Skip to Main Content

1. Sut y caiff Sipsiwn a Theithwyr eu diffinio?

1. Sut y caiff Sipsiwn a Theithwyr eu diffinio?

Caiff Sipsiwn, Roma a Theithwyr eu diffinio dan Adran 108, Deddf Tai (Cymru) 2014 fel:

(a) Personau sy’n arfer ffordd nomadig o fyw, beth bynnag fo’u hil neu eu tarddiad, gan gynnwys:

  1. Personau sydd, ar sail eu hanghenion addysg, eu hanghenion iechyd neu eu henaint eu hunain, neu anghenion addysg, anghenion iechyd neu henaint eu teulu neu ddibynnydd, ac ar y sail honno yn unig, wedi rhoi’r gorau i deithio dros dro neu yn barhaol, a
  2.  (b) Aelodau o grŵp trefnedig o siewmyn teithiol neu bersonau sy’n rhan o syrcasau teithiol (pa un a ydynt yn cyd-deithio mewn grŵp o’r fath ai peidio;

(b) Unrhyw bersonau eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartref symudol.

2. Pam fod y Cyngor yn dynodi tir ar gyfer lleiniau ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr?

Mae tri phrif reswm pam fod angen i’r Cyngor ddynodi tir ar gyfer lleiniau ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr:

  • Mae Deddf Llywodraeth Cymru a Deddf Tai (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor gynnal asesiad o anghenion llety Sipsiwn, Roma a Theithwyr bob pum mlynedd. Os yw’r Asesiad hwnnw yn dynodi angen, mae’n ddyletswydd ar y Cyngor i ateb yr angen a ddynodwyd drwy hwyluso darparu’r lleiniau sydd eu hangen.
  • Yr ail reswm yw bod angen i’r Cyngor baratoi Cynllun Datblygu Lleol sy’n nodi gweledigaeth y Cyngor ar gyfer datblygu a defnydd tir yn y Sir. Mae’r Cyngor yn gweithio ar Gynllun Datblygu Lleol Newydd 2018-2022. Mae angen i’r Cynllun hwn ddyrannu tir i ddiwallu holl anghenion tai y Sir, yn cynnwys cartrefi brics a morter a safleoedd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr.
  • Rydym i aelodau o’r gymuned deithiol sy’n byw yn Sir Fynwy gael lle diogel a chyfleus i fyw ynddo.

Beth oedd canlyniadau’r Asesiad Anghenion Llety Sipsiwn, Roma a Theithwyr a gwblhawyd yn 2021?

Cafodd Asesiad Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr diweddaraf y Cyngor ei gwblhau yn 2021. Crynodeb o’r casgliadau yw angen am 13 llain ar gyfer teuluoedd sydd eisoes yn byw yn Sir Fynwy. Caiff yr angen hwn ei ddadansoddi fel sy’n dilyn:

  • Angen nas diwallwyd o naw llain dan y cyfnod asesu 2020 i 2025;
  • Tu hwnt 2025, angen pellach nas diwallwyd am bedair llain dros weddill cyfnod y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (2026-33) i ddarparu ar gyfer twf teuluoedd wrth i blant ddod yn oedolion a bod angen eu llain eu hunain;
  • Nid oes angen dyraniad ar gyfer siewmyn teithiol na phobl sy’n rhan o syrcasau; a
  • Ni wnaeth yr asesiad o anghenion llety Sipsiwn, Roma a Theithwyr ddynodi angen i ddarparu safle tramwy ac oherwydd y symud ar draws y ffin sy’n gysylltiedig gyda theuluoedd yn pasio drwy awdurdodau lleol, y ffordd orau o drin y pwnc hwn yw drwy’r Cynllun Datblygu Lleol rhanbarthol.

Mae’r Asesiad yn rhoi ystyriaeth i ofynion llety ar gyfer cyfnod y Cynllun Datblygu Lleol Newydd 2018-2033.

Fodd bynnag, o’r 13 llain y dynododd Asesiad Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr 2020-2025 fod eu hangen, rhoddwyd caniatâd cynllunio i ddwy lain. Mae hyn yn gostwng y gofyniad lleiniau i 11. Mae trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda dwy aelwyd am bosibilrwydd cael caniatâd cynllunio ar safleoedd preifat a allai ostwng yn sylweddol y cyfanswm gofyniad lleiniau.

