trigolion yn cael eu gwahodd i gofrestru am ddigwyddiad ffrydio byw arbennig er mwyn trafod y gyllideb  a fydd yn cael ei gynnal am6.30pm ar ddydd Lau 27ain Ionawr. Yn sgil y pandemig COVID-19, ni fyddai’n briodol cynnal y sesiynau wyneb i wyneb traddodiadol, ac felly, mae’r broses yn cael ei symud ar-lein unwaith eto. Mae modd i chi gofrestru i gymryd rhan ar wefan y cyngor a  byddwch yn derbyn e-bost gyda dolen i’r digwyddiad, lle y bydd cyfle i gyflwyno eich cwestiynau o flaen llaw. I’r sawl sydd yn methu ymuno gyda’r digwyddiad ffrydio byw, bydd y sesiwn yn cael ei lanlwytho i’r wefan fel bod modd gwylio’r sesiwn ar ôl y digwyddiad.   

Fel rhan o’r broses ymgynghori, sydd ar agor tan 12pm ar 16eg Chwefror 2021, rydym hefyd yn gofyn i drigolion i rannu eu barn drwy gyfrwng arolwg ar y cynigion sydd yn y gyllideb ac mae’r arolwg ar gael ger yr holl gynigion  www.monmouthshire.gov.uk/budget-2022-2023.   “Mae’r rhain yn gynigion drafft ac rydym am wybod eich barn chi. Felly, ewch i’n gwefan a rhowch wybod i ni beth yw eich barn,” ychwanegodd y Cyngh. John

YMGYSYLLTU Â’R GYLLIDEB – rhannwch eich adborth

Mae’r ymgynghoriad ar y gyllideb ddrafft yn gorffen ar 16eg Chwefror  2022. 

Rhannwch eich adborth gyda ni ar y cynigion os gwelwch yn dda drwy gyfrwng y ffurflen hon.

Yn anffodus, yn sgil y pandemig, nid oes modd cynnal y sesiynau ymgynghori wyneb i wyneb traddodiadol sydd yn cael eu cynnal fel arfer gan y Cyngor.

Ar ddydd Iau,  27ain Ionawr am 6.30pm, rydym yn cynnal  DIGWYDDIAD FFRYDIO BYW I DRAFOD Y GYLLIDEB fel fforwm i ofyn cwestiynau a rhoi adborth mewn sesiwn ar-lein. Bydd y sesiwn yn cael ei recordio a’i gosod wedyn ar y dudalen hon ar gyfer y sawl a oedd yn methu mynychu’r digwyddiad.  

YM GION CYLLIDEB 6.30pm Dydd Iau, 27ain Ionawr 2022

FFRWD FYW’R CYNIGION CYLLIDEB Os wnaethoch chi fethu’r digwyddiad byw hwn, gallwch nawr wylio recordiad y sesiwn YMA.

**additional documents awaiting urgent translation

21/12/21: Cyngor Sir Fynwy yn croesawu’r newyddion am fwy o arian ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod i gefnogi’r pwysau ar ei wasanaethau

Heddiw, cafodd Cyngor Sir Fynwy gadarnhad gan Lywodraeth Cymru y bydd yn cael cynnydd o 11.2% yn ei gyllid craidd y flwyddyn nesaf o’i gymharu â’r cyfartaledd o 9.4% ar gyfer Cymru, a lle mae cynghorau ledled Cymru wedi derbyn setliadau yn amrywio o gynnydd o 8.4% i 11.2%.  Bydd y newyddion a groesawyd yn caniatáu i’r Cyngor ddarparu ar gyfer ystod o bwysau sylweddol ac uniongyrchol sy’n effeithio ar wasanaethau’r flwyddyn nesaf ac i leihau’r angen i’r Cyngor ddefnyddio ei gronfeydd wrth gefn cymharol gyfyngedig i gefnogi’r gyllideb.

Dywedodd y Cynghorydd Richard John, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy:  “Mae hwn yn setliad llywodraeth leol sylweddol gan Lywodraeth Cymru, sy’n cydnabod yn briodol rôl eithriadol ein gwasanaethau lleol.  Yr wyf yn ddiolchgar i weinidogion am wrando arnom fel arweinwyr cynghorau, ac am wneud y gorau o’r dyraniad hael a roddwyd i Drysorlys Cymru gan Lywodraeth y DU.   Mae’n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni ar gyfer cymunedau yng Nghymru a ledled y DU pan fydd llywodraethau lleol, Cymru a’r DU yn cydweithio.   Bydd y setliad hwn yn ein helpu i sicrhau y gall ein gwasanaethau lleol hanfodol barhau i gefnogi ein cymunedau pan fydd ei angen arnynt.”

Dywedodd y Cynghorydd Phil Murphy, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau:  “Mae’r setliad dros dro wedi cynnig hwb sylweddol i’r Cyngor ac yn osgoi’r angen iddo wneud penderfyniadau anodd, uniongyrchol a thymor byr a fyddai wedi effeithio ar ei wasanaethau rheng flaen.  Mae’n braf nodi hefyd bod Llywodraeth Cymru wedi darparu dyraniadau cyllid refeniw craidd dangosol ar gyfer 2023/24 a 2024/25 a fydd yn caniatáu i’r Cyngor fabwysiadu dull mwy strategol o ymdrin â’n cynllunio ariannol tymor canolig.  

Er bod y cynnydd cyfartalog uchod yn y setliad ar gyfer y Cyngor i’w groesawu’n fawr, rhaid i ni gydnabod o hyd fod y Cyngor yn parhau i fod wedi’i wreiddio’n gadarn ar waelod y tabl ar gyfer swm y cyllid y pen y mae’n ei gael gan Lywodraeth Cymru, sy’n golygu bod yn rhaid i’r Cyngor godi cyfran sylweddol uwch o’i gyllid o ffynonellau eraill o’i gymharu â’i gymheiriaid.”

Bydd cynigion cyllideb ddrafft y Cyngor yn cael eu hystyried gan ei Gabinet mewn cyfarfod ar 19 Ionawr 2022 ac yna byddant yn cael eu rhyddhau ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.   O ystyried effaith y pandemig parhaus a’r cyfyngiadau parhaol sydd ar waith, bydd y Cyngor yn ceisio ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol a’r cyhoedd drwy ei wefan a digwyddiadau ymgynghori rhithwir ar y gyllideb.  Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor – monmouthshire.gov.uk/cy – ac ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol yn y Flwyddyn Newydd.