Skip to Main Content

Apelio yn erbyn Penderfyniad

Os byddwch yn cael eich tramgwyddo gan benderfyniad y Corff Cymeradwyo SDCau i wrthod ei gymeradwyaeth, yna gallwch apelio i Lywodraeth Cymru yn unol â Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Apelau) (Cymru) 2018.

Os ydych am apelio, yna mae’n rhaid i chi wneud hynny o fewn chwe mis i ddyddiad yr hysbysiad o benderfyniad gan ddefnyddio ffurflen y gallwch ei chael gan Lywodraeth Cymru. Rhaid i’r rhain nodi’r manylion canlynol:

  • Seiliau’r apêl
  • Unrhyw ffeithiau y bydd yr apelydd yn dibynnu arnynt i gefnogi’r seiliau dros apelio
  • Enw, cyfeiriad a rhif ffôn yr apelydd a’r asiant.

Rhaid iddo hefyd gynnwys copïau o’r hysbysiad penderfynu, y cais ac unrhyw gynlluniau/lluniadau ategol, yn ychwanegol at ddatganiad ynghylch a ydych am i’r apêl gael ei thrin drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig, gwrandawiad neu ymchwiliad. Mae’r manylion llawn ar gael drwy’r Rheoliadau yn y ddolen uchod.

Penodir arolygydd i benderfynu ar yr apêl. O fewn 7 diwrnod byddant yn hysbysu pob parti o’r weithdrefn apelio (meini prawf i’w rhyddhau maes o law). Byddant wedyn yn penderfynu ar yr apêl, ac yn hysbysu’r Corff Cymeradwyo SDCau a’r apelydd o’u penderfyniad.

Apelio yn erbyn Hysbysiad Gorfodi

Os nad ydych yn cytuno â hysbysiad gorfodi rydych wedi’i dderbyn, gallwch gyflwyno apêl ar y seiliau canlynol:

  • Roedd y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
  • Roedd y penderfyniad yn anghywir yn ôl y gyfraith;
  • Roedd y penderfyniad yn afresymol;
  • Nid oes toriad o ran y gofyniad i gael cymeradwyaeth.

Ar ôl derbyn apêl ddilys, caiff hysbysiad gorfodi ei atal nes y penderfynir ar yr apêl neu y caiff ei thynnu’n ôl.

Os ydych am apelio, yna mae’n rhaid i chi wneud hynny o fewn pedair wythnos i ddyddiad yr hysbysiad gorfodi gan ddefnyddio ffurflen y gallwch ei chael oddi wrth Lywodraeth Cymru. Rhaid i’r rhain nodi’r manylion canlynol:

  • Seiliau’r apêl
  • Unrhyw ffeithiau y bydd yr apelydd yn dibynnu arnynt i gefnogi’r seiliau dros apelio
  • Enw, cyfeiriad a rhif ffôn yr apelydd a’r asiant.

Rhaid iddo hefyd gynnwys copïau o’r hysbysiad gorfodi, y cais ac unrhyw hysbysiad/hysbysiadau atal cysylltiedig, yn ogystal â datganiad ynghylch a ydych am i’r apêl gael ei thrafod drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig, gwrandawiad neu ymchwiliad. Mae manylion llawn ar gael drwy Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018.

Gwybodaeth Bellach