Er eglurdeb, gall safle preswyl parhaol fod mewn perchnogaeth breifat neu yn eiddo yr awdurdod lleol. Caiff y safle hwn ei ddynodi ar gyfer ei ddefnyddio fel safle Sipsiwn, Roma a Theithwyr am gyfnod amhenodol. Gall preswylwyr ar y safleoedd hyn ddisgwyl meddiannu eu lleiniau cyhyd â’u bod yn cydymffurfio gyda thelerau eu cytundebau lleiniau, dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.

Mae’r Asesiad Sipsiwn, Roma a Theithwyr 2021 llawn ar gael yma

4. Beth yw llain?

Nid oes diffiniad swyddogol o ‘llain’ fodd bynnag mae trafodaethau swyddog gyda’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr wedi penderfynu ‘Mae llain yn dir a ddarperir ar gyfer aelwyd a ddylai fod yn ddigon mawr i gynnwys bloc amwynderau, cartref symudol, carafan deithiol a pharcio ar gyfer dau gerbyd’.

Disgwyliad bras y Cyngor yw y bydd safleoedd, yn arbennig unrhyw safleoedd cyhoeddus, yn:

  • Safleoedd bach, a fyddai’n ddelfrydol yn cael eu defnyddio gan un teulu/aelwyd o Sir Fynwy;
  • Fel arfer, dim mwy na 5 neu 6 llain ar bob safle;
  • Wedi eu cynllunio’n dda a’u tirlunio;
  • Sensitif i gymunedau presennol.

5. Sut mae’r Cyngor yn mynd ati ar hyn o bryd i ganfod safleoedd ar gyfer y lleiniau ychwanegol a ddynodwyd yn yr Asesiad Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr?

Ni chafodd safleoedd y lleiniau ei benderfynu hyd yma. Mae’r Cyngor yn anelu i ddiwallu yr anghenion ychwanegol am leiniau ar gyfer Sipsiwn. Roma a Theithwyr drwy amrywiaeth o ffyrdd, yn cynnwys unrhyw un neu gyfuniad o’r dilynol:

  • Safleoedd cyhoeddus yn defnyddio tir y mae’r Cyngor yn berchen arno. Gall hyn fod yn ddefnyddio tir y mae’r Cyngor yn berchen arno ar hyn o bryd neu gallai’r Cyngor o bosibl brynu tir ar gyfer diben darparu safle cyhoeddus;
  • Gwahodd y cyhoedd i gyflwyno tir posibl ymlaen i gael ei ystyried; a,
  • Pharhau i geisio trin angen lle bynnag sy’n bosibl ar safleoedd preifat ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn amodol ar y caniatâd angenrheidiol.

6. Beth sydd wedi digwydd hyd yma?

Mae gwaith wedi dechrau ar ystyried dull gweithredu cyffredinol y Cyngor i ddynodi tir ar gyfer darparu lleiniau i Sipsiwn a Theithwyr yn 2018. Ond bu gweithredu gyda mwy o ffocws ers cwblhau Asesiad Anghenion Llety Sipsiwn, Roma a Theithwyr 2021.

Nod y broses hon fu dynodi a llunio rhestr fer o barseli tir a allai fod yn addas ar gyfer darparu lleiniau i Sipsiwn, Roma a Theithwyr fydd yn diwallu angen y Cyngor, y gall y Cyngor ymgynghori arni wedyn. Yn dilyn ymgynghoriad, gwneir penderfyniad ar y safleoedd gorau a chaiff y safleoedd a ddewisir wedyn eu cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.

I helpu datblygu proses dynodi safleoedd y Cyngor ac esbonio cyfrifoldebau cyfreithiol y Cyngor, cynhaliwyd rhaglen o gyfarfodydd anffurfiol a hefyd gyfarfodydd ffurfiol i gasglu gwybodaeth a barn Aelodau Cyngor etholedig lleol ac i helpu llywio’r broses dynodi safle. Caiff unrhyw benderfyniad i ymgynghori ar y tir gan Gabinet y Cyngor.

