Mae B Community yn gwerthfawrogi dulliau amrywiol o wirfoddoli. Rydym yn
gwerthfawrogi cyfraniadau unigryw pob gwirfoddolwr ac yn eu hanrhydeddu. Mae BeCommunity yn grymuso gwirfoddolwyr Sir Fynwy gydag adnoddau a chyfleoedd hyfforddiant cynhwysfawr.
Mae dull Be Community yn amlochrog. Darparwn ar gyfer anghenion a diddordebau amrywiol gwirfoddolwyr, gan gynnig cyrsiau hyfforddiant sy’n cynnwys agweddau amrywiol o wirfoddoli a rheoli grŵp cymunedol Ein nod yw sicrhau fod gan unigolion y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i wneud gwahaniaeth ystyrlon.
Archebu Cwrs > Ffurflen Cofrestru
Yn ogystal â hyfforddiant traddodiadol, rydym yn cynnig :
- Modiwlau dysgu ar-lein hygyrch, sy’n galluogi gwirfoddolwyr i ymwneud â chynnwys gwerthfawr ar eu cyflymder eu hunain a phan mae’n gyfleus iddyn nhw. Caiff yr adnoddau hyn eu llunio i wella eu dealltwriaeth o faterion cymunedol, meithrin empathi a hyrwyddo dulliau effeithiol i ddatrys problemau.
- Pecynnau pwrpasol, sylweddolwn weithiau fod mudiadau cymunedol angen dull mwy pwrpasol i helpu codi’r prosiect i’r lefel nesaf neu oresgyn heriau. Yn yr amgylchiadau hyn gallwn gynnig mentoriaeth gan sefydliadau trydydd sector profiadol gydag arbenigedd penodol yn eich maes.
- Mae rhwydweithio yn elfen allweddol yn ein system cymorth. Rydym yn hwyluso cysylltiadau rhwng gwirfoddolwyr, gan eu galluogi i gyfnewid syniadau, cydweithio ar brosiectau a dysgu o brofiadau ei gilydd. Gall gwirfoddolwyr ehangu eu cylchoedd cymdeithasol, ffurfio partneriaethau a chael gwybodaeth werthfawr sy’n cyfoethogi eu taith gwirfoddoli.
Mae Be Community yn ymroddedig i ddarparu adnoddau a chyfleoedd am ddim i bob gwirfoddolwr. Mae ein hymroddiad yn sicrhau nad yw cyfyngiadau ariannol byth yn llesteirio gallu neb i gyfrannu’n gadarnhaol at y gymuned. Credwn y dylai bawb gael cyfle i wirfoddoli a phrofi’r ymdeimlad dwfn o gyflawni y mae’n ei roi.
Mae Be Community yn croesawu pob gwirfoddolwr, p’un ai’n brofiadol neu’n newydd. Gyda’n gilydd gadewch i ni adeiladu cymuned gryfach a mwy trugarog i bawb.
Cyrsiau a Gweithdai Diweddaraf
Ymgyrchu Digidol
2 Hydref 2024, 10am i 12pm Ar-lein
Ydych chi eisiau cynyddu eich presenoldeb ar-lein a dysgu’r arferion a’r dulliau gorau ar gyfer creu ymgyrchoedd digidol effeithlon a diddorol? Os felly, mae’r cwrs hwn ar eich cyfer chi.
Darllen mwy >
Caiff y cwrs ar-lein ei ddarparu gan Promo Cymru, a byddwch yn dysgu sut i:
- Cynllunio ymgyrch ddigidol sy’n gydnaws gyda’ch nodau a’ch cyllideb
- Defnyddio hysbysebion y telir amdanynt ar y cyfryngau cymdeithasol i’ch gwneud yn fwy gweladwy a thrawsnewid
- Defnyddio dadansoddeg i olrhain a gwella perfformiad eich ymgyrch
Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sydd eisiau dysgu neu wella eu sgiliau mewn ymgyrchu digidol. Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn medru creu a gwneud y defnydd gorau o’ch ymgyrchoedd digidol eich hun yn hyderus ac yn greadigol. Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i ddysgu gan yr arbenigwyr a chynyddu eich argraff ar-lein.
Ffurflen Gofrestru Rhaglen Byddwch Gymuned 2024/25 (office.com)
Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer y Trydydd
Sector
21 Hydref 2024, 10am – 12pm, Ar-lein
Ydych chi eisiau cael argraff gadarnhaol ar y trydydd sector gyda Deallusrwydd Artiffisial (AI)? Ymunwch â’n sesiwn ar-lein gyda Promo Cymru a darganfod sut i ddefnyddio dulliau AI mewn modd moesegol ac effeithiol dros eich achos.
