Skip to Main Content

Sut i wneud taliad

Gwneud taliad ar gyfer eich cais CCS

Gallwch wneud taliad ar gyfer eich cais drwy unrhyw rai o’r dulliau canlynol:

Siec (yn daladwy i Gyngor Sir Fynwy), naill ai wedi’i gynnwys gyda chopi caled o’ch cais neu wedi’i anfon i’r Swyddfa Incwm, Cyngor Sir Fynwy, Neuadd y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cerdyn credyd/debyd, drwy ffonio’r Swyddfa Incwm ar 01633 644355 neu ar-lein ar dudalen Talu biliau a dirwyon (cliciwch ar ‘Cyngor Cyn-ymgeisio SDCau’ neu ‘Cais Llawn SDCau’, yna dewiswch yr opsiwn cywir o dan ‘Gwasanaethau’).

Trosglwyddiad banc, i’r manylion canlynol: Prif Gyfrif Mon CC, 20-18-23, 13996565.

Ym mhob achos, nodwch yn glir a yw’n gyflwyniad cyn ymgeisio neu’n gais llawn o ran SDCau yr ydych yn talu amdano. Os yw’n bosibl, nodwch rif cyfeirnod eich cais (e.e. SAB/2019/000), neu os nad yw’r rhain gennych, rhowch gyfeiriad y safle er mwyn i ni allu dyrannu’r taliad yn gywir.

Gwybodaeth Bellach