7. Proses y Cyngor ar gyfer Dynodi Safle

7.1 Y Gwerthusiad Coch, Oren a Gwyrdd (COG)

Mae proses dynodi safle y Cyngor ac wedi adolygu a gwerthuso pob un o 1500 ased y Cyngor. Craidd y broses dynodi safle oedd gwaith oedd pum cam bras i hidlo/tynnu tir anaddas yn defnyddio meini prawf gwerthuso safle, gyda’r nod o ddynodi rhestr fer o dir a fedrai fod yn bosibl ar gyfer ei ddatblygu ar gyfer darpariaeth lleiniau ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr, y byddid wedyn yn ymgynghori arnynt

Cafodd y gwaith mewn camau i hidlo asedau anaddas ei gofnodi a rhoddir tystiolaeth ohono mewn dogfen, a elwir y ddogfen COG (taenlen sy’n defnyddio system goleuadau traffig ar gyfer gwerthusiad cod lliw o ganfyddiadau a rhoi arwydd/trosolwg mwy gweledol). Mae’r ddogfen COG yn ddogfen iteraidd a gaiff ei diweddaru’n barhaus fel a phan y dynodir gwybodaeth newydd. Fe wnaeth y broses mewn camau a’r ddogfen COG lywio’r cynnig gwreiddiol ar agenda’r Cabinet ar 26 Gorffennaf 2023.

I lywio’r Broses Dynodi Safle, cynhaliwyd gweithdai ar gyfer Aelodau Etholedig i rannu gwybodaeth, rhoi diweddariad ar cynnydd a chael eu barn. Mae sleidiau o’r gweithdai ar gael isod:

I gefnogi’r Broses Dynodi Safle, fe wnaeth Aelodau etholedig a Swyddogion y Cyngor hefyd fynychu hyfforddiant ymwybyddiaeth o Sipsiwn a Theithwyr. Cyflwynwyd yr hyfforddiant gan Travelling Ahead – Eiriolwyr Sipsiwn a Theithwyr. Mae sleidiau o’r gweithdy hyfforddiant ymwybyddiaeth Sipsiwn a Theithwyr ar gael yma.

8. Proses Ddemocrataidd y Cyngor

8.1      Beth yw rôl Pwyllgor Craffu?

Mae Deddf Llywodraeth Leol 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol yn Lloegr a Chymru i sefydlu rhaniad Gweithrediaeth a Chraffu ar gyfer dibenion gwneud penderfyniadau. Yng Nghyngor Sir Fynwy mae gan yr wyth Aelod o’r Cabinet (cynghorwyr gweithredol) y pŵer i wneud y penderfyniadau sydd eu hangen i roi polisïau’r Cyngor ar waith. Mae gweddill yr aelodau (cynghorwyr anweithredol) yn ffurfio braich trosolwg a chraffu ac yn cynorthwyo’r weithrediaeth drwy ‘her adeiladol’. Mae craffu yn gwella trefniadau llywodraethiant corfforaethol, drwy sicrhau fod y broses gwneud penderfyniadau yn fwy agored, atebol a thryloyw. Drwy’r broses graffu, caiff Aelodau’r Cabinet eu dal i gyfrif am y penderfyniadau a wnânt ar ran eu cymunedau.

Rôl y Pwyllgor Craffu felly yw:

  • Gweithredu fel ‘cyfaill beirniadol’, gan gwestiynu sut y gwnaed penderfyniadau a chadw cydbwysedd gyda’r gwneuthurwyr penderfyniadau;
  • Craffu ar effaith penderfyniadau i weld os ydynt y rhai cywir ar gyfer pobl Sir Fynwy;
  • Sicrhau fod Aelodau’r Cabinet a Swyddogion yn gweithredu yn iawn a bod y Cyngor yn darparu gwasanaethau ansawdd uchel;
  • Datblygu ac adolygu polisi i weld os yw’n addas i’r diben ac yn diwallu anghenion y cyhoedd.