Byddwch yn dysgu sut i:
- Weithredu egwyddorion ac arferion gorau AI
- Dewis y dulliau AI cywir ar gyfer eich anghenion
- Dylunio dylunwaith godidog, cynlluniau ymgyrch a negeseuon cyfryngau cymdeithasol gyda chymorth AI.
Ffurflen Gofrestru Rhaglen Byddwch Gymuned 2024/25 (office.com)
Cyflwyniad i Canva
7 Tachwedd 2024 10am – 12pm, ar-lein
Hoffech chi greu adnoddau gweledol gwych ar gyfer eich sefydliad nid er elw heb gyflogi dylunydd?
Ymunwch â ni am weithdy ar-lein gyda Promo Cymru ar sut i ddefnyddio Canva, dull dylunio am ddim a rhwydd ei ddefnyddio a all eich helpu i wneud posteri, taflenni, graffeg cyfryngau cymdeithasol, a mwy.
Byddwch hefyd yn dysgu sut i gael rhaglen Canva ar gyfer Cyrff dim er Elw, sy’n cynnig nodweddion ac adnoddau gwych ar gyfer cyrff cymwys.
Ffurflen Gofrestru Rhaglen Byddwch Gymuned 2024/25 (office.com)
Canllawiau Canolradd i Canva
11 Rhagfyr 2024 10am – 12pm, ar-lein
Ydych chi’n barod i fynd â’ch sgiliau Canva ymlaen i’r lefel nesaf? Ymunwch â ni ar gyfer ein Canllawiau Canolradd i Canva, lle byddwn yn dangos i chi sut i greu gwefannau a fideos godidog yn defnyddio offer grymus Canva.
Byddwch hefyd yn darganfod sut i gael mynediad i nodweddion Premiwm Canva, tebyg i storfa heb gyfyngiad, ffontiau neilltuol ac uwch-olygu. P’un ai ydych eisiau hybu eich brand personol, hyrwyddo eich busnes neu greu cynnwys diddorol ar gyfer eich cynulleidfa, bydd y sesiwn yn eich helpu i feistroli Canva fel rhywun proffesiynol.
Ffurflen Gofrestru Rhaglen Byddwch Gymuned 2024/25 (office.com)
Ymgysylltu Digidol gyda Phobl Ifanc
27 Tachwedd 2024 10am – 12pm, ProMo Cymru, Caerdydd
Hoffech chi wneud eich fideos eich hun ar gyfer YouTube, TikTok, Instagram neu unrhyw lwyfan arall a dysgu sut i greu cynnwys diddorol sy’n edrych yn broffesiynol ac yn denu a chadw gwylwyr?
Darllen mwy >
Os felly, mae’r cwrs hwn ar eich cyfer chi. Byddwch yn dysgu:
Sut i gael y sain cywir ar gyfer eich cynnwys, p’un ai ydych yn defnyddio microffon, ffôn clyfar neu gyfrifiadur. Addasu’r sain, dileu sŵn cefndir a gwella ansawdd eich llais a cherddoriaeth.
Sut i osod eich camera a goleuadau i greu’r effaith weledol orau bosibl. Dewis yr ongl, pellter ac uchder gorau ar gyfer eich camera, yn ogystal â sut i ddefnyddio ffynonellau golau naturiol ac artiffisial i greu gwahanol awyrgylch.
Sut i gyflwyno eich hun ar gamera yn hyderus a gyda charisma, Dysgu sut i siarad, ystum a rhyngweithio gyda’ch cynulleidfa mewn ffordd ddilys a deniadol.
Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd yr wybodaeth a’r sgiliau gennych i gynhyrchu fideos gwych fydd yn gwneud argraff ar eich gwylwyr a thyfu eich sefydliad/grŵp.
Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i ddysgu gan yr arbenigwyr a rhyddhau eich creadigrwydd.
Ffurflen Gofrestru Rhaglen Byddwch Gymuned 2024/25 (office.com)
Gwneud i Grantiau Weitho gyda Justin Horton
9 Hydref 2024, 10am i 2pm, Magwyr gyda Gwndy
Cafodd ein cwrs “Gwneud i Grantiau Weithio” ei lunio i rymuso sefydliadau ar bob lefel, o grwpiau cymunedol sy’n cymryd eu camau cyllido cyntaf i sefydliadau profiadol sy’n paratoi ar gyfer ceisiadau am gyllid sylweddol.
– Sicrhau gwybodaeth i lunio ceisiadau llwyddiannus am gyllid.
– Addas ar gyfer pawb, o gynigwyr tro cyntaf i ymgeiswyr profiadol.
Nodwedd Arbennig: Cwrdd â Michael Dupree o’r Loteri Fawr! Dyma’ch cyfle i drafod eich prosiect penodol, ymchwilio gwahanol opsiynau cyllid a chynyddu eich cyfleoedd o lwyddiant.
