Skip to Main Content

Mae Be Community yn rhan o Dîm Datblygu Cymunedol Cyngor Sir Fynwy

Gan gydnabod rôl hanfodol prosiectau cymunedol mewn meithrin cymunedau cynhwysol a bywiog, mae Be Community yn cynnig rhaglen hyfforddiant bwrpasol sy’n anelu i rymuso grwpiau cymunedol llawr gwlad i ffynnu mewn modd cynaliadwy. Gyda ffocws ar arweinyddiaeth, cydymffurfiaeth, sgiliau technegol a meithrin cynhwysiant a datblygu cymunedol, mae’r rhaglen yn darparu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen i lywio heriau cynlluniau cymunedol.

Yn ogystal â sesiynau hyfforddi wyneb-yn-wyneb, mae Be Community yn darparu modiwlau dysgu ar-lein hygyrch, cymorth mentora a chyfleoedd rhwydweithio a hwylusir drwy ddigwyddiadau Rhwydwaith Gweithredu Cymunedol. Mae’r dull holistig yma yn meithrin twf unigol a hefyd ymdeimlad o gydweithio a chysylltu o fewn y tirlun cymunedol yn ehangach, gan arwain at rymuso cynlluniau llawr gwlad i sicrhau effaith parhaus.

Enghreifftiau o effaith Be Community!

Gyda’n Gilydd

Mae’r astudiaeth achos yma’n dangos dull cydweithio Tîm Be Community wrth gynnwys partneriaid llawr gwlad i deilwra rhaglenni hyfforddiant i anghenion penodol gwirfoddolwyr.

<chwarae fideo


Cymunedau Ffyniannus

Daeth y digwyddiad â mwy na 40 o sefydliadau lleol a o aelodau cymunedol ynghyd, a fu’n archwilio ystod o gyfleoedd gwirfoddoli, hobïau a gwasanaethau.

Darllenwch Fwy (cliciwch i weld) >


Rhwydwaith Gweithredu Cymunedol – Tyfu eich cynnyrch eich hun

Anelwyd y gweithdy at unrhyw un, neu unrhyw grwpiau cymunedol, sydd â diddordeb mewn cynhyrchu bwyd cynaliadwy neu sydd eisoes yn tyfu eu cynnyrch eu hunain. Roedd hyfforddiant am ddim ar gael ar wneud compost organig a’r defnydd helaeth y gellir ei wneud ohono, garddio ‘dim palu’ a gwella iechyd y pridd, a gwneud eich sauerkraut eich hun.

Dysgu mwy >


I ganfod mwy am Be Community a’r tîm Datblygu Cymunedol > Cliciwch yma !

Mae’r prosiectau hyn [wedi’u hariannu/ariannu’n rhannol] gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.