Er nad oes gan aelodau Craffu y pŵer i wneud penderfyniadau, gallant lunio a datblygu polisi’r Cyngor ac adolygu penderfyniadau, yn ogystal â herio perfformiad y Cabinet a’r Cyngor. Mae Pwyllgorau Craffu wedi galluogi’r cyhoedd i helpu llunio cyfeiriad y Cyngor. Gall Pwyllgorau Craffu herio ac argymell gwelliannau yn y ffordd y caiff gwasanaethau allweddol yn Sir Fynwy eu darparu, a gallant hefyd ddylanwadu ar newid drwy ofyn cwestiynau ‘sut’ a ‘pham’. Gallant hefyd argymell fod y Cyngor yn ymchwilio dewisiadau eraill, fodd bynnag, gall Aelodau Cabinet dderbyn neu wrthod argymhellion a wneir gan y pwyllgorau Craffu yn unol â’u cyfrifoldebau gweithredol am wneud penderfyniadau h.y. y Cabinet (gweithrediaeth) sy’n gyfrifol am wneud pob penderfyniad.

8.2      Sut mae Craffu wedi cynorthwyo yn y broses hon?

Ar hyd y broses mae Swyddogion y Cyngor wedi ymgynghori’n helaeth ar gynnydd gydag Aelodau Craffu. Mae manylion llawn y cyfarfodydd hyn ar gael yma:

8.3      Pwyllgor Craffu Pobl – 19 Gorffennaf 2023

( Gellir gweld Pwyllgor Craffu Pobl – 19 Gorffennaf 2023 yma)

Yn y Pwyllgor Craffu Pobl a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf, gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried yr argymhellion dilynol o’r Adroddiad i’r Pwyllgor Craffu Pobl 19 Gorffennaf 2023 i graffu cynnig i ymgynghori ar bedwar safle a gwneud gwaith ymchwilio ar bumed safle.

2.1   Ystyried y broses a weithredwyd i ddynodi tir y mae’r Cyngor yn berchen arno a allai fod o bosibl yn addas ar gyfer datblygu darpariaeth lleiniau ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr.
2.2     Ystyried gwerthuso’r pum darn o dir y mae’r Cyngor yn berchen arnynt a ystyrir yn addas, yn amodol ar ganfyddiadau unrhyw asesiad pellach sydd ei angen, ar gyfer y posibilrwydd o ddatblygu darpariaeth lleiniau Sipsiwn a Theithwyr.
2.3     Argymell i’r Cyngor yr ymgynghorir ar y darnau dilynol o dir y mae’r Cyngor yn berchen arnynt ar gyfer datblygiad posibl ar gyfer darpariaeth lleiniau ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr
• Manson Heights, Trefynwy
• Rocklea, Llanfihangel Troddi
• Garthi Close, Llanfihangel Troddi

• Langley Close, Magwyr

2.4 Argymell i’r Cyngor y cynhelir mwy o werthuso ar y darn dilynol o dir y mae’r Cyngor yn berchen arno, i lywio addasrwydd ymhellach ac os yn berthnasol (yn amodol ar ganfyddiadau) ymgynghoriad yn y dyfodol.
• Dancing Hill, Gwndy (gorllewin Dancing Hill)

Clywodd y pwyllgor gan breswylwyr lleol yn y cyfarfod a roddodd sylwadau am addasrwydd peth o’r tir. Roedd teimlad cryf am y broses dynodi safle ac addasrwydd y safleoedd unigol. Wrth ystyried yr argymhellion uchod, argymhellodd y Pwyllgor Craffu wrthod y pedwar argymhelliad a gyflwynwyd ac argymell fod Aelodau’n cyflwyno galwad cyhoeddus i dirfeddianwyr i ddod ymlaen gyda pharseli o dir, sydd yn unol ag argymhelliad 2.3 adroddiad y Cabinet a fod y broses ddethol yn dechrau eto.

