Skip to Main Content

O’r 7fed Ionawr 2019, mae’n rhaid i bob datblygiad newydd yng Nghymru sydd â goblygiadau draenio, o 100m² neu fwy, gael Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau) i reoli dŵr wyneb ar y safle (p’un a oes angen caniatâd cynllunio arnynt ai peidio). Rhaid i’r SDCau hyn gael eu cynllunio a’u hadeiladu yn unol â Safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer Draenio Cynaliadwy.

Mae Atodlen 3 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn sefydlu Cyngor Sir Fynwy fel Corff Cymeradwyo SDCau (CCS), sydd â chyfrifoldeb statudol dros gymeradwyo, ac mewn rhai achosion, mabwysiadu a chynnal y systemau draenio cymeradwy.

Mae gwybodaeth fanwl am y broses weithredu ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru drwy’r linc a ganlyn: https://llyw.cymru/gweithredu-systemau-draenio-cynaliadwy-ar-ddatblygiadau-newydd-rheolau-drafft-safonau-cenedlaethol

Mae rhagor o wybodaeth am y gofynion, y safonau statudol a’r ddeddfwriaeth i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru: https://llyw.cymru/llifogydd-erydiad-arfordirol

At ba ddeddfwriaeth yr ydym yn cyfeirio?

Mae Atodlen 3 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn ei gwneud hi’n ofynnol i ddraenio dŵr wyneb ar gyfer datblygiadau newydd er mwyn cydymffurfio â Safonau Cenedlaethol gorfodol ar gyfer Draenio Cynaliadwy. Mae’r Safonau Statudol bellach ar gael a gellir eu gweld yma: Safonau Statudol SDCau

Corff Cymeradwyo SDCau (CCS)

Gwasanaeth a ddarperir gan yr Awdurdod Lleol yw hyn sy’n sicrhau bod cynigion draenio ar gyfer pob datblygiad newydd, sy’n cynnwys o leiaf 2 eiddo neu sydd dros 100m² o ran ardal adeiladu, yn addas at y diben ac wedi’u dylunio a’u hadeiladu yn unol â’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Draenio Cynaliadwy a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.

Sefydlir CCS er mwyn:

  • Darparu gwasanaeth Cyn-ymgeisio i drafod eich cynnig
  • Gwerthuso a chymeradwyo ceisiadau draenio ar gyfer datblygiadau newydd lle mae gan waith adeiladu oblygiadau draenio
  • Mabwysiadu a chynnal systemau draenio dŵr wyneb yn unol ag adran 17 o Atodlen 3 (Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr)

Gwybodaeth Bellach