Skip to Main Content

Mae’r CCS yn darparu gwasanaeth â thâl am gyngor cyn-ymgeisio i drafod yn fanwl eich safle, gofynion draenio a’r hyn y mae angen ei gyflwyno gyda’ch cais. Er y bydd y broses hon ar wahân i’r broses ceisiadau cynllunio, bydd angen cynnal trafodaethau ac ymgynghori rhwng yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl), y CCS a’r datblygwr o’r cam cyn-ymgeisio er mwyn sicrhau addasrwydd dyluniad SDCau yn unol â Safonau Cenedlaethol, cynllun safle digonol ac yn y pen draw gymeradwyaeth y CCS. Anogwn yn gryf y gwasanaeth hwn, a fydd yn hollbwysig i helpu i gyfyngu ar oedi cyn cymeradwyo a lleihau costau yn yr hirdymor, cyn cyflwyno eich cais llawn.

Mae’r ffioedd ar gyfer cyngor cyn-ymgeisio yn ddewisol, ac yn amrywio yn dibynnu ar arwynebedd y safle a lefel y gwasanaeth sydd ei angen. Gallwch weld y rhestr ffioedd drwy glicio yma: Ffioedd cyn-ymgeisio

Buddion Cyngor Cyn-ymgeisio

  • Bydd y broses ymgeisio yn gyflymach.
  • Bydd yn arbed costau ailgynllunio diangen a’r amser sy’n gysylltiedig â hyn.
  • I drafod unrhyw faterion posibl a allai godi drwy’r broses ddylunio a’r atebion ar eu cyfer.
  • Bydd yn ehangu’r wybodaeth a’r syniadau ar gyfer cynlluniau draenio cynaliadwy a rheoli dŵr wyneb sy’n cydymffurfio â’r Safonau SDCau Cenedlaethol, a fydd yn helpu datblygiadau yn y dyfodol.

Sut ydw i’n gwneud cais?

Gallwch ddewis sut yr hoffech wneud cais ar y dudalen Gwneud cais am Gyngor Cyn-Ymgeisio CCS.

Gwybodaeth Bellach