8.4      Cabinet – 26 Gorffennaf 2023

Gellir gweld cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2023 yma)

Roedd yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 26 Gorffennaf 2023  yn argymell ‘dechrau ymgynghoriad i edrych ar y safleoedd dilynol y mae’r Cyngor yn berchen arnynt ar gyfer posibilrwydd datblygu darpariaeth lleiniau ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr sef:

  • Manson Heights, Trefynwy
  • Rocklea, Llanfihangel Troddi
  • Garthi Close, Llanfihangel Troddi.
  • Langley Close, Magwyr

Cytuno cynnal ymgynghoriad pellach ar ddarn ychwanegol o dir y mae’r Cyngor yn berchen arno, i roi gwybodaeth bellach ar addasrwydd posibl ac os yn berthnasol (amodol ar ganfyddiadau) ymgynghoriad yn y dyfodol.

  • Dancing Hill, Gwndy (gorllewin Dancing Hill)

Cytuno i ‘alwad’ ar gyfer tirfeddianwyr a all ddymuno awgrymu parseli o dir i ddod ymlaen ar gyfer ystyriaeth ac ymgynghoriad pellach.

Penderfyniad y Cabinet ar 26 Gorffennaf 2023 oedd ‘Gohirio ystyried yr adroddiad i alluogi swyddogion i wneud gwaith pellach. Fe wnaeth yr Aelod Cabinet bryd hynny hefyd gynghori tynnu tri safle o’r broses ddynodi safle oherwydd anaddasrwydd sef Manson Heights, Trefynwy; Rocklea, Comin Llanfihangel Troddi a Garthi Close, Comin Llanfihangel Troddi.

Yn ychwanegol, cafodd swyddogion y tasgau dilynol:

  • Adolygu gwaith gwerthuso’r safle a’r ddogfen COG
  • Ymgorffori ac adolygu safleoedd ymgeisiol y mae’r Cyngor yn berchen arnynt a gyflwynwyd ar gyfer dyraniad posibl yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd ar gyfer datblygu [naw ardal o dir]. Cafodd y rhain eu hidlo allan yn flaenorol ar sail ystyriaethau datblygu posibl yn y dyfodol;
  • Gwahodd y cyhoedd i gyflwyno tir posibl ymlaen i gael ei ystyried; a
  • Pharhau i geisio trin angen lle’n bosibl ar safleoedd preifat presennol ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr, yn amodol ar y caniatâd angenrheidiol.

8.5 Beth a ddigwyddodd ers cyfarfod y Cabinet ar 26 Gorffennaf 2023?

Yn dilyn cyfarfod y Cabinet ar 26 Gorffennaf 2023, cafodd y gweithgareddau dilynol eu cynnal a daethpwyd i gasgliadau:

  • Cafodd y ddogfen COG ar gyfer dynodi safleoedd ei hadolygu gan swyddogion i sicrhau sylwadau ac mae’r graddiadau COG yn gadarn a chyson.  Gellir gweld y fersiwn diweddaraf o’r ddogfen COG yma.  Oherwydd cyfuniad o lygredd tir hanesyddol y gwyddom amdano, problemau sŵn posibl, problemau mynediad a lleoliad yn union ger Safle o Bwysigrwydd ar gyfer Cadwraeth Natur, mae swyddogion yn argymell tynnu Gorllewin Dancing Hill o’r broses gan fod dewisiadau eraill ar gael.
  • Mae swyddogion wedi adolygu ymhellach y ‘safleoedd ymgeisiol’ y mae’r Cyngor yn berchen arnynt a gyflwynwyd ar gyfer posibilrwydd eu cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd. Caiff y naw safle yn awr eu cynnwys yn fersiwn ddiweddaraf y ddogfen COG.
  • Yn dilyn yr adolygiad o safleoedd ymgeisiol, cafodd dau leoliad yn safle strategol Dwyrain Cil-y-coed y Cynllun Datblygu Lleol Newydd eu dynodi ar gyfer hyd at 6 llain yr un; un yn Bradbury Farm ac un yn Oak Grove Farm (Atodiad 1). Argymhellir y caiff y rhain eu cyflwyno ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus, ynghyd â Langley Close, Magwyr, yn unol â’r argymhellion blaenorol.
  • Roedd y ‘galwad cyhoeddus ‘am safleoedd yn waith cadarnhaol a arweiniodd at awgrymu 17 darn o dir ar gyfer eu defnyddio. Mae’r Cyngor yn dymuno diolch i’r rhai a ymatebodd i’r cais. O’r awgrymiadau hyn:
    • Gwrthodwyd un safle gan ei fod y tu allan i Sir Fynwy;
    • Gwrthodwyd naw safle gan eu bod yn groes i’r polisi risg llifogydd, yn dilyn yr un dull ag ar gyfer didoli tir Cyngor Sir Fynwy;
    • Gwrthodwyd un safle oherwydd ei fod o fewn Ardal Cadwraeth, yn dilyn yr un dull ac ar gyfer didoli tir Cyngor Sir Fynwy;
    • Ni roddwyd gwybodaeth ddigonol i ddynodi lleoliad dau safle;
    • Gwrthodwyd un safle gan ei fod yn rhy fach i ateb yr angen a ddynodwyd;
    • Cafodd tri darn addas o dir eu hasesu yn defnyddio’r COG.  Mae’r Cyngor wedi ysgrifennu at berchnogion y tri safle addas i benderfynu os oes ganddynt unrhyw ddiddordeb mewn gwerthu neu brydlesu’r tir hwn i’r Cyngor. Os yw perchnogion safleoedd addas yn cytuno i efallai werthu neu brydlesu ar gyfer y diben hwn, caiff y safleoedd hyn eu cynnwys yn yr ymgynghoriad cyhoeddus.
  • Mae trafodaethau yn parhau gydag aelwydydd presennol yn Sir Fynwy sy’n dymuno hunanwasanaethu ar safleoedd presennol, yng nghyswllt diwallu eu hanghenion eu hunain yn amodol ar y caniatâd angenrheidiol.