Ffurflen Gofrestru Rhaglen Byddwch Gymuned 2024/25 (office.com)
Dyfarniad Highfields Lefel 2 mewn Ymwybyddiaeth a Rheoli Alergenau Bwyd mewn Arlwyo (RQF)
17 Medi 2024, 9:30am i 2:30pm, Gwndy
Wedi ei deilwra ar gyfer gwirfoddolwyr sy’n trin bwyd a’r rhai sy’n ymwneud â pharatoi bwyd, mae’r cymhwyster hwn a gyflwynir gan Shared Regulatory Services yn rhoi gwybodaeth hanfodol. Cewch wybod am alergenau bwyd, anoddefgarwch, cyfathrebu effeithlon a lleihau risg traws-halogi.
Ffurflen Gofrestru Rhaglen Byddwch Gymuned 2024/25 (office.com)
Foodie Foundations – Hyfforddiant Iechyd yr Amgylchedd
Dyddiadau’r cwrs i gael eu cadarnhau!
Adeiladau Prosiect Bwyd Cymunedol Diogel a Llwyddiannus gyda Chynllun Hyfforddi Be Community. Mae’r Foodie Foundations yn gynllun hyfforddiant a gynigir mewn partneriaeth gydag Iechyd yr Amgylchedd a Be Community. Mae’n cynnig cymorth a hyfforddiant personol ar gyfer prosiectau cymunedol sy’n ymwneud â pharatoi neu drin bwyd. Nod y cynllun yw sicrhau llwyddiant a diogelwch drwy deilwra cyngor i anghenion unigryw pob prosiect. Rhoddir cymorth ôl-ymweliad hefyd. Fodd bynnag, nid yw’n cymryd lle arolygiadau arferol.
Ffurflen Gofrestru Rhaglen Byddwch Gymuned 2024/25 (office.com)
Cymorth Cyntaf yn y Gwaith (3 diwrnod)
24 Medi i 25 Medi 2024, 9:30am – 4:30pm – Brynbuga
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno dod yn berson cymorth cyntaf. Mae’n rhoi sylw i amrywiaeth ehangach o bynciau nag a ddaw o fewn cymhwyster Cymorth Cyntaf Argyfwng yn y Gwaith.
Mae’n rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i ddysgwyr i ddelio gyda sefyllfaoedd cymorth cyntaf mewn gweithleoedd risg uwch neu weithleoedd gyda nifer uwch o gyflogeion. Cafodd ei gynhyrchu i gynorthwyo Amcanion Cwrs a Deilliannau Dysgu Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) 1981.
Erbyn diwedd y cwrs bydd cynrychiolwyr yn gallu trin claf sy’n anymatebol, ond bydd hefyd yn gwybod sut i drin anafiadau Cymorth Cyntaf sylfaenol tebyg i sioc anaffylactig, epilepsi, diabetes, gwenwyn, trawiad calon ac anafiadau i esgyrn, cymalau a chyhyraurheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) 1981.
Ar ôl mynychu’r cwrs, bydd y person cymorth cyntaf yn deall ac yn medru rheoli cleifion heb fod yn ymatebol, mewn sioc, yn tagu neu sydd â man anaf.
Ffurflen Gofrestru Rhaglen Byddwch Gymuned 2024/25 (office.com)
Cymorth Cyntaf Argyfwng yn y Gwaith
12 Medi, 13 Medi, 4 Hydref, 16 Hydref a 25 Hydref 2024, 9:30 i 4:30pm, Brynbuga
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno dod yn berson cymorth cyntaf argyfwng. Mae’n rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i ddelio gyda sefyllfaoedd cymorth cyntaf mewn amgylcheddau gweithle risg isel ar gyfer rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) 1981.
Ar ôl mynychu’r cwrs, bydd y person cymorth cyntaf yn deall ac yn medru rheoli cleifion heb fod yn ymatebol, mewn sioc, yn tagu neu sydd â man anaf.
Ffurflen Gofrestru Rhaglen Byddwch Gymuned 2024/25 (office.com)
Cymorth Cyntaf Pediatrig (2 ddiwrnod)
31 Hydref a 1 Tachwedd 2024, 9:30am – 4:30pm – Brynbuga
Mae hwn yn gwrs 12-awr (2 ddiwrnod) sy’n rhoi sgiliau i gynorthwyo plentyn neu faban mewn argyfwng. Mae’n cyflawni safonau Iechyd a Diogelwch – Rheoliadau Cymorth Cyntaf 1981.
