Skip to Main Content

Ymgynghorodd Cyngor Sir Fynwy ar ei Gynllun Adnau, ynghyd â’r Adroddiad Gwerthuso Cynaliadwyedd Integredig ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ategol rhwng dydd Llun 4 Tachwedd a dydd Llun 16 Rhagfyr 2024. Cymeradwywyd y Cynllun Adnau ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus/ymgysylltu statudol yng nghyfarfod y Cyngor ar 24ain Hydref 2024.

Mae’r Cynllun Adnau yn gyfnod allweddol yn y gwaith o baratoi’r Cynllun Datblygu ar gyfer Sir Fynwy. Mae’n bwrw ymlaen â’r gwaith casglu tystiolaeth, ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r gwaith Cyn-adneuo a gyflawnwyd hyd yma, gan gynnwys yr ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir, ac mae’n nodi’r strategaeth, cynigion a pholisïau manwl ar gyfer defnydd a datblygiad tir yn Sir Fynwy yn y dyfodol dros y cyfnod 2018-2033.   Bydd y CDLlA yn cwmpasu’r Sir gyfan ac eithrio’r ardal o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (PCBB).

Cynllun Adnau’r CDLlN (Map Cynigion, Map mewnosod & Map Cyfyngiadau)

Arfarniad o Gynaliadwyedd Integredig

Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

Mae Crynodeb o’r Cynllun Adnau hefyd ar gael ynghyd ag animeiddiad ar ffurf fideo byr. Mae’r hysbysiad ffurfiol o ymgynghori , Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol ac Adroddiad Asesu’r Safleoedd Ymgeisiol, ynghyd â’r dogfennau sylfaen tystiolaeth a phapurau cefndir sydd wedi llywio’r CDLlA, ar gael i’w gweld i’w archwilio gan y cyhoedd. Mae gwybodaeth bellach am broses y Safleoedd Ymgeisiol ar gael ar dudalen neilltuol yn ymwneud â Safleoedd Ymgeisiol.

Mae rhagor o wybodaeth am yr Arfarniad o Gynaliadwyedd Integredig a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gael ar dudalen benodol i’r gofynion statudol hyn ac mae’n cynnwys crynodebau Annhechnegol.

Mae Cytundeb Cyflenwi diwygiedig wedi’i baratoi ochr yn ochr â’r Cynllun Adnau sy’n diwygio amserlen y prosiect ar gyfer paratoi’r Cynllun.