8.6 Cyfarfod y Cabinet – 4 Hydref 2023

Gellir gweld cyfarfod y Cabinet yma

Penderfyniad y Cabinet oedd derbyn yr argymhellion a nodir yn yr adroddiad sydd ar gael yma

2.1       Cadarnhau’r cynnig i dynnu’r safleoedd dilynol o’r broses dynodi safle yn unol â’r datganiad a wnaed i’r Cabinet ar 26 Gorffennaf 2023 gan yr Aelod Cabinet dros Gymunedau Cynhwysol bryd hynny:
Manson Heights, Trefynwy
Garrow Road, Llanfihangel Troddi
Rocklea, Llanfihangel Troddi

Yn dilyn ystyriaeth bellach o adborth gan y Pwyllgor Craffu Lle ar 19 Gorffennaf 2023 a’r gymuned ehangach yn Magwyr a Gwndy, cadarnhawyd y cynnig i dynnu Gorllewin Dancing Hill, Magwyr o’r rhestr o safleoedd posibl, am y rhesymau a roddir ym mharagraff 3.9 isod.

Dechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar y safleoedd dilynol y mae’r Cyngor yn berchen arnynt (rhoddir proffiliau cryno o’r safleoedd yn Atodiad 1, ar gyfer darpariaeth bosibl hyd at chwech llain yr un ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr:
2.5 Cynnwys yn yr ymgynghoriad cyhoeddus unrhyw safleoedd addas a ddaw ymlaen drwy’r galwad cyhoeddus am safleoedd, y mae’r perchennog yn fodlon eu gwerthu neu eu rhoi ar brydles hirdymor i’r Cyngor.

2.6 Edrych ymhellach ar gais Pwyllgor Craffu 19 Gorffennaf i gefnogi aelwydydd sy’n dymuno hunanwasanaethu ar safleoedd presennol a fyddai, yn amodol ar y caniatâd angenrheidiol, yn gostwng nifer y lleiniau newydd oedd eu hangen.

2.7      Cymeradwyo’r Cwestiynau Cyffredin (Atodiad 2), dogfen iterol a gaiff ei dangos a’i diweddaru’n rheolaidd ar wefan y Cyngor.

Gwnaed cais Galw i Mewn yn dilyn penderfyniad y Cabinet, gellir gweld y cais Galw i Mewn yma

8.7 Cyfarfod Craffu Lle – 23 Hydref 2023

Gellir gweld y cyfarfod Craffu Lle yma

Cafodd y cais Galw i Mewn ei ystyried yn y pwyllgor Craffu Lle ar 23 Hydref a chafodd ei atgyfeirio i gyfarfod y Cyngor Llawn ar 26 Hydref.

