Skip to Main Content

Yn yr un ffordd ag sydd gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl), mae gan y CCS bwerau gorfodi pe bai Cymeradwyaeth SDCau yn cael ei thorri, neu waith adeiladu perthnasol i’r CCS yn digwydd heb ganiatâd SDCau.

Pryd gall swyddogaethau gorfodi cael eu rhoi ar waith?

Gall y CCS gymryd camau gorfodi pan fydd:

  • Achos o dorri’r gofyniad am gymeradwyaeth (h.y. pan ddechreuir ar waith adeiladu heb gymeradwyaeth CCS)
  • Bod amod cymeradwyaeth wedi’i dorri
  • Os nad yw’r adeiladwaith yn cydymffurfio â’r cynllun draenio cynaliadwy cymeradwy.

Pa gamau y gellir eu cymryd?

Os adroddir am doriad posibl, mae gan y CCS hawl i arfer pwerau mynediad er mwyn ymchwilio i hyn. Os oes gan y CCS reswm dros gredu bod toriad wedi bod, gallent ddyroddi:

  • Hysbysiad Atal Dros Dro
  • Hysbysiad Torri Amodau
  • Hysbysiad Gorfodaeth
  • Hysbysiad Atal

Gellir rhoi hysbysiad gorfodi ar unrhyw adeg cyn mabwysiadu system ddraenio ar gyfer y gwaith adeiladu, ond ddim hwyrach na 4 blynedd ar ôl i’r toriad ddigwydd.

Os na chydymffurfir â’r hysbysiad, caiff y CCS lansio achos cyfreithiol.

Hawl i Apelio

Bydd gan y troseddwr yr hawl i apelio i Weinidogion Cymru. Gweler mwy am y broses apelio yma.

Gwybodaeth Bellach