Mae sefyllfaoedd argyfwng ar gyfer plant a babanod yn wahanol i rai oedolion. Maent hefyd angen dull penodol o ran oedran ac mae’n addas ar gyfer os yw Asesiad Risg Cymorth Cyntaf gweithle yn dangos argymhelliad ar gyfer cwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig.
Ffurflen Gofrestru Rhaglen Byddwch Gymuned 2024/25 (office.com)
Dyfarniad HABC Lefel 2 mewn Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo
17 Hydref 2024, 9:30am i 5:30pm, Y Fenni
Mae’r cymhwyster hwn yn ddelfrydol ar gyfer gwirfoddolwyr sy’n gweithio yn y diwydiant arlwyo a lletygarwch (neu’r rhai sydd ar fin dechrau gwaith yn y diwydiant). Mae’r pynciau a gynhwysir yn cynnwys: peryglon a mesurau rheoli, rheoli diogelwch bwyd a thymheredd, rheoli gwenwyno bwyd, glanweithdra personol, glanhau a diheintio, pla bwyd a rôl person trin bwyd wrth gadw bwyd yn ddiogel.
Darllen mwy >
Mae gan Dyfarniad HABC Lefel 2 mewn Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo (QCF) achrediad a chaiff ei gydnabod yn rhyngwladol a chafodd ei ddatblygu i ddiogelu cwsmeriaid, enw da brand ac elw.
Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i mi ennill y cymhwyster yma?
Fel arfer caiff y cymhwyster hwn ei ennill drwy gymryd cwrs un-dydd yn yr ystafell ddosbarth. Argymhellir adnewyddu’r cymhwyster o leiaf bob tair blynedd.
Pwy sydd angen y cymhwyster yma? Unrhyw un sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli mewn lleoliad arlwyo, gweithgynhyrchu neu fanwerthu lle caiff bwyd ei baratoi, ei goginio a’i drin. Gall amgylcheddau nodweddiadol gynnwys tafarndai, gwestai, bwytai, archfarchnadoedd a manwerthu, ysbytai, cartrefi gofal, ysgolion, carchardai.
Pam fod yr hyfforddiant yma yn bwysig? Mae gan bawb sy’n gweithio gyda bwyd gyfrifoldeb arbennig i ddiogelu iechyd defnyddwyr a sicrhau fod y bwyd y maent yn ei weini neu ei werthu yn hollol ddiogel ei fwyta.
Sut y caiff y cymhwyster ei asesu?
Caiff ei asesu gan arholiad aml-ddewis lle mae’n rhaid I’r ymgeisydd ateb o leiaf 13 allan o 20 cwestiwn yn gywir. Ni fydd yr arholiad yn cymryd mwy na 45 munud. Mae papurau arholiad ar gael yn Gymraeg, Saesneg, Thai, Dari, Arabeg a Phwyleg ond mae’n rhaid gwneud cais ymlaen llaw am bapurau mewn iaith heblaw Saesneg.
Beth nesaf? Gall unigolion sy’n ennill y cymhwyster wedyn symud ymlaen i unrhyw un o gymwysterau HABC Lefel 3 Diogelwch Bwyd sy’n ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n dymuno gweithio fel goruchwyliwr.
Deilliannau Dysgu
Dealltwriaeth gadarn o bwysigrwydd diogelwch bwyd a gwybodaeth o’r systemau, technegau a gweithdrefnau cysylltiedig. Deall sut i reoli risgiau diogelwch bwyd (glanweithdra personol, storio bwyd, coginio a thrin bwyd). Hyder ac arbenigedd i gyflenwi bwyd ansawdd da yn ddiogel i gwsmeriaid.
Rydym yn awr yn derbyn archebion ar gyfer ein cwrs.
Ffurflen Gofrestru Rhaglen Byddwch Gymuned 2024/25 (office.com)
Cyrsiau’r Gorffennol
Cyrsiau’r gorffennol yw’r rhain, fodd bynnag cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb ynddynt!
- Highfield Dyfarniad Lefel 2 mewn Ymwybyddiaeth a Rheoli Alergenau Bwyd mewn Arlwyo (RQF)
- Chat GBT (ap deallusrwydd artiffisial) – gweithdy hyfforddi ar-lein
- Gwneud i Grantiau Weithio gyda Justin Horton
- Diogelwch Bwyd Lefel 2
- Stori Brandio a Brand
- Asesu Risg
- Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
- Cymorth Cyntaf Hunanladdiad
- Cymorth Cyntaf
- Ymwybyddiaeth o’r Menopos
- Rheoli Stres
- Datgloi Atgofion: Atgofion Seiliedig ar Wrthrychau a Hyfforddiant Caffe Cof
BE Community Ymholiad Cwrs >
BECommunity@monmouthsire.gov.uk
Cyllidir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.