8.8 Cyfarfod y Cyngor Sir – 26 Hydref 2023

Gellir gweld cyfarfod y Cyngor Sir yma

Cafodd y cais Galw i Mewn ei ystyried gan y Cyngor Sir ar 26 Hydref, lle derbyniwyd cais gwreiddiol y Cabinet a wnaed ar 4 Hydref.

9. Ymgynghoriad Cyhoeddus

Penodwyd asiantaeth ymgysylltu cymunedol arbenigol ac annibynnol i gynnal yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ran y Cyngor. Diben y comisiwn yw gweithredu methodoleg sy’n adlewyrchiad cadarn o’r farn leol ac y gwelir ei bod yn agored, tryloyw, cymhwysol ac yn ymgysylltu. Cynhelir yr ymgynghoriad cyhoeddus am chwech wythnos.

Adborth gan y Gymuned

Er na wnaed unrhyw benderfyniad i ymgynghori ar unrhyw dir hyd yma, mae’r Cyngor eisoes wedi derbyn adborth gan aelodau o’r cyhoedd am Langley Close, Magwyr. Yn gryno, derbyniodd y Cyngor 58 o sylwadau unigol cyn ymgynghori, pob un ohonynt yn gwrthwynebu’r posibilrwydd o ddefnyddio Langley Close ar gyfer diben darpariaeth lleiniau ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr. Pe byddai’r Cabinet yn penderfynu ymgynghori ar Langley Close, caiff yr adborth ei fwydo’n awtomatig i’r broses ymgynghori i’w ystyried a’i drosglwyddo i’r asiantaeth arbenigol annibynnol y mae’r Cyngor yn gobeithio ei phenodi.

10. Camau Nesaf a Gynigir

Y camau nesaf a gynigir yng nghyswllt dynodi safle a’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd yw:

  • 9 Tachwedd – ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos yn dechrau, gan ddod i ben ar 22 Rhagfyr
  • Y Cabinet i benderfynu pa safleoedd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr sydd i’w cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd Adnau – dyddiad i gael ei gadarnhau yn dilyn yr ymgynghoriad
  • Ebrill/Mai 2024 – Cynllun Adnau i’r Cyngor i’w gymeradwyo ar gyfer ymgynghori – y Cynllun Adnau yw’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd llawn yn cynnwys pob dyraniad safle a phob polisi;
  • Medi 2024 – Cynllun Adnau i’r Cyngor yn dilyn ymgynghoriad i’w gymeradwyo i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer archwiliad cyhoeddus gan arolygydd annibynnol
  • Archwiliad cyhoeddus;
  • Gorffennaf 2025 – Cynllun Datblygu Lleol Newydd i’r Cyngor ar gyfer ei fabwysiadu.

11. Ymgynghoriad gyda’r Gymuned Sipsiwn a Theithwyr

Bu Travelling Ahead, y Grŵp Eiriolaeth Sipsiwn a Theithwyr, yn gweithio gyda swyddogion y Cyngor dros fisoedd lawer, a maent hefyd wedi cynnal dwy sesiwn hyfforddiant ar gyfer Aelodau Etholedig i godi ymwybyddiaeth o anghenion Sipsiwn a Theithwyr. Cynhelir cyfarfodydd gyda theuluoedd unigol hefyd a lle’n bosibl, rhoddir cymorth gyda cheisiadau cynllunio unigolion i alluogi rhai teuluoedd barhau yn eu safleoedd presennol, a all arwain at fod angen llai o leiniau ychwanegol.

Ymgynghorir â’r Gymuned Sipsiwn a Theithwyr fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus.

Caiff y dudalen hon ei diweddaru’n barhaus, felly edrychwch ar y ddolen os gwelwch yn dda. Ar gyfer unrhyw ymholiadau brys cysylltwch â: housingrenewals@monmouthshire.gov.uk a byddwn yn ymateb cyn gynted ag y medrwn.